|
Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg yn croesawu nod Llywodraeth y Cynulliad i ddyblu'r nifer o fyfyrwyr prifysgol sydd yn astudio o leiaf rhan o'u cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2010, ond yn rhybuddio eu bod yn dechrau o sail isel iawn.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi clustnodi £1m dros dair blynedd i ddatblygu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y prifysgolion, yn bennaf, mae'n debyg, trwy sefydlu Canolfan Ddatblygu Addysg Gyfrwng Cymraeg.
Ar hyn o bryd, llai na 4% o fyfyrwyr yng Nghymru sydd yn derbyn rhywfaint o'u haddysg drwy'r Gymraeg, er bod Dr Wyn Jones, darlithydd yn adran wleidyddiaeth Prifysgol Cymru Aberystwyth, yn honni bod "y wir sefyllfa lawer gwaeth". Rhaid derbyn, wrth gwrs, bod canran o fyfyrwyr Cymraeg yn derbyn eu haddysg uwch y tu allan i Gymru, a bydd hyn yn effeithio ar y galw, ond hyd yn oed yn y cyd-destun hwn, megis dechrau ar y orchwyl y mae'r Llywodraeth, yn ôl RhAG.
Mae llawer yn dadlau nad yw darparu peth Cymraeg o fewn y sustem Saesneg yn ddigonol, ac maent yn galw am sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg a allai weithio'n gyfochrog.
diwedd
Rhagor o newyddion
|
|
|