Help / Cymorth
Rhif elusen gofrestredig:
1153403
Mewngofnodi:

Cuddair:
Noddir gan Lywoadraeth Cynulliad Cymru
Mathemateg Bellach
croeso i wefan Rhieni dros Addysg Gymraeg
 
Croeso i wefan Rhieni dros Addysg Gymraeg! Mae RhAG yn gweithio i wella darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i blant ledled Cymru. Ar ein gwefan, gallwch ddefnyddior map i ddarganfod ysgol leol ich plant, lawr lwytho adnoddau ich helpu i frwydro dros addysg Gymraeg yn eich ardal chi, cadw golwg ar ddatblygiadau a newyddion ar flog Ceri - ein swyddog datblygu - neu rannu eich profiadau gyda rhieni eraill. Rydyn nin dibynnu ar rieni i frwydro dros addysg Gymraeg in plant - ymunwch a ni!

Lynne Davies, Cadeirydd RhAG.
beth sy'n newydd...
Lawr-lwythiadau:
Trosolwg Cenedlaethol CSGAau 2014-17...
Ymateb RhAG i Ymgynghoriad Effeithlonrwydd Cyngor Merthyr Tudful - Cyn...
Adroddiad: Arolwg o effaith codi tl am gludiant 16+ ym Mhen-y-bont ar...
...
Adroddiad Blynyddol 2012-13...
Rhagolwg- rhifyn Haf 2013...
Polisi Cynaliadwyedd_Adolygwyd Ebrill 2013...
Tystiolaeth RhAG i Bwyllgor Arbenigwyr Siartr Ewrop ar Ieithoedd Rhanb...
Twf Addysg Gymrae 2012-2020...
Adroddiad Blynyddol 2011-12...
Ffurflen Archebu Cynhadledd 2012...
Gwahoddiad Cynhadledd & Chyf Blynyddol 2012...
Rhifyn Arbennig Rhagolwg...
Special edition Rhagolwg...
Adroddiad Blynyddol 2010-2011...
Cynllun Corfforaethol RhAG 2012-13...
Adroddiad ar ganfyddiadau arolwg RhAG De Powys...
Adroddiad ar ganfyddiadau arolwg Gogledd Ddwyrain Powys (Mudiad Addysg...
Arolwg RhAG De Powys - holiadur...
Arolwg RhAG De Powys - holiadur...
Maniffesto RhAG ar gyfer Etholiad 2011 Cynulliad Cenedlaethol Cymru...
Ymateb RhAG i ddogfen ymgynghorol Iaith Fyw:Iaith Byw...
Maniffesto RhAG ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011...
Cyfarfod Cangen rhAG Llanfair-ym-Muallt...
Adroddiad Blynyddol RhAG 2009-10...
Cofnodion Cyfarfod Blynyddol 2008 -2009...
Cynhadledd a Chyfarfod Blynyddol 2010...
Ffurflen Gofrestru Cynhadledd 2010 ...
Adroddiad Blynyddol 2008-09...
Adroddiad y Cadeirydd 2008-09...
Cynllun Corfforaethol RhAG 2010-11...
Adroddiad Blynyddol 2006-07...
Cofnodion Cyfarfod Blynyddol 2006...
Cofnodion Cyfarfod Blynyddol 2007...
Cofnodion Cyfarfod Blynyddol 2008...
Cyfansoddiad RhAG...
Astudiaeth Achos - Dosbarthiadau Cychwynnol...
...
Ymateb MDG i Mesur yr Iaith Gymraeg...
Ymateb RhAG i Mesur yr Iaith Gymraeg 2010...
Diffyg uchelgais wrth gynllunio Addysg Gymraeg
Bydd Cynlluniau drafft Addysg Gymraeg Awdurdodau Lleol Cymrun syrthion brin iawn o darged y Llywodraeth ar gyfer twf addysg Gymraeg. Dyna honiad RhAG ac UCAC ar sail arolwg or Cynlluniau drafft. Mae pob un o Awdurdodau Lleol Cymru wedi cyflwynou cynlluniau drafft, ac mae RhAG ac UCAC wedi mynegi pryderon bod nifer sylweddol ohonynt yn annigonol ac yn ddi-uchelgais. Dawr mudiadau ir casgliad hwnnw wedi iddynt gyfrannu sylwadau ar y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, syn weithredol ar sail statudol am y tro cyntaf o 1 Ebrill ymlaen, ac syn amlinellu sut y byddant yn cynllunio darpariaeth Addysg Gymraeg rhwng 2014 17. Bernir fod diffyg targedau pendant a mesuradwy ynghyd ag aneglurder sylweddol o ran y camau gweithredu i gyflawnir targedau sydd wedii pennu yn Strategaeth Addysg Gymraeg, Llywodraeth Cymru. Ymysg y prif gasgliadau: Er bod y Cynlluniau ar y cyfan yn nodi bod Awdurdodau Lleol am weld llwyddiant addysg Gymraeg, yn gyffredinol mae diffyg gweledigaeth a chamau gweithredu rhagweithiol, pendant er mwyn cyrraedd targedau cenedlaethol. Does dim digon o dystiolaeth i ddangos bod Awdurdodau Lleol yn bwriadu ysgogi a hyrwyddo twf addysg Gymraeg. Does dim digon o sn am fesur y galw am addysg Gymraeg ymhlith rhieni, nac ymateb i arolygon sydd eisoes wedi digwydd. Diffyg targedau penodol, heriol a mesuradwy a fydd yn arwain at gynnydd gwirioneddol. Diffyg sn am agor ysgolion newydd. Mewn siroedd lle maer dilyniant o'r cynradd i'r uwchradd yn wan, mae diffyg targedau i gaur bwlch yn y llithriad ieithyddol. Diffyg pwyslais digonol, neu yn achos nifer or siroedd, dim pwyslais o gwbl, ar hyrwyddo addysg Gymraeg yn rhagweithiol er mwyn symbylu twf. Meddai Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG Mae rhai siroedd wedi mynd ati i nodi sut bydd addysg Gymraeg yn ehangu, ond yn gyffredinol pryderwn nad ywr