Hafan : Home

Amdanom ni : About us


Addysg : Education

Newyddion : News

Maes 'Rh' : Parents' Area

Cysylltu : Contacts

Dolenni : Links

25-10-07

ADEILAD TEILWNG I BLANT YSGOL GYMRAEG Y FENNI

Mae Hydref y 25ain yn ddiwrnod hanesyddol iawn i dref y Fenni gan fod lleoliad newydd Ysgol Gymraeg y dref yn cael ei  hagor yn swyddogol gan y Gweinidog Addysg, Jane Hutt.

Y mae plant a staff yr ysgol wedi gorfod symud o un adeilad i’r llall ar hyd y blynyddoedd ac ers mis Medi, mae’r Ysgol wedi sefydlu mewn adeilad newydd sbon ar Heol Dewi Sant – am enw pwrpasol i Ysgol Gymraeg!

Yn ogystal ag adeilad newydd, mae pennaeth newydd, sef Mrs Anne Bellis, wedi cychwyn mewn swydd newydd. Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Ystalyfera, bu Mrs Bellis yn athrawes Saesneg yn Ysgol Gyfun Gwynllyw cyn dod i’r Fenni ac y mae’n amlwg  nad yw wedi cael digon amser o gwbwl i weld eisiau ei hen swydd gan gymaint y prysurdeb a fu dros yr haf yn sicrhau y byddai popeth yn ei le ar gyfer y plant a’r athrawon ar gychwyn y tymor newydd.

Meddai Mrs Bellis, "Mae’n bwysig iawn i ni gael lleoliad teilwng i’r plant a’r athrawon. Mae adnoddau hyfryd gyda ni nawr ac y mae’r dosbarth derbyn yn llenwi’n gyflym! Mae hyn yn arwydd bod rhieni yn ymateb i ansawdd adeilad ac wrth gwrs y mae plant Ysgol Gymraeg y Fenni wedi derbyn addysg o’r ansawdd gorau ers y cychwyn. Rydym am gynnal a datblygu’r ymdeimlad teuluol sydd wedi bod yn rhan o hanes Ysgol y Fenni erioed a datblygu i fod yn ysgol Gymraeg  Gymunedol yng ngwir ystyr y gair."

Mae cylch Meithrin Mudiad Ysgolion Meithrin ar safle’r ysgol a fydd yn bwydo plant yn uniongyrchol i’r dosbarth derbyn ac yna i Ysgol Gyfun Gwynllyw byddant yn mynd yn ddisgyblion uwchradd.

Nid yw’r ardal hon o Gymru wedi bod yn adnabyddus am dwf ysgolion Cymraeg ond yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf gwelwyd ymgynghori cyson gyda rhieni o du’r Awdurdod Addysg. Bu hefyd nifer o gamau cadarnhaol gyda rhyngweithio lleol rhwng addysg statudol ac anstatudol a mudiadau cymunedol. Mae’n dangos bod yna awydd yn codi ym mhoblogaeth  Sir Fynwy am y cyfle i addysgu plant er mwyn dod yn ddinasyddion dwyieithog. Mae agwedd Awdurdod Lleol ynghylch addysg Gymraeg yn cael dylanwad cryf ar rieni. Os dengys agwedd iach, gynhwysol, mae rhieni yn barotach o lawer i dderbyn fod Addysg Gymraeg yn ddewis hyfyw, hyd yn oed yn y cymunedau mwyaf Seisnig.

Edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld canlyniad ymgynghoriad ar adleoli Ysgol y Ffin yn ne Sir Fynwy a fydd yn galluogi’r ysgol i bron a threblu ei niferoedd. Mae gobaith y bydd yr ysgol hon yn adleoli i Gilycoed ym Medi 2008 gan bron â threblu niferoedd posibl Addysg Cynradd Cymraeg de’r Sir.

diwedd

cymraeg
English
cymraeg