






15-11-07
15-11-2007
Heddiw rhyddheuwyd y datganiad canlynol gan Gyngor Casnewydd:
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig y bydd ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg newydd yn agor yng Nghasnewydd.
Caiff ail ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg ei creu mewn lleoliad dros dro ar gyn safle Ysgol Gatholig Gynradd St David Lewis, yn ddibynnol ar drafodaethau â Chomisiwn Ysgolion yr Archesgobaeth sy’n berchen ar y tir.
Bydd yr ysgol yn agor gyda meithrinfa, dosbarth derbyn a blwyddyn 1 ym mis Medi 2008. Caiff yr ysgol ei lleoli mewn safle dros dro nes bydd lleoliad parhaol ar gael.
Meddai’r cynghorydd Bob Poole, aelod cabinet dros wasanaethau pobl ifanc: “Mae gennym ymrwymiad at ddarparu addysg gyfrwng Gymraeg i ddisgyblion o fewn pellter rhesymol o’u cartrefi.
“Bydd creu’r ysgol newydd hon yn gwella ein darpariaeth addysgol yn y ddinas ar gyfer rhieni sydd am gael addysg gyfrwng Gymraeg i’w plant.
“Dyma ehangiad cyffrous o addysg gyfrwng Gymraeg yng ngorllewin ein dinas ac mae’n adlewyrchu’r uchelgeisiau sydd gennym i wneud Casnewydd yn ddinas fodern a bywiog ar gyfer ei holl drigolion.”
Yn 2006, roedd y cyngor wedi ymgynghori â holl rieni plant rhwng un a dwy mlwydd oed i asesu’r galw am addysg gyfrwng Gymraeg yn y ddinas. Dangosodd yr ymgynghoriad fod galw digonol ar gyfer creu ail ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg yn y ddinas, a bydd y cyngor yn dechrau’r trefniadau ar gyfer ei creu yn fuan.
Parhaodd Cynghorydd Poole: “Mae’r cyhoeddiad yn rhan o’n gwaith parhaol i sicrhau fod plant Casnewydd yn derbyn y dechrau gorau mewn bywyd. Mae’n dangos ein ymrwymiad i ehangu a gwella darpariaeth addysg Gymraeg yn y ddinas a bydd yn ein helpu i sicrhau bod ein disgyblion yn derbyn y safon o addysg y maent yn ei haeddu.”
Agorodd ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg gyntaf y ddinas, Ysgol Gymraeg Casnewydd, ym 1993.
Am fwy o wybodaeth am yr ysgol gynradd Gymraeg newydd, ysgrifennwch at y prif swyddog addysg, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd, NP20 4UR.
diwedd