|
Mae Ysgol Gyfun Glan Clwyd, yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf oll, wedi ail-gydio mewn cynllun i gynyddu nifer y rhai sydd yn derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ardal lle mae'r iaith o hyd ar drai.
Mae'r ysgol, a leolir yn Llanelwy, wedi agor dosbarth "ail gyfle" ym mlwyddyn saith ar gyfer y rheiny sydd wedi derbyn eu haddysg gynradd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Fel arfer, nid yw cyllid ysgol yn caniatáu iddi ddarparu'r fath gwasanaeth, ond fe'i galluogwyd o dan gynllun addysg Gymraeg Sir Ddinbych a chyda chymorth Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Yng ngogledd gorllewin Cymru, ceir canolfannau trochi ar gyfer "pobl ddwad" ar wahân i'r ysgolion, ond dydyn nhw ddim yn bodoli yn ardaloedd mwy Saesnigedig y dwyrain. Beth bynnag, nid yw cynllun Glan Clwyd yn gwbl newydd. Eisoes, mae Ysgol Gyfun Maes Garmon, a leolir yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, yn gweithredu cynllun tebyg ers tro, ac roedd Glan Clwyd ei hunan ers talwm yn gwneud yr un fath (o 1972 tan 1993). Bu raid dod â'r cynllun i ben bryd hynny oherwydd y niferoedd bach a diffyg arian. Byth ers hynny o flwyddyn i flwyddn mae ambell un wedi ymuno â'r ysgol o du addysg di-Gymraeg, a doedd dim dewis ond eu cymhathu nhw i'r prif-ffrwd yn syth - ac maent wedi llwyddo.
Mae gan y dosbarth newydd 17 o ddisgyblion eleni, a chanddo ddigon o le i hyd at 22 yn y dyfodol. Mae'r disgyblion hyn yn cael eu dysgu ar wahân i'w cyfoedion ar gyfer y rhan fwyaf o'r pynciau er mwyn derbyn cefnogaeth arbennig i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Mae'r Pennaeth, Meurig Rees, yn ffyddiog y bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn barod i ymuno â'r prif-ffrwd o fewn blwyddyn neu ddwy. Canmolodd frwdfrydedd y disgyblion hyn sydd wedi dewis addysg Gymraeg gan wybod yr her sydd o'u blaen. Cawsant bump wythnos o baratoi dwys cyn yr haf ac ar ôl gorffen y gwaith pwysig yn yr ysgol gynradd.
Mae'n debyg y bydd ysgolion uwchradd Cymraeg eraill yn y gogledd dwyrain yn ystyried cynlluniau tebyg yn y dyfodol.
Rhaid i ysgolion ymddwyn yn barchus iawn rhag cael eu cyhuddo o sathru ar gyrn eu cymdogion, ond caniateir o dan gynllun addysg Gymraeg y sir i Glan Clwyd lythyru rhieni pob ysgol gynradd cyn dechrau'r flwyddyn ysgol ynglyn â'r dosbarth ail-gyfle.
Mae rheswm arall ar hyn o bryd dros y gorfoleddu yn Nglan Clwyd: cwta chwe mis yn ôl ail-agorwyd theatr yr ysgol ar ei newydd wedd, yn theatr ar gyfer y gymuned yn ogstal â'r ysgol. Cafwyd grant gan Gyngor y Celfyddydau i adnewyddu'r hen adeilad, a adwaenir bellach yn Theatr Elwy. Mae gan y theatr yr offer sain a golau diweddaraf wedi'u gyrru gan gyfrifiaduron, yn ogystal â seddi newydd ar gyfer y gynulleidfa.
Ymhlith cyfleusterau eraill y mae'r ysgol wedi'u hennill yn ddiweddar y mae cae pob tywydd â llifoleuadau, ac fe adnewyddwyd y neuadd chwaraeon trwy grantiau Loteri.
diwedd
Rhagor o newyddion
|
|
|