Hafan : Home

Amdanom ni : About us

Addysg : Education


Newyddion : News

Cysylltu : Contacts

18-06-07

GRYM RHIENI YN DWYN FFRWYTH YNG NGHAERFFILI

Daeth enw pentref Oakdale yn enwog i lawer yng Nghymru pan symudwyd Sefydliad y Glowyr y “Stiwt” i lawr i’r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan. Wel, mae’r pentref sydd hefyd yn enwog am ei fand pres bellach wedi dod i amlygrwydd pellach.

Yma, yn Oakdale, y mae Ysgol Gymraeg mwyaf newydd Sir Caerffili i agor ym mis Medi 2007. Ysgol Gymraeg mwyaf newydd y Sir ac Ysgol Gymraeg gyntaf Cwm Sirhywi yn etholaeth Bedwellte. Dosbarth yn unig fydd yno eleni a hwnnw’n cael ei reoli o Ysgol Gymraeg Trelyn, yr ysgol mae plant y pentref yn mynychu ar hyn o bryd. Wedyn, ym mis Medi 2008 y gobaith yw y bydd hon yn Ysgol Gymraeg annibynnol a fydd yn tyfu i’w llawn botensial.

Agorir yr ysgol i ddiwallu’r galw cynyddol sydd am addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal y Coed Duon. Bu rhieni’r ardal yn ymgyrchu’n frwd ers cyn Nadolig. Yn wir buont yn ymgyrchu o’r adeg y cawsant wybod nad oedd lle yn Ysgol Gymraeg Trelyn ar gyfer eu plant i gyd. Dim ond 27 o blant y mae’r ysgol honno’n gallu derbyn bob blwyddyn ac eto roedd 38 o enwau wedi dod i law - a hynny cyn y Nadolig. Yn ychwanegol, roedd gofid nad oedd lle, efallai, yn y dosbarth derbyn ar gyfer plant oedd eisoes wedi dechrau yn nosbarth meithrin yr ysgol. Wyr rhieni sy’n gadael i’w plant fynychu eu hysgol leol ddim byd am ansicrwydd fel hyn.

Mae’r rhieni brwd hyn i’w llongyfarch wrth iddynt, ar ôl cynnal cyfarfod cyhoeddus, lythyru cynghorwyr, aelodau seneddol, aelodau’r Cynulliad yn ogystal â chysylltu â’r wasg a Gweinidog Cymru dros Addysg. Roedd yr awdurdod yn fodlon darparu ystafell ddosbarth dros dro arall, yn Nhrelyn, ond ni fyddai hwnnw yn ateb boddhaol am nifer o resymau.

Ond beth am enw i’r ysgol newydd hon? Ysgol Gymraeg Cwm Sirhywi? Ysgol Gymraeg Oakdale neu beth am enw Cymraeg ar gyfer Oakdale? Nid Ystrad Derw, gobeithio! Neu beth am gofio dau o feirdd y Cwm hwnnw drwy ei bedyddio’n Ysgol Islwyn neu Ysgol Aneurin? Byddai’r teitl “Bro” yn gweddu’n well na “Ysgol Gymraeg” fel y ceir ym Mro Sannan a Bro Allta erbyn hyn - cydnabyddiaeth bod ein hysgolion Cymraeg bellach o fewn ein cymunedau. Byddai Ysgol Bro Islwyn yn cofio’r bardd ac enw plwyf Mynyddislwyn. A ddylid cadw’r enw sydd arni? Mae’r talcen yn cyhoeddi mewn llythrennau a naddwyd i mewn i’r mur mai hon yw “Rhiw Syr Dafydd, Council School, 1908”.

Ond erys un cwestiwn o bwys. Pwy oedd Syr Dafydd?


cymraeg
English
cymraeg