Hafan : Home

Amdanom ni : About us


Addysg : Education

Newyddion : News

Maes 'Rh' : Parents' Area

Cysylltu : Contacts

Dolenni : Links

1-09-07

"WEDI DANGOS ADDEWID"

BUASAI adroddiad academaidd diwedd tymor Cyngor Caerdydd yn datgan: "wedi dangos addewid yn ystod y 12 mis diwethaf ond angen dyfalbarhad er mwyn sicrhau llwyddiant. Mae angen dangos gwelliant mewn nifer o feysydd."

Ym mis Medi, y bwriad yw y bydd pedwar dosbarth cychwynnol yn cael eu sefydlu yn y sector gynradd. Mae’r dosbarthiadau hyn yn angenrheidiol er mwyn diwallu'r galw cynyddol am addysg Gymraeg ar draws y brifddinas. Nid yw’r dosbarthiadau yn fath o gynllun y buasai RHAG wedi cymeradwyo pe bai cynllunio manwl o flaen llaw wedi digwydd. Er tegwch i’r Cyngor mae’r cynnydd yn y galw wedi bod heb gynsail, bron i 20% mewn un flwyddyn.

Mae yna ofidiau lu o hyd am y cynllun. Lleolir y dosbarthiadau, am o leiaf dwy flynedd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg er y bydd cyfrifoldeb bugeiliol o dan adain penaethiaid pedair ysgol Gymraeg. Mae ychydig o rieni wedi gwrthwynebu un dosbarth penodol oherwydd gofidiau am adnoddau a lleoliad y dosbarth cychwynnol. Mae’n bwysig bod y cyngor yn ymateb yn bositif i’r gofidiau.

Prif ofid RhAG Caerdydd yw y bydd y dosbarthiadau yn bodoli yn eu lleoliadau am fwy na dwy flynedd. Bwriad y Cyngor yw bod y dosbarthiadau yn cael eu trawsnewid i ysgolion cyflawn cyn gynted ag y bo modd. Yn statudol yr hyn a ddywedir gan y Cyngor yw nad oes hawl ganddynt reoli’r dosbarthiadau am fwy na ddwy flynedd heb eu sefydlu fel ysgolion cyflawn. Nid yw hyn yn cynnig sicrwydd na fydd y dosbarthiadau yn cael eu trawsnewid yn ysgolion ond yn gorfod dal i rannu safle am gyfnod hwy na ddwy flynedd. Mae RhAG Caerdydd wedi gofyn am sicrwydd mai cyfnod o ddwy flynedd ar y mwyaf y lleolir dosbarthiadau oddi fewn i adeilad ysgol cyfrwng Saesneg. Mae’r cyngor yn dal i fynnu nad oes modd sefydlu ysgolion newydd heb fynd i’r afael a llefydd gwag mewn nifer o ysgolion (cyfrwng Saesneg). Mae hyn yn golygu na fydd ysgolion cyfrwng Cymraeg cynradd yn medru cael eu sefydlu hyd nes bod y cyngor yn datgan, ymgynghori a gweithredu ar gynlluniau i ail-strwythuro’r sector gynradd Saesneg. Mae hyn yn anorfod yn golygu cau nifer o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg. Mae yna ofnau go iawn y bydd y broses yn cymryd mwy na ddwy flynedd. Rhaid cofio hefyd y bydd penderfyniadau yn cael eu llesteirio i raddau gan etholiadau’r cyngor y flwyddyn nesaf.

Nod y Cyngor a RhAG Caerdydd yw gweld pedair ysgol gynradd newydd gyfrwng Cymraeg. Y gobaith yw y bydd y lleoliadau yn gwneud ysgolion Cymraeg yn fwy canolog yn eu cymunedau lleol. Mae rôl RhAG wedi bod yn ganolog yn y broses gyda nifer o gyfarfodydd gyda swyddogion y cyngor yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rhaid talu teyrnged i ymroddiad, gwybodaeth a dycnwch Michael Jones wrth geisio dwyn perswâd ar y Cyngor am yr angen i gynllunio o flaen llaw.

Hywel James, RhAG Caerdydd.

cymraeg
English
cymraeg