Hafan : Home

Amdanom ni : About us


Addysg : Education

Newyddion : News

Maes 'Rh' : Parents' Area

Cysylltu : Contacts

Dolenni : Links

11-10-07

A YDY'R CYNLLUNIAU TROCHI YN GWEITHIO?

Mae Cymru'n gyfarwydd erbyn hyn o'r cysyniad o blant o deuluoedd Saesneg eu hiaith yn meistroli'r Gymraeg cystal â'u cyfoedion o deuluoedd Cymraeg trwy fynychu ysgolion Cymraeg o'r cychwyn cyntaf. Ond mae cynlluniau wedi bodoli yn y Gogledd am beth amser lle mae plant o ysgolion cynradd Saesneg yn cael eu "trochi" yn yr iaith mewn dosbarthiadau arbennig er mwyn cael eu cymhathu i brif ffrwd yr ysgol uwchradd Gymraeg maes o law.

Bydd Cyfarfod Blynyddol y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg yn clywed am ganlyniadau'r cynlluniau yma mewn anerchiadau gan Huw Foster Evans, pennaeth Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, a Huw Alun Roberts, pennaeth Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug.

Cynhelir y Carfarfod Blynyddol yn Ysgol Morgan Llwyd, Ffordd Cefn, Wrecsam, ar ddydd Sadwrn Hydref 13. Bydd yr siaradwyr gwadd yn dechrau rhoi eu harnerchiadau am 12 o'r gloch.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae 19.3% o blant cynradd Cymru yn derbyn addysg Gymraeg a 15.7% o blant uwchradd (yn seiliedig ar y sawl sydd yn astudio'r pwnc 'Cymraeg Iaith Gyntaf'). Mae Llywodraeth y Cynulliad ac Awdurdodau Lleol Cymru yn derbyn yr egwyddor y dylai pob plentyn gael mynediad i addysg Gymraeg, ond yn anffodus, nid oes ysgolion Cymraeg eu cyfrwng o fewn pellter rhesymol i bawb yng Nghymru, o bell ffordd. Mae ymchwil wedi dangos y byddai hyd at 50% o rieni yng Nghymru am anfon eu plant i ysgolion Cymraeg pebaent yr un mor hygyrch ag ysgolion Saesneg eu cyfrwng. Gwaith RhAG yw i ddarbwyllo awdurdodau lleol a'r Cynullliad i ddaparu'n deilwng at y galw yma.

diwedd

cymraeg
English
cymraeg