Llawn amser
Cyflog £20,000-22,000 (yn ôl profiad a chymwysterau)
Ydych chi’n rhannu ein gweledigaeth i’w gwneud hi’n bosibl i bob rhiant yng Nghymru
ddewis addysg cyfrwng Cymraeg dros eu plant? Mae RhAG am benodi Swyddog
Datblygu er mwyn helpu i wireddu y weledigaeth hon. Mae eisiau rhywun hunan-
gymhelliol a fydd yn gallu gweithio gartref, ond â’r parodrwydd i deithio’n helaeth. Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda’r pwyllgor cenedlaethol i weinyddu’r mudiad yn effeithiol yn ogystal ag ymgymryd â pheth ymchwil. Mae disgwyl i ymgeiswyr allu defnyddio rhaglenni TGCh prosesu geiriau, cronfeydd data a thaenlenni.
Am ragor o fanylion a ffurflen gais, cysyllter â:Tim Pearce, 68 Chandlers Way, Penarth, Bro Morgannwg CF64 1SP, ffoniwch 07050 129247, neu ebostiwch
t.j.pearce@ntlworld.com.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: dydd Gwener 17 Mawrth 2006.
Mae RhAG yn cydnabod cymorth Bwrdd yr Iaith Gymraeg at ei waith |
|
|