






30-01-07
Mae addysg Gymraeg yn dal i fwrw gwreiddiau dwfn ym Mynwy, sir fwyaf dwyreiniol Cymru. Ers iddi gael ei sefydlu ym mis Medi 2001 cwta tair milltir o'r ffin â Lloegr, mae Ysgol y Ffin wedi gorfod dygymod â safle di-ar-ffordd, anghyfleus, ond o'r diwedd mae'r awdurdod addysg wedi derbyn yr angen i'w symud i well safle yng Nghil-y-Coed (Caldicot).
Mae Awdudrod Addysg Sir Fynwy yn cynnig symud yr ysgol i safle Sandy Lane Infants School yn y dref a fyddai'n creu digon o le i sefydlu meithrinfa. Ar hyn o bryd, mae 72 o blant yn Ysgol y Ffin. Bydd y safle newydd yn caniatáu iddi gynyddu i 210, gan groesawu hyd at 30 i'r feithrinfa.
Mae gobaith y bydd yr ysgol yn agor ar ei newydd wedd ym mis Medi 2008.
Agorwyd Ysgol-y-Ffin ym mis Medi 2001 gyda 15 o blant yn y dosbarth derbyn yn ogystal â 5 o ddisgyblion saith oed (Blwyddyn 1) ar ôl i RhAG fygwth mynd â'r cyngor i arolwg barnwrol. Roedd angen ddybryd am ysgol newydd oherwydd bod Ysgol Gymraeg Casnewydd yn orlawn ac yn gwrthod derbyn rhagor o blant o sir Fynwy.
Fel chwa o awyr iach yn y ddogfen stadudol y nodir bod "yr Awdurdod Addysg Lleol yn credu hefyd bod y galw am addysg gyfrwng Cymraeg ledled y sir yn cael ei llesteirio gan ddiffyg adnoddau digonol neu addas."
