|
Nid oes yr un aelod o'r tîm sydd wedi'i benodi gan Lywodraeth y Cynulliad i helpu gydag arolwg ar hyfforddi athrawon yng Nhymru yn medru'r Gymraeg a gall hyn beryglu asesiad dilys o'r wir sefyllfa ac anghenion addysg yn y wlad, yn ôl y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG). Penododd Jane Davidson, Gweinidog Addysg y Cynulliad, yr Athro John Furlong o Brifysgol Rhydychen i gynnal yr arolwg a chanddo help chwech ymgynghorydd. Mae disgwyl i'r argymelliadau gael eu cyflwyno ddiwedd Medi 2005.
Meddai Tim Pearce, Cadeirydd RhAG, "Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i 'Gymru Ddwyieithog' ac mae addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan anatod o hyn, ond eto nid oes ganddi ddigon o weledigaeth i benodi o leiaf un person a fydd â gwybodaeth o ysgolion Cymraeg o'r tu mewn.
"Mae hyn, mae arnaf i ofn, yn enghraifft newydd o'r agwedd hen-ffasiwn sydd i'w gweld ledled Cymru lle mae addysg gyfrwng Cymraeg yn cael ei gweld fel rhan o'r drefn Saesneg. O edrych ar y sefyllfa gyffredinol, mae'n siwr gen i y bydd y arolwg yn cael bod niferoedd plant yn lleihau a bod modd ail-drefnu'r ddarpariaeth yn ei sgîl. Yn sicr, mae tystiolaeth bod ysgolion Saesneg eu cyfrwng fel y cyfryw yn crebachu, ond mae ysgolion Cymraeg ar y llaw arall yn orlawn a'r galw yn dal i gynyddu. Rydyn ni'n galw ar yr arolwg i ystyried anghenion y gyfundrefn Gymraeg ei chyfrwng â gweledigaeth ac ar wahân i'r gyfundrefn Saesneg. Yn y pen draw, rhaid i athrawon gael eu darparu er mwyn ddiwallu anghenion rhieni presennol a rhieni'r dyfodol."
Mae RhAG yn ymgyrchu dros wneud addysg gyfrwng Cymraeg yn ddewis ymarferol i bob rhiant yng Nghymru. Geilw'r mudiad am greu mwy o ysgolion penodedig Cymraeg lle mae rhieni yn gallu bod yn ffyddiog y bydd eu plant yn cael eu dysgu yn llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg, y ffordd orau o ddod yn ddwyieithog.
diwedd
Dolen i wefan yr arolwg: 
Rhagor o newyddion
|
|
|