






Cymdeithas sydd yn cynrychioli rhieni trwy Gymru i gyd yw RhAG. Yn ein plith ceir siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd; mae rhai ohonom yn byw yn y trefi, eraill yng nghefn gwlad; magwyd rhai ohonom yng Nghymru, symudodd eraill i fyw yma. Beth sydd yn ein huno i gyd yw'r argyhoeddiad bod dwyieithrwydd yn rhodd amhrisiadwy i blentyn, a bod y gallu i siarad Cymraeg yn sail iddo gael tyfu yn hyderus ynddo ei hun ac yn ei ddiwylliant.
Gall plentyn ddod yn ddwyieithog trwy gael ei drochi yn y Gymraeg yn yr ysgol. Dyma beth sydd yn digwydd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Mae tua 21% o boblogaeth Cymru yn medru'r iaith Gymraeg, tra bod tua 20% o blant yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn rhai ysgolion, mae canran uchel o'r ddisgyblion o gefndir di-Gymraeg, ond eto mae canlyniadau ysgolion Cymraeg gyda'r gorau yn y wlad.
Yn anffodus, nid oes ysgolion Cymraeg eu cyfrwng o fewn pellter rhesymol i bawb yng Nghymru, o bell ffordd. Mae ymchwil wedi dangos y byddai hyd at 50% o rieni yng Nghymru am anfon eu plant i ysgolion Cymraeg pebaent yr un mor hygyrch ag ysgolion Saesneg eu cyfrwng. Gwaith RhAG yw i ddarbwyllo awdurdodau lleol a'r Cynullliad i ddaparu'n deilwng at y galw yma.