






16-10-07
Mae hi erioed wedi bod yn gwestiwn dyrys i ddarparwyr addysg Gymraeg sut y gallan nhw gynnig eu ffurf hynod o lwyddiannus ar addysg i hwyrddyfodiaid. Cafodd cynhadledd yn Wrecsam ar ddydd Sadwrn 13 Hydref glywed am gynlluniau "trochi" a redir gan ddwy ysgol yn y gogledd ddwyrain i gyflawni hyn.
Y siaradwyr gwadd yng Nghynhadledd Flynyddol Rhieni dros Addysg Gymraeg oedd Huw Alun Roberts, pennaeth Ysgol Maes Garmon (yr Wyddgrug) a Huw Foster Evans, pennaeth Ysgol Gyfun Morgan Llwyd (Wrecsam). Cynhaliwyd y Gynhadledd yn Ysgol Gyfun Morgan Llwyd.
Yn y rhan fwyaf o ardaloedd Seisnigedig Cymru, mae hi'n bosibl i riant Saesneg ei iaith ddewis addysg Gymraeg dros ei blentyn ond bod y plentyn yn ymuno â'r system yn gynnar er mwyn cael digon o amser i feistroli'r cyfrwng cyfathrebu newydd. Fel arfer, nid oes digon o adnoddau wedi bodoli i roi'r cyfle i blant uniaith Saesneg ymuno ag addysg Gymraeg uwch. Mewn tair ysgol yn y gogledd ddwyrain (Maes Garmon, Morgan Llwyd a Glan Clwyd), fodd bynnag, mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ariannu cynlluniau trochi i alluogi'r ysgolion i wneud hyn.
Dywedodd Huw Alun Roberts fod cyfartaledd o 15 yn dod o ysgolion cynradd Saesneg i gynllun trochi Maes Garmon, ac ambell flwyddyn mae dros 20 plentyn (mae'r cynllun wedi rhedeg ers sawl blwyddyn bellach). Aeth ymlaen i esbonio sut mae'r cynllun yn gweithio gan ddweud bod y plant yn derbyn 6 wythnos o drochi yn y Gymraeg yn nhymor olaf Blwyddyn 6 (blwyddyn olaf yr ysgol gynradd) ac wedyn maent yn cael eu haddysgu ar wahân yn y rhan fwyaf o bynciau ym Mlwyddyn 7 (blwyddyn gyntaf yr ysgol uwchradd) gyda chryn bwyslais ar ddatblygu eu Cymraeg. Maent yn derbyn llai o wersi Ffrangeg o'u cymharu â gweddill eu cyfoedion ym Mlwyddyn 7, ond fe wneir yn iawn am hyn yn nes ymlaen ac mae'r ffigurau yn dangos bod yr un canran o'r hwyrddyfodiaid ag eraill yn dilyn y pwnc hyd TGAU.
Dim ond ers tair blwyddyn y mae cynllun trochi Morgan Llwyd yn bodoli. Mae niferoedd y sawl sydd yn manteisio ar y cynllun wedi codi o 7 y llynedd i 13 eleni. Dywedodd Huw Foster Evans, "Mae'n wyrthiol y cynnydd mae'r disgyblion yn ei wneud ac mi rydan ni'n gweld integreiddio llwyddiannus iawn efo'r criw bychan sydd ar yn o bryd ym mlwyddyn 8."
"Rhaid canmol ymrwymiad y disgyblion yma, ond dydy'r cynllun ddim yn cymryd lle nac yn tanseilio gwerth addysg gynradd Gymraeg."
diwedd

Huw Alun Roberts (chwith) a Huw Foster Evans |