






14-02-07
Yn rhan o’r Cynllun Addysg Sengl, sydd yn ddogfen bolisi addysg pob sir yng Nghymru ac a ddaeth i rym ym Medi 2006, roedd gofynion i bob awdurdod addysg ddatgan y galw am addysg Gymraeg o fewn eu siroedd. Anfonodd Llywodraeth y Cynulliad ganllawiau ar sut i wneud hyn ond yn anffodus mae nifer o arolygon wedi bod yn ofer gan iddynt dargedu plant oedd wedi dewis addysg Gymraeg yn barod mewn rhai siroedd ac mewn siroedd eraill nid oedd y system o ddosbarthu a chasglu data wedi ei gynllunio yn ddigon manwl.
Er hyn, mae nifer o siroedd wedi bod mewn trafodaethau gyda RhAG ac adran addysg Bwrdd yr Iaith Gymraeg i adolygu eu dulliau o fesur y galw ac y mae’r ymateb a’r awydd i lunio arolwg sy’n adlewyrchu’r galw cywir yn galonogol.
Y mae o leiaf dwy sir wedi neilltuo cymorth cwmni allanol i ymgymryd â’r arolwg ac yn ddiweddar cyhoeddodd Casnewydd ganlyniadau eu harolwg hwy. Mewn ymateb a dderbyniwyd i’r adroddiad yma gan Owen John Thomas AC Canol de Cymru (Gweinidog yr Wrthblaid dros Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon), mae’n datgan:
“Dylid llongyfarch dinas ieuaf Cymru am ddangos y ffordd o ran pennu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg gydag arolwg trylwyr a manwl o rieni. Mae’r arolwg o rieni plant Casnewydd a aned yn ystod blwyddyn ysgol 2004/2005 yn dangos cefnogaeth sylweddol am ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. O’r 625 ateb allan o tua 1,335 cysylltiad dilys a wnaed - mae hyn yn rhoi cyfradd ymateb o 47%. O’r 625 a atebodd, dywedodd 191 (31%) eu bod yn ‘debygol iawn’ neu’n ‘eithaf tebygol’ o ddewis addysg cyfrwng Cymraeg pe bai ysgol o’r fath wedi’i leoli o fewn dwy filltir o’u cartrefi. Nifer yr ymatebwyr ‘tebygol iawn’ oedd 99 (16%) ac roedd 92 (15%) yn ‘eithaf tebygol’.
Dyma gyfle i ddyblu’r nifer a dderbynnir i addysg cyfrwng Cymraeg yn flynyddol yng Nghasnewydd o 60 i 120. Byddai cefnogaeth drawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol i ddatblygu cenedl gyfan gwbl ddwyieithog yn derbyn ei hwb mwyaf hyd yn hyn petai’r Llywodraeth yn y Bae yn pwyso ar awdurdoau lleol eraill yn nwyrain Cymru i ddilyn arweiniad Casnewydd.”
Gellir darllen yr ymatebiad yn llawn trwy wasgu ar yr eicon: ![]()

Gallai nifer yr ysgolio cynradd Cymraeg yng Nghasnewydd fynd o'r un bresennol i dair.