







29-06-06
Ers mis Mai mae Swyddog Datblygu newydd wedi dechrau ar y gwaith o ddatblygu gwaith Rhieni Dros Addysg Gymraeg. Mae Elin Maher yn fam i dri o blant sef Rhys, Ioan ac Efa ac yn briod ag Aidan. Mae’n yn byw yng Nghasnewydd a bydd yn gweithio o'i chartref.
Mae'n dod yn wreiddiol o Gwm Tawe ac wedi ymgartrefu erbyn hyn yng Nghasnewydd ers pum mlynedd. Dywed Elin, "Mae’n gyfnod cyffrous iawn ym myd Addysg Gymraeg ar hyn o bryd. Mae gan bob ardal ei sialens ei hun a hyderaf y dof o hyd i rieni ar draws Cymru i gychwyn rhwydweithiau newydd er mwyn nid yn unig sicrhau eu bod yn cael addysg Gymraeg i'w plant ond hefyd bod yna gefnogaeth o'r cychwyn cyntaf a thrwy gyfnod eu plant mewn addysg Gymraeg."
Mae'r byd Addysg yn newid drwy’r amser ac mae natur y gefnogaeth sydd angen ar rieni hefyd yn newid. Gobaith Rhieni Dros Addysg Gymraeg yw sicrhau fod y gefnogaeth yma yn treiddio i bob rhan o Gymru a bod y gefnogaeth ar gael ar lefel leol a chenedlaethol yn ogystal.
Os oes gennych ddiddordeb i gael manylion eich grwp lleol neu gychwyn grwp yn eich ardal chi, yna cysylltwch ag Elin yn syth a gall eich rhoi ar ben y ffordd. Gallwch gefnogi gwaith RhAG hefyd drwy aelodaeth teulu. Cysylltwch ag Elin i gael mwy o fanylion.
elin@rhag.net
Elin Maher Swyddog Datblygu RhAG
21 Tir na nóg, Llanthewy Road, Casnewydd, NP20 4JR
(01633) 222248