






16-10-07
Etholwyd Eirian Youngman yn gadeirydd newydd y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn ei gyfarfod blynyddol ar ddydd Sadwrn 13eg Hydref 2007.
Magwyd Eirian, sy’n 36 oed, yng Nghwmtawe, a bu’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Rhiwfawr ac Ysgol Gyfun Ystalyfera.
Wedi graddio o Brifysgol Cymru Aberystwyth gyda gradd anrhydedd gyfun yn y Gymraeg a’r Saesneg ym 1992, treuliodd rai blynyddoedd yn gweithio yn y cyfryngau fel cynhyrchydd gyda BBC Radio Cymru yn Abertawe. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, cafodd y cyfle i ddatblygu ei gyrfa ysgrifennu, drwy lunio sgriptiau niferus ar gyfer ‘Pobol y Cwm’, dyfeisio ac ysgrifennu cyfresi radio i Radio Cymru, ac addasu nofelau i’r Gymraeg amrywiol weisg.
Ym 1998, penderfynodd Eirian fod yr amser wedi dod ar gyfer her newydd, felly dyma newid cyfeiriad a symud i fyd cyfieithu.
Yn dilyn cyfnodau yn gweithio yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus, mae hi bellach yn gweithio’n annibynnol ac wedi sefydlu ei busnes cyfieithu ei hun.
Ers 1995, mae Eirian yn byw yng Nghastell-nedd. Mae’n briod a chanddi ddau o blant sy’n ddisgyblion yn Ysgol Gymraeg Castell-nedd, lle mae hithau ei hun yn rhiant-lywodraethwr.
Ers Ebrill 2006 mae Eirian yn Gadeirydd Cangen Sirol Castell-nedd Port Talbot RhAG, ac wedi llwyddo i ail-sefydlu perthynas rhwng RhAG a’r awdurdod addysg er mwyn ceisio sicrhau darpariaeth deilwng o safbwynt addysg Gymraeg ar gyfer plant a rhieni yn y sir honno.
Mae hi hefyd yn aelod o Bwyllgor Rheoli Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot.
“Mae’n bleser ac yn fraint ymgymryd â gwaith Cadeirydd RhAG ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae gwaith clodwiw ein swyddog cyflogedig cyntaf, Elin Maher, dros y 18 mis diwethaf eisoes yn dwyn ffrwyth ar ei ganfed, ac edrychaf ymlaen at gydweithio â hi er mwyn parhau i ddatblygu amcanion RhAG ymhellach drwy Gymru gyfan, a sicrhau bod darpariaeth deg ar gael i bob plentyn a rhiant sy’n dymuno addysg cyfrwng Cymraeg.”
diwedd