Cynlluniau yn eu ffurf bresennol yn adlewyrchu ysbryd na llythyren Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ar Rheoliadau perthnasol. Dydyn nhw ddim yn amlinellu sut y bydd pob awdurdod lleol yn cyflawnir canlyniadau ar targedau syn ddisgwyliedig ohonynt. Cam cyntaf yn unig yn y broses o gyflymur ymateb ir galw cynyddol am Addysg Gymraeg oedd lansior Strategaeth nl yn Ebrill 2010: gweithredur rhaglen waith yn effeithiol ywr unig ffordd o gyflawnir targedau bennir ynddo. Dylai pob cynllun strategol fod yn gerbyd effeithiol i hwyluso a datrys y rhwystrau presennol syn llesteirio twf addysg Gymraeg a galluogi Awdurdodau Lleol i gynyddu lleoedd. Mae angen felly ir siroedd bennu targedau clir a chydlynol yn seiliedig ar y weledigaeth fod dyletswydd arnynt bellach nid yn unig i ddiwallur galw ond yn hytrach i hybu twf. Pwysleisiwn bod rhai siroedd wedi mynd ati i nodi eu bwriadaun glir, yr hyn sydd ei angen yw bod pob sir yn efelychur patrwm hwnnw. Mae RhAG yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn gadarn i hyn ac yn pwyso ar y Gweinidog Addysg i ddefnyddior grymoedd newydd sydd yn ei feddiant i wrthod cynlluniau gwan, cyffredinol ac amwys. Rhaid rhoi neges glir na fydd diffyg cydymffurfiaeth yn dderbyniol er mwyn troi consensws ac ewyllys gwleidyddol cenedlaethol yn weithredu o ddifrif ar lawr gwlad yn ystod cylch cyntaf y Cynlluniau newydd. Ychwanegodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC "Mae'r Cynlluniau'n eithriadol o amrywiol, gydag ambell un yn cynnwys dadansoddiad onest a thargedau heriol. Fodd bynnag, rydym yn siomedig bod cynifer ohonynt yn dangos diffyg cyfeiriad, diffyg ysbrydoliaeth a diffyg uchelgais. Pwyswn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr Awdurdodau'n cymryd eu cyfrifoldebau statudol o ddifrif, ac i fynnu bod y Cynlluniau gwanaf yn cael eu diwygio'n sylweddol ar fyrder." Diwedd Nodiadau Am fwy o wybodaeth cysylltwch Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.net Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC ar 01970 639950 neu rebecca@athrawon.com Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2014-17 Trosolwg Cenedlaethol: Casgliadau Cyffredinol RhAG http://www.rhag.net/dogfennau/Trosolwg%20Cenedlaethol%20CSGAau.pdf Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, Llywodraeth Cymru Ebrill 2010 http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/guidance/welshmededstrat/?lang=cy Adroddiad Blynyddol Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg 2012-13 http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/guidance/wmesreport/?lang=cy Yn rhagymadrodd y Gweinidog, ceir cydnabyddiaeth na fydd modd cyrraedd targed 2015, ond heb gynlluniau gweithredu pendant a bwriadus gan lywodraeth leol fydd dim gobaith chwaith o gyflawni targedau 2020, sef 30% o blant 7 oed yn derbyn addysg Gymraeg.
...
Protest toriadau Merthyr: neges gefnogaeth RhAG
"Maen destun siom a dicter fod rhaid bod yma o gwbl heddiw. "Pam yn y byd ydyn ni'n dal i orfod ymgyrchu dros chwarae teg i bobl ifanc Merthyr dderbyn eu haddysg yn eu dewis iaith? Nid oes amheuaeth y byddai torri cludiant 16+ yn cael effaith andwyol ar ddyfodol addysg Gymraeg ym Merthyr a Chwm Cynon fel ei gilydd. Maen hen bryd i Awdurdodau Lleol berchnogi eu cyfrifoldeb statudol a sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael mor hwylus phosib i bawb syn dymuno manteisio arni. Maen ffaith syn hysbys inni gyd; does dim ysgol gyfun Gymraeg ym Merthyr, ac felly mae cenhedlaeth o blant y sir wedi, ac yn parhau, i deithion ddyddiol i Hirwaun er mwyn parhau u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly mae darpariaeth cludiant effeithiol, ac heb gost, yn hanfodol er mwyn sicrhau cydraddoldeb i addysg Gymraeg. Byddai codi tl am gludiant yn cosbir llai cefnog yn fwy na neb, a pheri fod addysg Gymraeg yn seiliedig ar hap cod post. Dros y blynyddoedd diwethaf mae siroedd eraill wedi ystyried yr hyn mae Merthyr yn ei gynnig nawr ac wedi rhoir syniad ir neilltu Abertawe, Bro Morgannwg ar wythnos hon Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr. Maen dangos sut y gall undod a chryfder barn gyhoeddus ddwyn pwysau digonol er mwyn newid polisi syn anghyfiawn ac annheg. "Mae RhAG yn cefnogi'r ymgyrch hollbwysig hon ac yn galw ar Gyngor Merthyr i wneud yr hyn syn iawn.
