Elin Maher
Hafan : Home

Amdanom ni : About us

Addysg : Education


Newyddion : News

Cysylltu : Contacts

16-08-06

SESIWN RhAG AR FAES Y GENEDLAETHOL

Eleni, gwahoddwyd Cefin Campbell, Michael Jones a Dr. Einir Young i siarad yn ein sesiwn ar faes Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch a gofynnwyd iddynt sôn yn fras am yr hyn a fyddent hwy yn ei ystyried yn flaenoriaeth ar gyfer Addysg Gymraeg y 10 mlynedd nesaf.

Cawsom lun o sefyllfa’r iaith ar lawr gwlad ac yn ein cymunedau gan Cefin gan ddilyn gyda sefyllfa ein hysgolion ni gan Michael ac yn olaf siaradodd Einir am y sefyllfa o fewn ein sefydliadau addysg uwch - thema a godwyd yn aml iawn yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni. Codwyd nifer o bwyntiau diddorol yn ystod y sesiwn ac efallai’r mwyaf o’r rhain yr wythnos hon oedd yr her i barhau gyda’r galw am addysg bellach i’n plant ni. Fel rhieni yr ydym yn ddigon parod i godi llais am addysg feithrin, cynradd ac uwchradd ond yn ddigon tawedog pan ddaw at addysg uwch. Ydyn ni’n derbyn y sefyllfa fel y mae? Ydy’r dewis yn cael ei drosglwyddo i’r disgybl yn 16 oed? Ydy'r dewis yn dderbyniol? Ydy’n cyfrifoldeb ni fel rhieni dros addysg ein plant yn gorffen pan gyrhaeddant y 16 oed? Yr ydym yn paratoi ein plant i fod yn ddwyieithog tan ddiwedd eu gyrfa yn yr ysgol, pam bod yn rhaid gorffen addysg Gymraeg yn 16 oed? Gwir dweud bod rhai pynciau ar gael drwy’r Gymraeg ond ddim hanner digon. Mae angen ymestyn y ddarpariaeth a sicrhau addysg bellach iddynt yn ogystal. Beth am gwrs meddygol drwy’r Gymraeg yng Nghaerdydd, un o ysgolion meddygol gorau’r byd? Neu beth am astudio Bioleg y Môr ym Mhrifysgol Bangor?

Yr ydym yn gorfod meddwl am ffyrdd arloesol i addysgu erbyn hyn ac y mae’n hen bryd i ni bwyso ar y grymoedd sy’n bod i ddarparu. Oes rhaid derbyn yr hyn a welwch yn y prosbectws? Gofynnwch am eich cwrs delfrydol chi yn y Gymraeg! Rhowch wybod i Elin am yr ymateb a gewch.

Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i wrando ac i gefnogi’r sesiwn.
Cofiwch am ein cynhadledd flynyddol ar 18 Tachwedd eleni yn Ysgol Gyfun Bryntawe, Abertawe rhwng 10 a 4. Croeso i bawb.

cymraeg
English
cymraeg