|
Mae ysgol gynradd Gymraeg newydd wedi agor yng Nghaerdydd, am unwaith heb i RhAG orfod pwyso ar yr awdurdod.
Yn Chwefror 2005 bu mwy na 60 o geisiadau am y 60 lle yn Ysgol y Berllan Deg, Caerdydd, ar gyfer Medi. Daethpwyd ir casgliad taw Ysgol Moorlands, Sblot oedd yr opsiwn gorau am iddi sefyll ar safle eang yn meddu ar dri adeilad ar wahan a hefyd gyda meysydd chwarae gerllaw.
Agorwyd dosbarth rhydd gyda 2 athrawes ddechrau Medi y llynedd gydag 16 disgybl. Ni fu gwrthwynebiad i agor ysgol barhaol a felly erbyn Tachwedd roedd sail cyfreithiol i Ysgol Glanmorfa, Sblot agor ym Medi 2006 i barhau gwaith y dosbarth rhydd ar yr un safle.
Dyma agor ysgol Gymraeg tu fewn i 9 mis o weld yr angen, i fod y drydedd ysgol ar ochr ddwyreiniol Caerdydd lle y dywedwyd ym 1981 nad oedd angen yr un ysgol a hefyd i fod yn ysgol gyfleus i bobl Tremorfa, Sblot, Adamsdown ar Rhath gan adael y Berllan Deg i wasanaethu Llanedeyrn, Pentwyn, Pontprennau a Phenylan.
diwedd
Rhagor o newyddion
|
|
|