...
UCAC a RhAG yn mynegi pryderon am oblygiadau torri cludiant am ddim 16+ ar addysg Gymraeg
Mae undeb athrawon UCAC a mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi mynegi pryderon am oblygiadau torri cludiant am ddim 16+ ar addysg Gymraeg. Daw hyn yn sgil cyhoeddi cynigion gan Gynghorau Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr i ddiddymu'r ddarpariaeth. Mae'n bosib y bydd cynghorau Abertawe a Mynwy yn ystyried hyn hefyd. Dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC "Rydym yn deall pa mor anodd yw hi ar Awdurdodau Lleol. Ond rhaid ystyried y risgiau sydd ynghlwm wrth y cynigion hyn. "Bydd torri cludiant am ddim i ddisgyblion l-16 yn andwyol i strategaethau'r Llywodraeth i gadw pobl ifanc mewn addysg (ac osgoi cynnydd yn y NEETS), ac i gynyddu'r niferoedd sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg. "Bydd yn effeithio'n anghymesur ar y sector cyfrwng Cymraeg am fod y pellteroedd y mae'n rhaid i ddisgyblion deithio gymaint yn fwy, ac felly, gymaint yn ddrytach - a hynny mewn ardaloedd difreintiedig. "Mae hynny'n rhoi addysg ol-16 cyfrwng Cymraeg dan fygythiad, ac mi fyddai hynny yn ei dro yn codi cwestiynau mawr am gynaladwyedd yr ysgolion cynradd ac uwchradd yn y sector, heb son am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. "Rhaid i Awdurdodau Lleol ystyried gwir oblygiadau unrhyw benderfyniadau, a bod yn barod i dderbyn y cyrifoldeb amdanynt yng ngwydd y cyhoedd a'r Llywodraeth." Meddai Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG, Tran derbyn bod rhaid gwneud arbedion mewn adeg o gynni, rhaid i Awdurdodau Lleol hefyd berchnogir cyfrifoldeb o sicrhau bod addysg Gymraeg yn hygyrch ac mor hwylus phosib i bawb syn dymuno manteisio arni. Mae darpariaeth cludiant effeithiol yn allweddol i sicrhau cydraddoldeb i addysg Gymraeg, gan fod y ddarpariaeth mor bell o gartrefir rhan fwyaf o deuluoedd. Bydd torri cludiant 16+ am ddim yn milwrion erbyn dyhead clodwiw Llywodraeth Cymru i dorrir cylch caeth rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad addysgol ac yn tanseilio Mesur Teithio i Ddysgwyr syn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i hyrwyddo mynediad at addysg Gymraeg. Bydd hefyd yn cael effaith negyddol ar ddewisiadau rhieni yn y meithrin ar cynradd gan lyffetheirio gallu'r sir i gyrraedd targedau twf y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae codi tl am gludiant ysgol yn mynd i gosbir llai cefnog yn fwy na neb, a pheri na fydd disgyblion o gefndiroedd tlotach yn gallu parhau ag addysg Gymraeg. Bydd yn gosod disgyblion dan straen yn ogystl rhieni sy'n poeni am eu sefyllfa ariannol. Yn wir, maen gwestiwn a ywr siroedd wedi cynnal asesiad cydraddoldeb ar effaith codi tl am gludiant ysgol ar addysg Gymraeg 16+, ar addysg 16+ yn gyffredinol nac ar deuluoedd llai cefnog." DIWEDD Am fanylion pellach cysylltwch : Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC ar 07787 572180 Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 07912175403
...
