Cysylltu â ni : Contact us

Hafan : Home

Amdanom ni : About us

Addysg : Education
Manteision : Plus points
Ymdopi : Coping
Ysgolion : Find a school
Dysgu : Learn Welsh yourself
Dogfennau addysg : Education docs


Newyddion : News

Maes 'Rh' : Parents' Area

Dolenni : Links

Cymraeg
English

ADDYSG YNG NGHYMRU

Mae sawl myth ynglyn ag addysg yng Nghymru. Yn un, honnir bod plentyn uniaith yn gallu dod yn ddwieithog dim ond trwy fynychu gwersi Cymraeg ambell awr yr wythnos mewn ysgol gyfrwng Saesneg. Faint o blant sy’n cyflawni hynny mewn unrhyw iaith - megis Ffrangeg neu Almaeneg - erbyn TGAU? Trwy waith caled, diwyd ar ôl blynyddoedd o lafur mae'n bosibl meistroli’r iaith, a mawr yw'r clod i’r rhai sydd yn gwneud felly. Haws o lawer, fodd bynnag, yw trochi’r plentyn yn y Gymraeg yn naturiol mewn ysgol benodedig lle dysgir popeth trwy gyfrwng yr iaith ac darperir cyfleoedd di-ri i’w hymarfer.

Ond beth am y sawl sydd yn cael eu magu ar aelwyd Gymraeg, meddech chi. I beth mae eu hanfon nhw i ysgol gyfrwng Gymraeg?

Ysywaeth, heb y mewnbwn academaidd trwy gydol eu haddysg, ni fyddant yn ddigon hyderus i ddefnyddio’r iaith i’w llawn botensial. Cofiwch, mewn ysgol benodedig Gymraeg caiff y plentyn glywed y termau yn Saesneg yn ogystal â’r Gymraeg, felly peidiwch â phoeni ynghylch ei Saesneg. Yn wir, os rhywbeth mae’r dull deublyg hwn yn esgor ar well dealltwriaeth o’r cysyniadau.

Iaith frodorol Cymru yw’r Gymraeg, ond dim ond ers Deddf Addysg 1944 mae gan awdurdodau lleol yr hawl i benodi ysgolion Cymraeg. Byth oddi ar hynny y mae nifer yr ysgolion penodedig Gymraeg wedi bod ar gynnydd, ond mae hyn o achos pwysau o du rhieni, nid oherwydd cynllunio rhag blaen gan yr awdurdodau addysg.

Yn ogystal â'r ysgolion penodedig Gymraeg, ceir y rhai “naturiol” Gymraeg lle mae’r iaith yn gyfrwng yr ysgol yn rhinwedd ei lleoliad mewn bro Gymraeg. Mae hon yn sefyllfa ddelfrydol, wrth gwrs, oherwydd bod disgyblion yr ysgol mewn cymuned lle mae'r iaith yr un mor fyw y tu allan i’r ysgol ag y tu mewn. Yn anffodus, nid yw statws yr ysgolion hyn wastad yn ddiogel lle mae’r mewnlifiad yn gallu trawsnewid eu cymeriad mewn byr o amser. Mae RhAG o blaid creu mwy o ysgolion penodedig Gymraeg. Dyma’r fath o ysgol sydd yn bodoli ar draws ardaloedd Seisnigedig y wlad ac mae rhieni Saesneg eu iaith yn ogystal â Chymry Cymraeg yn mynnu anfon eu plant iddynt oherwydd safon yr addysg.

Manteision addysg gyfrwng Cymraeg

llinell