






10-12-07
Saith o ysgolion Cymraeg newydd - dyna lwyddiant rhyfeddol eleni i'r rhai sy’n ymgyrchu dros addysg Gymraeg. Bydd yr ysgolion hyn yn siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Caerffili a Chasnewydd a bydd y ddarpariaeth yn cynyddu drwy safle newydd yn Abertawe a safle mwy yn Sir Fynwy. Dim ond ychydig o blith nifer o ddatblygiadau cadarnhaol gan Awdurdodau Lleol ym maes Addysg Gymraeg yw’r rhain.
Mae mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r awdurdodau hyn er mwyn sicrhau bod lleoedd cynyddol mewn ysgolion Cymraeg yn cael eu creu drwy sefydlu ysgolion newydd.
Er mwyn ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg ar draws Cymru, mae Rhag yn ymdrechu i sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn datblygu systemau dibynadwy i fesur y galw ac i ymateb iddo.
Mae’r galw wedi dod yn amlwg yn rhai o’r ardaloedd mwyaf Seisnigedig gan gynnwys Casnewydd a Wrecsam. Drwy ofyn i rieni ar adeg gynnar ym mywydau eu plant am y dewisiadau posibl sydd ar gael iddynt o fewn eu cymunedau, a thrwy wrando ar ymatebion rhieni mae cyfle i flaengynllunio. Mae addysg Gymraeg yn rhoi’r cyfle cynnar i’r plentyn gychwyn ar y daith i fod yn unigolyn dwyieithog. Mae’n hollbwysig bod y plentyn yn derbyn y gefnogaeth addysgol a chymunedol er mwyn rhoi’r cyfle iddynt fyw eu bywydau drwy gyfrwng dwy iaith.
Mae mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn galw ar Aelodau’r Cynulliad i sicrhau bod amser digonol yn cael ei roi i drafod gwelliannau i’r ddeddfwriaeth bresennol ym maes addysg er mwyn sicrhau strategaeth bwrpasol i addysg Gymraeg a hefyd i’r Iaith Gymraeg.
Mae RhAG yn rhan o’r ymgyrch gan Fudiadau Dathlu’r Gymraeg i dynnu sylw at yr angen i adolygu’r ddeddfwriaeth ac i dynnu sylw at lwyddiannau’r Gymraeg.
Meddai Elin Maher, Swyddog Datblygu Cenedlaethol RhAG,
“Wrth i rieni ddod yn fwy ymwybodol o’r dewisiadau lleol o ran cyfrwng addysg mae mwy a mwy yn dewis addysgu eu plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n holl bwysig fod Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwrando ar lais rhieni a darparu addysg Gymraeg gan hefyd sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei chefnogi a’i chynnal o fewn ein cymunedau lleol yn ogystal. Drwy ymuno a Mudiadau Dathlu’r Gymraeg mae RhAG yn dangos bod rhaid rhoi cyd-destun real a chyfoes i’r Gymraeg fel ei bod yn cael ei meithrin o fewn ein cymunedau yn ogystal ag yn ein hysgolion. ”
Prif alwadau Mudiad Dathlu’r Gymraeg yw:
1. Camau cadarnhaol gan Lywodraeth y Cynulliad yn ystod y pedair blynedd nesaf i sicrhau
bod pawb yng Nghymru yn cael defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau, gan
gynnwys:
2. Statws Swyddogol i’r Iaith Gymraeg.
3. Hawliau statudol i bawb o bobl Cymru ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd.
4. Diogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol.
5. Sefydlu Comisiynydd yr Iaith Gymraeg i warchod yr hawliau hynny.
Diwedd