Galw ar y Gweinidog Addysg i ddefnyddio ei bŵerau
Mae RhAG wedi galw ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ddefnyddior grymoedd newydd sydd yn ei feddiant i wrthod cynlluniau gwan gan Awdurdodau Lleol fydd yn gyfrifol am wella cynllunio Addysg Gymraeg dros y dair mlynedd nesaf. Mynegwyd hynny mewn llythyr at Huw Lewis AC drannoeth i ddyddiad cau cyflwyno Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) i sylw Llywodraeth Cymru Mae RhAG eisoes wedi galw ar yr Awdurdodau Lleol i berchnogir dyletswydd o wella cynllunio Addysg Gymraeg dan y drefn statudol newydd er mwyn gwireddu targedaur Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (SACC). Meddai Ceri Owen, Swyddog Datblygu Cenedlaethol RhAG, Mae RhAG yn sylweddoli mai partneriaeth rhwng llywodraeth ganol a lleol yw cyflawni nod ac amcanion y SACC gyda cyfrifoldebaun gorwedd ar y ddwy ochr. Mae angen felly ir siroedd bennu targedau clir a chydlynol yn seiliedig ar y weledigaeth fod dyletswydd arnynt bellach nid yn unig i ddiwallur galw ond hefyd i hybu twf. Fel un or rhanddeiliaid sydd wedi cyfrannu sylwadau ar ddrafftiau CSGA nifer or siroedd, yn gyffredinol daeth yn amlwg nad ydynt mewn gwirionedd wedi cydio yn y feddylfryd newydd syn ddisgwyliedig ohonynt. Yn gyffredinol mae diffyg targedau pendant drwyddi draw er mwyn cyflawnir nod. Yn barod mae Adroddiad Blynyddol SACC 2012-13 wedi cydnabod na fydd modd cyrraedd targedau 2015, ond heb gynlluniau gweithredu rhagweithiol gan lywodraeth leol fydd dim gobaith chwaith o gyflawni targedau 2020. Yn ychwanegol at hynny mae elfennau tu hwnt i bortffolio addysg wedi amlygun ddiweddar (yn lleol a chenedlaethol) syn gosod rhwystrau fydd yn faen tramgwydd i dwf addysg Gymraeg e.e toriadau i gludiant meithrin yn RhCT; bygythiadau i gludiant 16+ am ddim ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Merthyr a diffyg lleoedd Dechraun Deg trwy gyfrwng y Gymraeg i enwi dim ond rhai. Mewn cyfnod o gynni maer Awdurdodau Lleol yn ystyried rhain fel targedau hawdd er mwyn arbed arian a hynny heb sylweddolir effaith negyddol pellgyrhaeddol ar dwf addysg Gymraeg. Pwyswn felly ar Lywodraeth Cymru i weithredu proses graffu a gwerthuso cadarn; ac os gwelir na fydd cynlluniaun cyrraedd y safon ddisgwyliedig, rydym yn erfyn ar y Gweinidog i ddefnyddior grymoedd newydd sydd yn ei feddiant i wrthod cynlluniau gwan. Rhaid rhoi neges glir na fydd diffyg cydymffurfiaeth yn dderbyniol er mwyn cymryd y cyfle i droi consensws ac ewyllys gwleidyddol cenedlaethol yn weithredu o ddifrif ar lawr gwlad yn ystod cylch tair blynedd cyntaf y cynlluniau newydd. Diwedd Nodiadau Am fwy o wybodaeth cysylltwch Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.net
...
Pwyso ar Awdurdodau Lleol i ehangu Addysg Gymraeg
Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi galw ar Awdurdodau Lleol Cymru i berchnogir dyletswydd arnynt i wella cynllunio Addysg Gymraeg. Daw hyn wedi iddynt dderbyn pedair wythnos ychwanegol i gyflwynou Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg i sylw Llywodraeth Cymru. Bellach bydd rhaid cyflwyno erbyn 20 Ionawr 2014. Meddai Ceri Owen, Swyddog Datblygu Cenedlaethol RhAG, Bydd Ebrill 2014 yn dynodi trefn gynllunio newydd; am y tro cyntaf bydd sail statudol ir cynlluniau, gyda grym y gyfraith tu l iddynt. Rydym fellyn galw ar y siroedd i wneud yn fawr or cyfle estynedig hwn i gryfhau eu cynlluniau trwy ymgynghori rhieni er mwyn eu galluogi i gyflawni targedau Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (SACC) y Llywodraeth. Yn barod mae Adroddiad Blynyddol SACC 2012-13 wedi cydnabod na fydd modd cyrraedd targedau 2015. Daeth hyn fel siom gan inni eisoes ddatgan fod y targedau'n annigonol, ond heb gynlluniau gweithredu pendant a bwriadus gan lywodraeth leol fydd dim gobaith cyflawni targedau 2020, sef 30% o blant 7 oed yn derbyn Addysg Gymraeg. Mae RhAG wedi amcangyfrif bod angen rhwng 80 100 ffrwd ychwanegol (30 plentyn) os am gyrraedd y nod. Bellach maer SACC yn gosod yr agenda cenedlaethol o safbwynt cynllunio Addysg Gymraeg, er hynny pwysleisiwn mai partneriaeth yw hon rhwng llywodraeth ganol a lleol gyda chyfrifoldebaun gorwedd ar y ddwy ochr. Mae angen ir siroedd bennu targedau clir a chydlynol yn seiliedig ar y weledigaeth fod dyletswydd arnynt bellach nid yn unig i ddiwallur galw ond yn hytrach i hybu twf. Yn yr un modd mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu proses graffu a gwerthuso gadarn; ac os gwelir na fydd cynlluniaun cyrraedd y safon ddisgwyliedig, rydym yn disgwyl ir Gweinidog Addysg ddefnyddio ei rymoedd newydd i wrthod cynlluniau gwan. Rhaid rhoi neges glir na fydd diffyg cydymffurfiaeth yn dderbyniol er mwyn cymryd y cyfle i droi consensws ac ewyllys gwleidyddol cenedlaethol yn weithredu o ddifrif ar lawr gwlad. Diwedd
...
