






28-10-07
Braf oedd bod mewn neuadd yn llawn o rieni, plant a chyfeillion Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug i drafod ar sut y gallwn fod yn rhan o gynlluniau Cyngor Sir Merthyr ar ddatblygiad Addysg Gymraeg.
Roedd y cyfarfod cyntaf yn Rhyd y Grug yn benodol i rhannu gwybodaeth am waith RhAG ac am sut y gall rhieni fod yn ran ganolog o'r gwaith cynllunio sy'n digwydd ar hyd a lled y Sir ar hyn o bryd. Bydd cyfarfod nesaf i ffurfioli pwyllgor ac i symud ymlaen ar y gwaith o sicrhau bod Addysg Gymraeg yn ennill tir mewn ardal sy'n colli poblogaeth.
Mae nifer o gynlluniau gan y sir i adfywio'r ardal ac y mae'r cynlluniau hyn wrth gwrs yn cynnwys addysg. Ond y mae oedi hir ar gynllun i adleoli Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug yn peri pryder i nifer o rieni a bod y diffyg gwybodaeth am pryd fydd yr ysgol yn newid safle yn cael dylanwad ar ddewis rhieni. Gobaith RhAG yw canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth gadarnhaol o addysg Gymraeg yn yr ardal a chefnogi'r gwaith sy'n digwydd o fewn yr ysgolion ac yn y gymuned drwy waith Menter Iaith Merthyr.
Cam cyntaf y gr?p fydd llunio ymgyrch codi ymwybyddiaeth am addysg Gymraeg yn ne'r Sir gan obeithio y bydd ymgyrchoedd eraill yn dilyn yn fuan.
Mae Ysgol Gymraeg Santes Tudful yn symud i adeilad newydd y flwyddyn nesaf ac y mae'n bur debyg y bydd yr adnodd newydd pwrpasol hyn yn denu hyd yn oed mwy o blant i'r ysgol. Her felly bydd i gr?p RhAG Merthyr i sicrhau cydweithio cyson gyda'r awdurdod addysg lleol er mwyn sicrhau cynllun i ddatblygu ac ehangu ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y Sir a hwn yn gynllun tymor hir.
Cysylltwch â Jamie Bevan ym Menter Iaith Merthyr ar 01685 722176 neu Elin Maher, swyddog datblygu RhAG am fwy o wybodaeth am gyfarfodydd ac ymgyrchoedd y dyfodol.
diwedd
