Hafan : Home

Amdanom ni : About us


Addysg : Education

Newyddion : News

Maes 'Rh' : Parents' Area

Cysylltu : Contacts

Dolenni : Links

4-08-07

TRYDEDD YSGOL UWCHRADD I GAERDYDD?

Ar ddiwedd tymor yr haf cafwyd cyhoeddiad hir disgwyliedig am leoliad trydedd ysgol uwchradd Gymraeg ar gyfer Nghaerdydd ar safle ysgol gyfrwng Saesneg Teilo Sant, Llanedeyrn

Bydd rhaid monitro’r sefyllfa yn ofalus er mwyn sicrhau bod targed Medi 2009 yn cael ei wireddu fel dyddiad agor yr ysgol.

Cyplyswyd y cyhoeddiad gydag argymhellion ar gyfer ehangu dwy ysgol gynradd Cymraeg, Melin Gruffudd a’r Wern. Y bwriad yw bod dwy ysgol gyfrwng Saesneg sydd yn rhannu safleoedd yn cael eu hail-leoli. Nid oes sicrwydd y cânt y cynlluniau yma eu gwireddu. Mae’n bwysig bod RhAG Caerdydd yn pwyso ar y cyngor er mwyn gwella cyfleusterau presennol yr ysgolion Cymraeg.

Nid yw’r cyngor wedi ymateb i alwadau i wella adnoddau dwy ysgol arall, Coed y Gof a Threganna. Mae rhieni Treganna wedi bod yn ymladd ymgyrch gref ac effeithiol i dynnu sylw at y problemau difrifol sydd yng nghyfleusterau’r ysgol. Os gwireddir y
newidiadau arfaethedig, bydd hyn yn lleihau ychydig ar y pwysau sydd ar yr ysgolion presennol o ran niferoedd.

Hywel James, RhAG Caerdydd

cymraeg
English
cymraeg
Ysgolion uwchradd Caerdydd