|
Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG), y mudiad sydd yn ymgyrchu dros fwy o ysgolion penodedig Cymraeg, wedi lansio logo newydd ynghyd ag ail-lansio ei wefan ar ei newydd wedd.
Meddai Tim Pearce, Cadeirydd RhAG, "Mae'n logo newydd ni yn cynnwys cenhinen bedr. Trwy'r symbol tradoddiadol Gymreig yma rydyn ni'n ceisio cyfleu teimlad o dyfiant newydd gan obeithio gallwn weld mwy o ysgolion penodedig Cymraeg yn cael eu sefydlu. Mae twf yr ysgolion Cymraeg wedi dod i stop bron er bod cymaint o'n hysgolion presennol bron â gorlifo, a hyn yn wyneb niferoedd plant yn disgyn mewn ysgolion Saesneg eu cyfrwng. Gallwn briodoli'r methiant hwn i ddarparu digon o ysgolion yn rhannol i'r ffaith bod rhai awdurdodau lleol yn gyndyn wynebu eu cyfrifoldebau ac yn rhannol i barodrwydd Llywodraeth y Cynulliad i wrthod cynlluniau gan yr awdudodau i gynyddu'r ddarpariaeth. Rydyn ni'n dal yn mis Mawrth, hefyd, felly efallai bod gennyn ni hawl o hyd i ddefnyddio symbol Dewi Sant!"
Mae gwefan RhAG yn manylu gwaith y mudiad, manteision addysg Gymraeg i'n plant, sut mae rhiant yn gallu helpu ei blentyn mewn addysg Gymraeg a rhagor o wybodaeth defnyddiol. Gallwch ymweld â'r wefan yn www.rhag.net.
diwedd
Rhagor o newyddion
|
|
|