






25-05-07
Cynhelir Eisteddfod yr Urdd eleni yn Llanelli lle mae Ysgol Dewi Sant, ysgol Gymraeg benodedig gyntaf y wlad, yn dathlu ei thrigain oed.
Mae yng Nghaerfyrddin 7 o ysgolion penodedig Gymraeg, ac mae 4 yn Llanelli. Mae yng Nghaerfyrddin hefyd nifer helaeth o ysgolion categori ‘A’ lle y dysgir trwy’r Gymraeg yn bennaf. Mae yno hefyd nifer helaeth o ysgolion categori B, a ddylai ddysgu trwy’r Gymraeg i raddau, ond nid yw’r rhan fwyaf yn gwneud.
Yn ardal Llanelli mae’r 4 ysgol Gymraeg yn llawn, tra bo’r ysgolion Saesneg yn lleihau.
Sefydlwyd cangen o Rhag yn Llanelli yn ddiweddar i roi sylw i ddatblygiad addysg Gymraeg yn y dref.
Mae RHAG yn deall bod y Sir yn edrych ar sefyllfa’r Gymraeg yn yr ysgolion cynradd yn Llanelli.
Mae Ysgol y Ffwrnes yn llawn, ac yn gwrthod plant, ac mae Ysgol Dewi Sant yn llawn. Does dim ysgol Gymraeg rhwng Dewi Sant a Pharc y Tywyn.
Mae RHAG yn galw am ysgol Gymraeg benodedig ychwanegol i Lanelli. Tra dylai’r sir gadarnhau darpariaeth yr ysgolion Categori A mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg, mae angen darpariaeth Gymraeg benodol mewn ardal lle mae’r Saesneg yn drech, a dyna sefyllfa Llanelli.