|
|
|
|
Mae rhieni yn dathlu ar ol i gyngor ildio i bwysau i agor rhagor o ddarpariaeth mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghymoedd y De. Mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi derbyn dadl y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) bod mwy o bobl yn ceisio am lefydd yn ysgolion Cymraeg Cwm Cynon nag sydd o lefydd.
Ceir dwy ysgol Gymraeg yng nghwm Cynon, y naill ben o'r cwm a'r llall, sef Aberdar ac Abercynon. Ar y dechrau, gwadodd y cyngor fod unrhyw dystioliaeth o ddiffyg darpariaeth, er bod hyd at 31 o blant yn methu cael llefydd yn y ddwy ysgol ar gyfer mis Medi. Ar ol y penderfyniad, bydd y ddwy ysgol yn agor ffrwd newydd yr un ym mis Medi 2006.
Dywedodd Michael Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol RhAG, "Ryn ni'n llawenhau bod dewis y rhieni yma am addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei barchu. A bod yn hollol deg i bob teulu yn y cwm, dylai'r cyngor sefydlu ysgol newydd yng nghanol y cwm, sef ardal Aberpennar. O sefydlu ysgolion mewn lleoliadau hollol newydd, ryn ni wastad yn gweld twf mwy byth yn nifer y rhieni sydd yn dewis addysg Gymraeg wrth iddi ddod yn fwy hygyrch. Mae arna i ofn bod awdurdodau addysg weithiau'n oedi cyn agor mwy o ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg gan obeithio y bydd y galw'n tagu ei hunan. Ond mae
rhieni'n galw am addysg Gymraeg o hyd: maen nhw am i'w plant fod yn ddwyieithog er mwyn manteisio ar gyfleodd yn y farchnad swyddi yn ogystal â theimlo'n rhan o gymuned a diwylliant arbennig."
diwedd |
|
|