






01-03-07
Mae 15.2% o ddisgyblion uwchradd Cymru yn mynychu ysgolion Cymraeg, yn ôl ffigyrau a gasglwyd gan y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg. Mae hyn i'w gymharu â 14% yn y flwyddyn 2000 a 10.1% yn 1980.
Mae Rhag wedi cynnwys hyn mewn tystiolaeth a anfonwyd gan y mudiad at Bwyllgor Ymgyrchu dros Goleg Ffederal Cymraeg.
Meddai Heini Gruffudd, a wnaeth yr ymchwil, "Mae'r cynnydd a welwyd ers 2000 yn galonogol, er ei fod i'w briodoli yn gyfan gwbl i gynnydd ysgolion yn y de ddwyrain. Mae'r twf yn gyson ar hyd y blynyddoedd, ac erbyn hyn mae nifer digonol o ddisgyblion yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg i fentro ar Goleg Ffederal Cymraeg.
"Mae'r canran o gyrsiau ar lefel addysg bellach yn frawychus - dim ond 2% o'r myfyrwyr sy'n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. O goelio'r ffigyrau, dylai fod potensial i 15% ohonynt dderbyn addysg Gymraeg yn y sector pellach ac uwch."
Dengys tystiolaeth RhAG y ceir 23 o ysgolion uwchradd Cymraeg "penodedig", yn bennaf mewn ardaloedd Seisnigedig y de ddwyrain a'r gogledd ddwyrain. Dyma'r ysgolion lle mae'r cyfan neu'r mwyafrif o'r dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a lle mae'r holl ddisgyblion yn astudio'r Gymraeg yn iaith gyntaf. Mae disgwyl i ddwy ysgol arall gael eu sefydlu yn y dyfodol agos.
I'r rhain dylid ychwanegu 10 ysgol yng Ngwynedd a dwy ym Môn sydd yn ymdebygu i batrwm yr ysgolion penodedig wrth iddynt ddysgu'r Gymraeg yn iaith gyntaf i fwyafrif helaeth eu disgyblion.
Rhestra RhAG hefyd yr ysgolion hynny a eilw eu hunain yn rhai "dwyieithog" ac a leolir gan fwyaf ar draws y gorllewin a'r canolbarth. Mae'r rhain yn amrywio o rai 'cryf' i rai 'gwan' eu cefnogaeth i'r iaith.
"Mae camau bras wedi eu cymryd yng Nghatalwnia a Gwlad y Basgiaid ar lefel
prifysgol," meddai Mr Gruffudd, "ond yma yng Nghymru rydyn ni ymhell ar ei hôl hi, am ein bod yn mynnu aros yn glwm wrth system ariannu Seisnig sy'n gwneud y Gymraeg yn iaith eilradd yn y sector addysg uwch."