Hafan : Home

Amdanom ni : About us

Addysg : Education


Newyddion : News

Cysylltu : Contacts

24-04-07

RhAG YN LANSIO EI FANIFFESTO AR GYFER ETHOLIAD Y CYNULLIAD 2007

Hanner ysgolion Cymru yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg - dyna'r ymrwymiad y mae'r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg am weld ymgweiswyr etholiad y Cynulliad yn ei fabwysiadu yn ôl ei 'Faniffesto' a lansiwyd heddiw.

Mae arolygon wedi dangos droeon ledled Cymru bod hanner rhieni'r wlad yn gweld mantais mewn dwyieithrwydd i'w plant. Yr unig model yng Nghymru a all roi dwyieithrwydd llawn i'r disgybl yw'r ysgolion Cymraeg. Ar hyn o bryd, dim ond 23% o blant sydd yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae hyn oherwydd nad oes digon o ysgolion Cymraeg yn agos i bawb yng Nghymru.

"Addysg Gymraeg yw'r unig ffordd effeithlon o gyflawni dyheuadau clodwiw y Cynulliad i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg," meddai Heini Gruffudd, cadeirydd RhAG. "A rhieni Cymru yn awyddus i'w plant fod yn ddwyieithog, dyma'r cyfle i'r Cynulliad wireddu ei freuddwydion. Yn anffodus, mae cynlluniau i sefydlu rhagor o ysgolion Cymraeg yn cael eu harafu'n fawr oherwydd y prosesau cynllunio sy'n gysylltiedig. Mae'n cymryd amser mawr i awdurdodau lleol ddod o hyd i safle, ac yna mae Llywodraeth y Cynulliad yn arafu'r prosesau mewn sawl man.

"Rydyn ni yn RhAG yn croesawu'r ffaith nad yw'r iaith Gymraeg yn cael ei thrin fel cocyn hitio gwleidyddol gan y pleidiau yng Nghymru. Byddai'n dda pebai hyn yn wir hefyd am ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae'n bryd i Lywodraeth Cynulliad Cymru nesaf sefydlu targedau pendant ar gyfer twf ysgolion Cymraeg ledled Cymru."

Mae RhAG yn rhestru 10 dyhead yn eu maniffesto, sef:
1 I bob awdurdod addysg gynnal arolwg i fesur y galw am addysg Gymraeg
2 I bob awdurdod weithredu yn unol â chanlyniadau'r arolwg
3 Addysg Gymraeg o fewn cyrraedd i bob teulu
4 Dilyniant o ran astudio'r Gymraeg yn iaith gyntaf o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd
5 Cyfleoedd i hwyrddyfodaid gael mynediad i addysg Gymraeg
6 Mwy o ddisgyblion yn astudio mathemateg, y gwyddorau a phynciau galwedigaethol trwy gyfrwng y Gymraeg
7 Cludiant di-dâl i ysgolion Cymraeg
9 Datblygu addysg bellach ac addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg
10 Darpariaeth Gymraeg i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig

cymraeg
English
cymraeg

Lawrlwythwch maniffesto RhAG ar gyfer etholiad y Cynulliad 2007