Hafan : Home

Amdanom ni : About us


Addysg : Education

Newyddion : News

Maes 'Rh' : Parents' Area

Cysylltu : Contacts

Dolenni : Links

19-02-08

FFIGURAU'N DWEUD CYFROLAU YN WRECSAM

Sir Wrecsam yw'r ddiweddaraf i gyhoeddi canlyniadau eu gwaith ymchwil hwy ar y galw am addysg Gymraeg. Unwaith eto, y mae'r niferoedd yn hynod galonogol.

I grynhoi dogfen swmpus o 35 tudalen yn llawn ffigurau a ffeithiau, dyma brif ganfyddiadau'r arolwg:

• Allan o gyfanswm o 1569 arolwg a ddanfonwyd derbyniwyd ymatebion gan 32%
• Ymatebodd 36% o'r rhain gan ddweud y byddant yn debygol neu'n weddol debygol o ddanfon eu plant i Ysgol Gymraeg, gyda 24% yn dweud y byddai'n debygol iawn o ddanfon eu plant i Ysgol Gymraeg.
• Dywed yr arolwg y dylai canfyddiadau'r arolwg hwn gael ei gyfrif fel isafswm y galw a bod y gwir alw yn debygol o fod yn uwch.
• Nododd 89% o'r ymatebion yr hoffent i'w plant fedru siarad Cymraeg.

Cafodd RhAG gyfle cynnar i drafod gyda'r Sir ar y dulliau oedd wedi eu defnyddio yn y gorffennol ac yr ydym yn falch ac yn ddiolchgar am y cyfle a gawsom i gydweithio gyda'r adran addysg ar gynllunio'r arolwg a hefyd am y gwaith parhaol sydd yn digwydd yn awr ac a fydd yn digwydd yn y dyfodol wrth i'r sir ymateb i'r galw sydd yn amlwg iawn yn cynyddu.

Defnyddiodd y cwmni holi ddull ysgrifenedig drwy'r post ac ar y we yn ogystal â ffonio rhieni i dderbyn yr ymatebion ac felly'n ceisio ymatebion gan rieni'r nifer mwyaf posibl o blant a anwyd rhwng Medi 2005 ac Awst 2006.

Dengys yr arolwg yn weddol amlwg fod yna gynnydd mawr yn y galw am addysg Gymraeg yn sir Wrecsam. Bydd raid bod yn barod am waith trylwyr i ddadansoddi'r wybodaeth hon a throsi'r wybodaeth i gynlluniau tymor byr a hir er mwyn mynd i'r afael â'r heriau fydd yn wynebu swyddogion addysg ac ysgolion Cymraeg y sir.

Un o ofynion cynlluniau Addysg Gymraeg sirol yw dangos dull o fesur y galw am addysg Gymraeg. Erbyn hyn mae nifer o siroedd wedi gwneud hyn ac ambell un yn ymchwilio i ddulliau newydd o fesur y galw boed gan gwmni allanol neu'n gan swyddogion mewnol.

cymraeg
English
cymraeg