Cam yn nes at ddarpariaeth uwchradd newydd
Mae RhAG wedi croesawu cyhoeddiad diweddar syn addo datrysiad i ddiffyg lleoedd uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y de-ddwyrain. Daw hyn yn sgil datganiad gan Gyngor Casnewydd syn awgrymur tebygolrwydd mai o fewn ffiniaur sir honno y lleolir unrhyw ddarpariaeth newydd. Meddai Lynne Davies, rhiant syn byw yn Sir Fynwy a Chadeirydd Cenedlaethol RhAG,Mae trafodaethau rhwng siroedd yr hen Went wedi rhygnu mlaen ers peth amser ond heb unrhyw gynnydd pendant. Maer cyhoeddiad hir-ddisgwyliedig hwn yn arwydd hynod galonogol fod datrysiad gwirioneddol yn yr arfaeth. Bur blynyddoedd diwethaf yn gyfnod o ansicrwydd mawr i rieni, fun pryderu ynglyn dyfodol darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal ac effaith hynny ar addysg eu plant. Maer cyhoeddiad hwn yn gam yn nes tuag at leddfur pryderon hynny ac yn cynnig sicrwydd fu mawr ei angen. Maen allweddol hefyd bod y siroedd yn cyfathrebu gyda rhieni bob cam or ffordd er mwyn sicrhau fod y datblygiad hwn yn bartneriaeth gwirioneddol rhwng yr holl randdeiliaid, gan gynnwys Ysgol Gyfun Gwynllyw syn gwasanaethur ardal ar hyn o bryd. Ychwanegodd Elin Maher, rhiant a Chadeirydd RhAG Casnewydd, Wrth groesawur newyddion rhaid pwyson awr am fwy o fanylder ynglyn r glo mn yn benodol o ran lleoliad a threfniadaeth y cynllun arfaethedig, a hynny cyn gynted phosib. Rhaid hefyd sicrhau fod y cynllun yn cadw at yr amserlen ac yn barod i dderbyn plant yr ardal ym mis Medi 2016. Pwysig yw cofio fod y datrysiad hwn yn gwbl ddibynnol ar arian cyfalaf gan Lywodraeth Cymru, felly hyderwn y byddant hwythaun ystyried y datrysiad fel partneriaeth ac yn cefnogi hynny trwy fuddsoddir cyllid angenrheidiol, fydd maes o law yn cyfrannu tuag at amcanion eu Stratgeaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg eu hunain. Rhaid i lywodraeth leol a chanol chwarae eu rhan er mwyn sicrhau fod y cynllun hwn yn cael ei wireddu. Rhaid mynd atin awr i droi ewyllys da yn weithredu o ddifrif. Diwedd Nodiadau Am fwy o wybodaeth cysylltwch Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.net
...
Strategaeth Addysg Gymraeg: profiadau llawr gwlad
DYDD Sadwrn 23 Tachwedd bydd RhAG yn cynnal Cynhadledd a Chyfarfod Blynyddol yn Ysgol Gymraeg Treganna, Caerdydd. Themar gynhadledd eleni yw Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg: profiadau llawr gwlad. Y siaradwyr gwadd fydd, Gari Lewis, Pennaeth Cynllunio, Uned y Gymraeg mewn Addysg, Llywodraeth Cymru, Elin Maher, RhAG Casnewydd, Cyng. Arfon Jones, RhAG Wrecsam a Dr Dyfed Wyn Huws, Ymgyrch TAG. Meddai Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG, Amcan y gynhadledd eleni fydd gosod chwyddwydr ar yr hyn syn digwydd ar lawr gwlad trwy gymharu profiadau aelodau canghennau lleol RhAG gyda thargedau cenedlaethol. Byddwn yn gofyn - a ywr Strategaeth yn gwireddu ei amcanion ydi profiadau rhieni ledled Cymru yn cadarnhau fod y Strategaeth yn cyflawni ei nod ac yn hwyluso mynediad at addysg Gymraeg? Ydi polisi ar y lefel uchaf yn cael ei raeadru trwy weithredoedd llywodraeth leol ac yn cael effaith gadarnhaol yn ddigon cyflym? Yn wyneb hinsawdd ariannol anodd a thoriadau anorfod ar gyllidebau cyhoeddus, byddwn yn ystyried yr heriau mwyaf syn wynebu Awdurdodau Lleol wrth fynd ati i gyflawni targedaur Strategaeth a pha agweddau syn parhau i lesteirio twf. Ac o dderbyn bellach fod pob sir yn gorfod llunio a chyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ar sail statudol, byddwn hefyd yn trafod a yw ymgyrchu yn ystyr arferol y gair yn parhau i fod yn angenrheidiol? Byddwn yn trafod sut mae gweithgarwch RhAG eisoes wedi esblygu ac yn ystyried natur ein cyfraniad fel lladmerydd dros fuddiannau rhieni wrth ymateb ir cyfnod newydd hwn. Diwedd Nodiadau Am ragor o wybodaeth cysylltwch Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.net
...
