






08-06-07
Mae RhAG wedi derbyn cais gan S4C i ymateb i ddogfen ymgynghorol ar greu sianel newydd yn benodedig ar gyfer plant. Yr ydym eisoes wedi cael trafodaeth anffurfiol lafar ond yn awyddus i ofyn i chi rieni, eich plant a chyfeillion RhAG am eich barn chi. Mae modd i chi ymateb drwy fynd i wefan S4C i ateb y cwestiynau penodol a darllen y ddogfen ymgynghorol. Bydd RhAG yn ymateb yn ffurfiol yn ogystal ac y mae croeso i chi ddanfon eich sylwadau at Elin os y dymunwch. Mae hyn yn gyfnod cyffrous iawn o ran cefnogi datblygiad ieithyddol ein plant y tu allan i furiau’r ysgol ac y mae pob un ohonom yn ymwybodol o ddylanwad y blwch bach ar ein plant! Felly ewch ati i ddarllen ac i ymateb:
http://www.s4c.co.uk/plant/