Hafan : Home

Amdanom ni : About us

Addysg : Education


Newyddion : News

Cysylltu : Contacts

05-10-05

NEWYDDION ADEILADOL YNG NGHAERFFILI

Mae Ysgol Ifor Bach, Senghennydd, a ddechreuodd fel Ysgol Gymraeg Caerffili yn nechrau’r chwe degau, i gael adeilad newydd. Nid yn unig mae croeso mawr i rywbeth yn lle’r hen adeiladau ysgol uwchradd hyn ond, yr un mor bwysig, yw'r ffaith y lleolir yr ysgol newydd yn agosach i ganol y dalgylch a hynny yn Abertridwr.

Newyddion da eraill o Sir Caerffili yw'r ffaith bod Ysgol Gymraeg Bro Allta yn Ystrad Mynach o’r diwedd i gael meddiannu ei holl adeilad. Cafwyd sefyllfa ddwl yma wrth i hen Awdurdod Forgannwg Ganol fynnu bod tri dosbarth o’r ysgol leol i rannu cartref yr ysgol Gymraeg newydd, er bod galw ar honno ddefnyddio adeiladau allanol. Daeth hyn yn sgîl polisi’r awdurdod addysg o uno ysgolion iau a babanod gan weithredu’r polisi ym mhentref Ystrad Mynach.

diwedd

Rhagor o newyddion