






Mae RhAG wrthi’n cefnogi nifer o rieni yn barod dros Gymru gyfan, ond er mwyn medru cyrraedd mwy o rieni a chynnig yr un gefnogaeth i holl rieni Cymru, mae yna gost ariannol. Mae RhAG yn dibynnu’n helaeth iawn ar wirfoddolwyr ac yn ddiolchgar iawn am bob cymorth. Drwy ddod yn aelod o RhAG byddwch yn dangos eich cefnogaeth i waith RhAG a byddwch yn derbyn gwahoddiad i’n cyfarfod blynyddol ni ym mis Ionawr a cewch gopi personol o Rhagolwg sef cylchgrawn RhAG, drwy’r post 3 gwaith y flwyddyn. Dyma eich cyfle i gefnogi un o ddatblygiadau mwyaf cyffrous Cymru. Ar gyfer y ffurflen, gwasgwch YMA.
Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn gymdeithas genedlaethol o rieni sydd am gefnogi a datblygu ysgolion Cymraeg ac am roi cyfle cyfartal i’r rhai sy’n dymuno rhoi addysg Gymraeg i’w plant. Ein nod yw galluogi ein plant i fod yn gyflawn ddwyieithog ac yn hyderus i ddefnyddio eu Cymraeg a’u Saesneg ymhob achlysur fel y bo’n addas. Ers Mai 1af eleni, mae Swyddog Datblygu cyntaf RhAG wedi bod yn gweithio ar ehangu gwaith y mudiad. Hyd yn hyn y mae tri grwˆp newydd wedi eu sefydlu i ychwanegu at y grwpiau sydd eisoes yn weithgar yn ein cymunedau ers blynyddoedd. Er mwyn mynd i’r afael â’r dasg o sicrhau bod Awdurdodau Addysg Lleol ledled Cymru yn mynd ati i gynllunio eu darpariaeth addysg Gymraeg yn ôl y galw a sicrhau dilyniant o addysg cyn-ysgol, i’r cynradd, i’r uwchradd ac i addysg uwch yn ogystal, y mae Gweithgor Cenedlaethol RhAG, y Swyddog Datblygu a’r grwpiau lleol yn cydweithio’n gyson gyda swyddogion addysg a mudiadau cenedlaethol maes addysg ar nifer o agweddau cynllunio. Rhieni o wirfoddolwyr yw rhan helaeth o gefnogwyr RhAG ond mae eisiau cyllid digonol i barhau â’r gwaith yn effeithlon ac felly fe’ch gwahoddwn yn garedig i gefnogi ein gwaith drwy ymaelodi’n ffurfiol ar gyfer y flwyddyn 2006/2007. Bydd eich aelodaeth yn mynd tuag at gostau gweinyddol RhAG, yn ogystal â chynhyrchu ein cylchgrawn chwarterol RHAGOLWG. Mae’n gwefan sef w yn cael ei diweddaru’n gyson a bydd unrhyw fewnbwn gan ein aelodau yn cael ei groesawu. Mae cyfle erbyn hyn i hysbysebu swyddi o fewn maes addysg ar ein gwefan. Bydd y Swyddog Datblygu wrth law i ateb unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd gyda chi am wahanol agweddau o fewn y maes Addysg Gymraeg a’i ddatblygiad a bydd yr amserlen o ddatblygu grwpiau lleol o gynrychiolwyr ymysg rhieni, penaethiaid, athrawon, llywodraethwyr ysgolion a chyfeillion yn parhau drwy gydol y flwyddyn. Ar gyfer y ffurflen, gwasgwch YMA.