|
Mae ysgol gynradd newydd yn yr arfaeth yng Nghaerdydd wrth i ddosbarth derbyn Cymraeg agor y tymor yma yn ardal Sblot. Am y tro, mae'r dosbarth wedi'i lletya mewn rhan o ysgol gynradd Saesneg Moorland yn ne'r Sblot. Mae gan y dosbarth 14 o blant, naw ohonyn nhw o Sblot ei hunan a phump o ardal Rhymni. Roedd gwir eisiau ysgol leol ar ôl i Ysgol y Berllan Deg, a oedd wedi'i lleoli dros dro yn y Rhath (ar bwys Sblot), symud i gartref barhaol yn bell i'r golgledd yn Llanedeyrn. Gwelai trigolion lleol hyn yn annheg achos byddai'n golygu taith hir, afresymol ar y bws. Nawr mae gobaith y gall ysgol newydd wasanaethu rhan ddeheuol dalgylch anferth y Berllan Deg. Beth bynnag, mae'r Berllan Deg eisoes wedi cyrraedd ei llawn dwf o ran niferoedd o ddisgyblion. Felly hefyd Ysgol Bro Eirwg yn Rhymni, yr ysgol agosaf i'r dwyrain. Mae'n amlwg bod eisiau mwy o ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg.
Mae disgwyl i Awdurdod Addysg Caerdydd wneud cyhoeddiad ar ddyfodol y dosbarth newydd ym mis Tachwedd.
diwedd
Rhagor o newyddion
|
|
|