






Gweithreda RhAG mewn sawl ffordd i hybu addysg Gymraeg yng Nghymru. Mae'r Gweithgor Cenedlaethol yn cwrdd yn gyson ac yn cynrychioli rhieni ar sail cenedlaethol gerbron y llywodraeth a chyrff eraill. Mae'r Gweithgor hefyd yn llunio polisïau sydd yn adlewyrchu natur gwahanol rhanbarthau Cymru ac yn hysbysu manteision addysg Gymraeg.
Mae'r gweithgor cenedlaethol yn annog pob sir i sefydlu pwyllgor lleol, ac mae pwyllgorau sirol yn bodoli yn y rhan fwyaf o siroedd Cymru. Mae'r rhain yn ymwneud â phob math o weithgareddau, er enghraifft, gwrthdystio dros hawliau i blant cyfrwng Cymraeg a'u rhieni, rhedeg cynlluniau chwarae, trefnu cyhoeddusrwydd, a.y.y.b. Gwasgwch ar y ddolen i'r chwith i ddod o hyd i'ch grwp lleol chi.