Hafan : Home

Amdanom ni : About us

Addysg : Education


Newyddion : News

Cysylltu : Contacts

16-10-06

YSGOL UWCHRADD AR GYFER PEN-Y-BONT AR OGWR?

Mae ysgol uwchradd Gymraeg ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr gam yn nes wrth i gynllun i godi ysgol Saesneg fynd rhagddo. O dan y cynllun, bydd ysgol gyfun Saesneg Maesteg yn cael adeilad newydd yn defnyddio arian Menter Cyllid Preifat (PFI) tra bydd yr ysgol Gymraeg arfaethedig yn meddiannu hen safle uchaf ysgol gyfun Maesteg, a leolir ar gyrion Maesteg ym mhentref Llangynwyd. Disgwylir i hyn ddigwydd ym 2008 ar ôl blynyddoedd o ohirio.

I rai o'i disgyblion, bydd yr ysgol newydd yn bellach i ffwrdd na'r ysgol uwchradd sydd yn gwasanaethu'r sir ar hyn o bryd, sef Ysgol Gyfun Llanhari yn Rhondda Cynon Taf, ond bydd ysgol uwchradd i Ben-y-bont yn benllanw ar o leiaf 14 blwydd o ymgyrchu gan rieni.

Deëllir bod problemau daearegol wedi llesteirio'r cyllun ar gyfer yr ysgol Saesneg newydd ond eu bod nhw'n nawr wedi'u datrys.

Mae pedair ysgol gynradd Gymraeg yn sir Pen-y-bont. Mae rhifau Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, a leolir ym Mhen-y-bont ei hunan, yn dal i gynyddu ac mae ar y dref ddirfawr angen ysgol gynradd arall.

cymraeg
English
cymraeg