Hafan : Home

Amdanom ni : About us

Addysg : Education


Newyddion : News

Cysylltu : Contacts

19-09-05

GALW AM STRATEGAETH I ATHRAWON

Mae addysg Gymraeg ei chyfrwng ar gynnydd o'i chymharu â'r sector addysg Cymreig yn gyffredinol lle mae niferoedd disgyblion yn crebachu, ond eto ni cheir strategaeth hyfforddi athrawon Cymraeg eu cyfrwng, a'r ddarpariaeth yn dibynnu ar fympwy'r sefydliadau dysgu unigol. Dyma swm a sylwedd adroddiad a gyflwynwyd gan RhAG gerbron pwyllgor a sefydlwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i adolygu hyfforddiant athrawon.

Yn ôl yr adroddiad, a gafodd ei ysgrifennu gan Heini Gruffudd, aelod o RhAG, "Mae tystiolaeth bod prinder staff addas ar gyfer y sector Cymraeg yn gyffredinol." Y meysydd lle mae'r prinder yn amlycaf yw: Saesneg, Ieithoedd modern, Ffiseg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Galwediagaethol (plymio, trydan, adeiladu, peirianyddiaeth, bwyd), a Gwasanaethau i ddisgyblion ag anhenion addysgol arbennig. Mae eithriadau i'r prinder cyffredinol, beth bynnag, er enghraifft wrth sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg newydd Abertawe "pan gafwyd rhwy 120 o ymgeiswyr am ryw 7 o swyddi."

Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad y dylai anghenion hyfforddi athrawon Cymraeg eu cyfrwng fod yn rhan o bolisi cenedlaethol yn hytrach na chael ei adael i benderfyniad colegau unigol; ni ddylai ystyriaethau ariannol sy'n briodol i'r sector Saesneg gael eu gweithredu yn y sector Cymraeg, yn enwedig gyda phynciau lleiafrifol, lle y mae angen darparu hyfforddiant Cymraeg i nifer cymharol fach o reddedigion; dylai sefydliadau roi'r un tegwch i fyfyrwyr Cymraeg ag i fyfyrwyr Saesneg trwy sicrhau bod ganddynt staff cymwys i hyfforddi, arolygu ac asesu trwy'r Gymraeg; dylai cyrsiau gael eu strwythuro fel bod myfyrwyr dwyieithog yn cael profiad o ymarfer mewn ysgolion Cymraeg; dylid sicrhau bod staff digonol ar gyfer twf addysg Gymraeg yn y dyfodol; dylid sicrhau bod staff mewn ysgolion dwyieithog yn derbyn hyfforddiant ieithyddol i ddysgu trwy'r Gymraeg; dylid sefydlu rhaglen eang o ddysgu Cymraeg i staff allweddol mewn ysgolion Saesneg er mwyn iddynt allu cynnig un neu ragor o bynciau trwy'r Gymraeg.

Mae disgwyl i'r pwyllgor gyflwyno ei argymelliadau i Lywodraeth y Cynulliad ddiwedd Medi eleni.

diwedd

Mae adroddiad Heini Gruffudd ar gael i'w lawr-lwytho. Ewch i dudalen y dogfennau.

Rhagor o newyddion