Lansio Ymgyrch Hyrwyddo Addysg Gymraeg
MAE RhAG wedi croesawu lansio Ymgyrch Addysg Cyfrwng Cymraeg gan Y Prif Weinidog, Carwyn Jones heddiw. Dywedodd Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG, Bu RhAG yn aros yn eiddgar am lansior ymgyrch hon, yn wir maen ddiwrnod hanesyddol syn nodi Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf yn perchnogir cyfrifoldeb dros hyrwyddo Addysg Gymraeg yng Nghymru. Maer galonogol gweld y Prif Weinidog yn arwain ar y lansiad syn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weld Addysg Gymraeg yn ffynnu. Addas a phriodol yw lansior ymgyrch yn Ysgol Trelyn, Caerffili gan ei fod yn diriaethur ddeuoliaeth bresennol syn wynebu addysg Gymraeg heddiw. Maer adeilad syn cartrefur ysgol yn gynrychioladol or heriau syn wynebu nifer o ysgolion yn y sector cyfrwng Cymraeg a hynny mewn sir ble cafwyd twf aruthrol yn y galw am addysg Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Os am sicrhau twf o ddifrif yn y dyfodol maen rhaid blaenoriaethu buddsoddiad cyfalaf. Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn gosod disgwyliad fod Awdurdodau Lleol bellach yn symbylu twf yn hytrach na diwallun unig. Dyma newid sylfaenol or drefn flaenorol. Hyderwn felly mai dechraur daith yn unig fydd lansiad eleni, ac y bydd yr ymgyrch yn datblygun flynyddol gyda buddsoddiad cyllid digonol. Nid ywr gynulleidfa darged yn un statig, ac felly maen allweddol fod yr ymgyrch nid yn unig yn ddeinamig ond yn hylifol, ac yn parhau i ailadrodd y negeseuon am addysg Gymraeg a manteision dwyieithrwydd o flwyddyn i flwyddyn. Gobeithiwn hefyd y bydd yn tynnu ynghyd yr holl bartneriaid syn gweithion ddiflino i hyrwyddo Addysg Gymraeg ar lawr gwlad mewn ymdrech ar y cyd. Yn bwysicach na dim, rhaid gwneud yn siwr fod neges graidd yr ymgyrch hon fod gan rieni Cymru ddewis arall o ran addysg eu plant yn ddewis gwirioneddol ymarferol ac fod siroedd Cymru hefyd yn gweithredu ar eu dyletswydd; trwy sicrhau fod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn hygyrch, fod dilyniant cadarn ar gael ymhob cyfnod allweddol a hynny ar gael o fewn pellter teithio rhesymol ir cartref. Diwedd Nodiadau Am ragor o wybodaeth cysylltwch Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.net
...
Rhaglen Dechraun Deg yn milwrion erbyn twf Addysg Gymraeg
Mae RhAG wedi honni fod un o bolisau blaenllaw Llywodraeth Cymru, er gwaethaf ewyllys da y sefydliad, yn milwrion erbyn ehangu Addysg Gymraeg. Yn dilyn gwneud cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mae ymatebion yr Awdurdodau Lleol yn dangos nad ywr ddarpariaeth yn dod yn agos at y canrannau presennol syn derbyn addysg Gymraeg. Gwelir y patrwm hwn gan oddeutu hanner siroedd Cymru. Daw hyn yn sgil lansiad swyddogol Adeiladu Dyfodol Disglair: Cynllun y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant gan y Prif Weinidog Carwyn Jones yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych eleni. Meddai Ceri Owen Swyddog Datblygu RhAG, Maer ymarferiad hwn wedi amlygu nifer o gwestiynau difrifol iawn am weithredu rhaglen Dechraun Deg ar lawr gwlad ac am statws y Gymraeg o fewn y polisi hwn. Does dim monitro manwl yn digwydd, a dim rheolaeth ar sut mae awdurdodau lleol yn gweithredu'r drefn. Yn wir, lleiafrif bychan o siroedd syn gwneud yn dda - maer gweddill yn tangyflawnin sylweddol. Yn amlach na pheidio, lleoedd Dechraun Deg fydd pwynt mynediad cyntaf nifer cynyddol o deuluoedd i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar. Yn gyffredinol dengys y data fod diffygion sylweddol wrth sicrhau cyfleoedd cyfartal i deuluoedd difreintiedig gael mynediad at ddarpariaeth gofal plant Dechraun Deg trwy gyfrwng y Gymraeg. Rhaid gofyn pa fath o sylfaen maer rhaglen hon yn ei gosod er mwyn cyflawni targedaur Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg? Yn arbennig felly pan mae Adroddiad Blynyddol y Llywodraeth ar gyfer 2012-13 mewn perthynas r Strategaeth yn cyfaddef ein bod yn anhebygol o weld 25 y cant