






08-06-07
Mae astudiaeth yng Nghanada wedi dangos bod dwyieithrwydd yn gohirio gorffwylltra mewn henoed gan 4.1 blynedd ar gyfartaledd.
Mae canran sylweddol o boblogaeth Canada yn ddwyiaith Ffrangeg a Saesneg.
Hyd yn oed ar ôl cymryd i ystyriaeth addysg a gwreiddiau'r unigolyn, nid oedd amheuaeth ynghylch casgliad yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn rhifyn y cyfnodolyn Neuropsychologia ar gyfer mis Chwefror 2007. Nid awgrymodd yr astudiaeth resymau dros hyn. Tybir gan arbenigwyr bod y gallu i feddwl mewn dwy iaith yn hybu actifedd yr ymennydd a herio'r difrod naturiol a achosir gan heneiddio, yn yr un fath ag ymarfer corfforol. Ond rhaid wrth fwy nac ambell air mewn iaith arall - mewn dwyieithrwydd llawn yn unig y gwelir yr manteision hyn.
Dywed RhAG taw ysgolion Cymraeg yw'r ffordd hwylusaf i blant yng Nghymru feddianu ar ddwyieithrwydd naturiol.