Hafan : Home

Amdanom ni : About us

Addysg : Education


Newyddion : News

Cysylltu : Contacts

07-02-07

ADRODDIAD O'R GYNHADLEDD FLYNYDDOL

Daeth nifer o gefnogwyr RhAG ynghyd i Gyfarfod Blynyddol y mudiad ar fore Sadwrn oer ddechrau Ionawr i gael cyfle i edrych ar ddigwyddiadau’r flwyddyn aeth heibio ac i edrych ymlaen ar yr heriau sydd o’n blaenau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Etholwyd Heini Gruffudd (Abertawe) fel ein Cadeirydd newydd ar gyfer y flwyddyn 2006-2007 ac Eirian Youngman (Castell-nedd a Phort Talbot) yn is-gadeirydd. Diolch yn fawr i Tim Pearce am fod yn gadeirydd am y cyfnod diwethaf ac edrychwn yn fawr iawn am ei gyfraniad fel ein Cydlynydd Cysylltiadau Cyhoeddus. Ceir rhestr lawn o swyddogion 2006-2007 a chofnodion y cyfarfod ar y wefan yma.

Clywsom gan yr Athrawes Catrin Rednap am y datblygiadau sydd wedi ac sydd yn digwydd o ran Adran Addysg Bwrdd yr Iaith Gymraeg a’r cydweithio cadarnhaol sydd yn digwydd rhwng y Bwrdd, RhAG a’r partneriaid eraill. Anogodd y grwpiau lleol i fynd ati i edrych ar eu sefyllfaoedd lleol a mynd at yr awdurdodau wrth iddynt lunio strategaethau addysg Gymraeg a sicrhau eu bod yn rhan o’r broses o’r cychwyn cyntaf. Nododd hefyd ambell her a fydd efallai yn aros amdanom dros y cyfnod nesaf, megis adolygiadau siroedd o’u polisi cludiant ac effaith hyn ar addysg Gymraeg, sicrhau cefnogaeth all-ysgol i rieni a phlant yn eu cymunedau a’r pwysigrwydd i gydweithio gyda’r Mentrau Iaith i sicrhau rhwydweithiau a chefnogaeth iaith gymunedol.

Gofynnodd y cwestiwn "a yw pob rhiant yn ymwybodol o fodolaeth RhAG?". Mae hyn wrth gwrs yn her i ni fel mudiad i gynyddu ymwybyddiaeth a chefnogaeth i’r gwaith sydd eisoes yn digwydd yn ogystal â chefnogi’r grwpiau sydd yn bodoli a chynyddu’r ymwybyddiaeth gyffredinol am addysg Gymraeg.

Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth atom yng Nghasnewydd ac edrychwn ymlaen yn fawr at ein cyfarfod nesaf a fydd yn digwydd yn ardal Wrecsam yn yr Hydref. Cofiwch gadw llygad ar y wefan am fanylion.

cymraeg
English
cymraeg


Heini Gruffudd a Catrin Rednap