o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2015. Pa fath o gyd-berthynas sydd rhyngddynt mewn gwirionedd? Oes yma enghraifft o un polisi gan y llywodraeth yn tanseilio a llyffetheirio un arall? Aeth ymlaen i ddweud, Dealltwriaeth RhAG yw fod bwriad i ehangur rhaglen Dechraun Deg dros y blynyddoedd nesaf trwy fuddsoddiad ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Dyma faes allweddol syn gorgyffwrdd chylch gorchwyl sawl Gweinidog, gan gynnwys Trechu Tlodi, Gofal Plant ac Addysg. O ganlyniad mae angen arweiniad a chyfarwyddyd polisi cenedlaethol or canol mewn perthynas statws y Gymraeg o fewn y rhaglen. Fel y Gweinidog sydd bellach chyfrifoldeb am yr iaith dylai Carwyn Jones gadarnhau ymrwymiad y Llywodraeth a sicrhau fod y Gweinidogion perthnasol yn gweithredun unol hynny. Mae angen i'r llywodraeth sefydlu arolygiaeth ar gyfer y drefn, a rhoi cyllid yn unig i awdurdodau sy'n rhoi cyfartaledd i'r ddwy iaith yn l disgwyliadau lleol am dwf addysg Gymraeg. diwedd Nodiadau Ymysg y canlyniadau gwaethaf mae: Colofn 1: Awdurdod Addysg Lleol Colofn 2: Nifer plant yn derbyn darpariaeth gofal plant DD cyfrwng Cymraeg Colofn 3: Nifer lleoedd cyfrwng Cymraeg DD ar gael Colofn 4: Canran plant Bl.2 yn derbyn Addysg Gymraeg CNPT 1.5% 4.6% 17.7% Conwy 9.5% 9.18% 23.7% Casnewydd 0% 0% 4.6% Caerdydd 7.7% 12.3% 15% Abertawe 1.8% 3.71% 13.6% Sir Gar 25% 30% 55.6% Merthyr 1% 5% 9.8% Sir Benfro 12.7% 14% 21.2% RhCT 9% 11% 20.5% Torfaen 5% 7% 10.2% Wrecsam 4.1% 13.1% 12.1% Casgliadau eraill: Trosglwyddo i addysg Gymraeg: canrannau yn isel iawn ac yn amlach na pheidio nodwyd nad oedd y data ym meddiant yr Awdurdod Lleol. Nododd un ymateb: Ar hyn o bryd, nid ywn ofynnol ir gwasanaeth fonitro pa ysgolion y maer plant yn trosglwyddo iddynt, ac o ganlyniad, nid ywr wybodaeth hwn yn ein meddiant. Niferoedd staff cyfrwng Cymraeg: Ar gyfartaledd mae llai na 1/3 o staff y siroedd yn medrur Gymraeg (wahn i Gwynedd, Mn a Cheredigion) Cwestiynau iw gofyn o safbwynt yr arferiad presennol o gasglu data am sgiliau ieithyddol staff a natur ieithyddol y darpariaethau yn yr un modd a fod disgwyl rheolaeth lem o safbwynt iechyd a diogelwch, gwiriadau CRB ayb Ni chynhaliwyd unrhyw asesiad ac ni chasglwyd unrhyw wybodaeth oedd ymateb sawl sir. Yn gyffredinol ceir amwysedd a diffyg cysondeb drwyddi draw yn y cyswllt hwn.
...
Rhaglen Dechraun Deg yn milwrion erbyn twf Addysg Gymraeg
Mae RhAG wedi honni fod un o bolisau blaenllaw Llywodraeth Cymru, er gwaethaf ewyllys da y sefydliad, yn milwrion erbyn ehangu Addysg Gymraeg. Yn dilyn gwneud cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mae ymatebion yr Awdurdodau Lleol yn dangos nad ywr ddarpariaeth yn dod yn agos at y canrannau presennol syn derbyn addysg Gymraeg. Gwelir y patrwm hwn gan oddeutu hanner siroedd Cymru. Daw hyn yn sgil lansiad swyddogol Adeiladu Dyfodol Disglair: Cynllun y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ar faes y brifwyl ddoe. Meddai Ceri Owen Swyddog Datblygu RhAG, Maer ymarferiad hwn wedi amlygu nifer o gwestiynau difrifol iawn am weithredu rhaglen Dechraun Deg ar lawr gwlad ac am statws y Gymraeg o fewn y polisi hwn. Does dim monitro manwl yn digwydd, a dim rheolaeth ar sut mae awdurdodau lleol yn gweithredu'r drefn. Yn wir, lleiafrif bychan o siroedd syn gwneud yn dda - maer gweddill yn tangyflawnin sylweddol. Yn amlach na pheidio, lleoedd Dechraun Deg fydd pwynt mynediad cyntaf nifer cynyddol o deuluoedd i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar. Yn gyffredinol dengys y data fod diffygion sylweddol wrth sicrhau cyfleoedd cyfartal i deuluoedd difreintiedig gael mynediad at ddarpariaeth gofal plant Dechraun Deg trwy gyfrwng y Gymraeg. Rhaid gofyn pa fath o sylfaen maer rhaglen hon yn ei gosod er mwyn cyflawni targedaur Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg? Pa fath o gyd-berthynas sydd rhyngddynt mewn gwirionedd? Oes yma enghraifft o un polisi gan y llywodraeth yn tanseilio a llyffetheirio un arall? Aeth ymlaen i ddweud, Dealltwriaeth RhAG yw fod bwriad i ehangur rhaglen Dechraun Deg dros y blynyddoedd nesaf trwy fuddsoddiad ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Dyma faes allweddol syn gorgyffwrdd chylch gorchwyl sawl Gweinidog, gan gynnwys Trechu Tlodi, Gofal Plant ac Addysg. O ganlyniad mae angen arweiniad a chyfarwyddyd polisi cenedlaethol or canol mewn perthynas statws y Gymraeg o fewn y rhaglen. Fel y Gweinidog sydd bellach chyfrifoldeb am yr iaith dylai Carwyn Jones gadarnhau ymrwymiad y Llywodraeth a sicrhau fod y Gweinidogion perthnasol yn gweithredun unol hynny. Mae angen i'r llywodraeth sefydlu arolygiaeth ar gyfer y drefn, a rhoi cyllid yn unig i awdurdodau sy'n rhoi cyfartaledd i'r ddwy iaith yn l disgwyliadau lleol am dwf addysg Gymraeg. Nodiadau Ymysg y canlyniadau gwaethaf mae: Nifer plant yn derbyn darpariaeth gofal plant DD cyfrwng Cymraeg Nifer lleoedd cyfrwng Cymraeg DD ar gael Canran plant Bl.2 yn derbyn Addysg Gymraeg CNPT 1.5% 4.6% 17.7% Conwy 9.5% 9.18% 23.7% Casnewydd 0% 0% 4.6% Caerdydd 7.7% 12.3% 15% Abertawe 1.8% 3.71% 13.6% Sir Gar 25% 30% 55.6% Merthyr 1% 5% 9.8% Sir Benfro 12.7% 14% 21.2% RhCT 9% 11% 20.5% Torfaen 5% 7% 10.2% Wrecsam 4.1% 13.1% 12.1% Casgliadau eraill: Trosglwyddo i addysg Gymraeg: canrannau yn isel iawn ac yn amlach na pheidio nodwyd nad oedd y data ym meddiant yr Awdurdod Lleol. Nododd un ymateb: Ar hyn o bryd, nid ywn ofynnol ir gwasanaeth fonitro pa ysgolion y maer plant yn trosglwyddo iddynt, ac o ganlyniad, nid ywr wybodaeth hwn yn ein meddiant. Niferoedd staff cyfrwng Cymraeg: Ar gyfartaledd mae llai na 1/3 o staff y siroedd yn medrur Gymraeg (wahn i Gwynedd, Mn a Cheredigion) Cwestiynau iw gofyn o safbwynt yr arferiad presennol o gasglu data am sgiliau ieithyddol staff a natur ieithyddol y darpariaethau yn yr un modd a fod disgwyl rheolaeth lem o safbwynt iechyd a diogelwch, gwiriadau CRB ayb Ni chynhaliwyd unrhyw asesiad ac ni chasglwyd unrhyw wybodaeth oedd ymateb sawl sir. Yn gyffredinol ceir amwysedd a diffyg cysondeb drwyddi draw yn y cyswllt hwn. Tabl llawn yn nodir ymatebion: AWDURDODAU LLEOL Cyfanswm y plant sy'n derbyn darpariaeth Dechrau'n Deg Nifer a chanran y plant sy'n derbyn darpariaeth Dechrau'n Deg trwy gyfrwng Cymraeg. Nifer lleoliadau Dechrau'n Deg cyfrwng Cymraeg a chyfanswm y lleoedd ar gael o fewn y lleoliadau hynny - gan gynnwys canrannau. Nifer lleoliadau Dechrau'n Deg cyfrwng Saesneg a chyfanswm y lleoedd ar gael o fewn y lleoliadau hynny - gan gynnwys canrannau. Nifer a chanran y plant sy'n trosglwyddo i addysg Gymraeg o leoliadau Dechrau'n Deg. Nifer staff a gyflogir i ddarparu rhaglen Dechrau'n Deg a nifer - ac felly'r ganran - o staff sy'n darparu trwy gyfrwng y Gymraeg Disgyblion Bl.2 yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg Abertawe 1392 dan 4 oed (rhaglen gyfan) 6 plentyn 2/3 oed 1 lleoliad / 12 lle (1 arall 8 lleoliad / 329 lle Ddim yn cadw'r data ddim yn cadw'r data 13.60% 1 arall yn agor yn Medi (18 lle arall) Blaenau Gwent 219 23 (11%) 2 leoliad (hyd at 40 lle) 4 lleoliad /170 lle 4 plentyn 22 i gyd (gofal plant) 10% CC 4.30% Bro Morgannwg 194 44 out of 194 = 23% 1 lleoliad / 48 lle 3 lleoliad / 120 lle (+ 13 gofalwr plant) 27 (14%) 10 allan o 44 = 23% 12.20% Casnewydd 400 Dim plant ond wedi tendro am 8 lle Dim 12 lleoliad /400 lle Dim (1%) 72 i gyd - dim un CC 4.60% CNPT 1000 15 (1.5%) 3 lleoliad 16 lle (4.61%) 18 lleoliad 331 lle (95.4%) data ddim ganddynt 11 yn uniongyrchol gan CNPT - dim un CC 17.70% Caerdydd 2900 dan 4 oed (rhaglen gyfan) 21 o deuluoedd (gofal plant) / 7.7% 4 lleoliad / 62 lle (12.3%) 13 lleoliad / 440 lle (87.6%) Ddim yn cadw'r data 15% Caerffili 327 40 (12%) 40 lle (potensial i 112) 14 lleoliad / 287 lle 15 (23%) 59 uniongyrchol gan y sir (6 CC) 16.70% Ceredigion 429 91 13 / 83 lle (88%) 9 lleoliad / 11 lle (12%) 56 (61.5%) 20 (13 CC) (65%) 73.30% Conwy 232 22 (9.5%) 2 / 13.3% o'r ddarpariaeth 13 lleoliad / 515 lle (86.7% ) 37 (15.95%) 89 (23 CC) 25.8% 23.70% 52 lle (9.18%) o'r lleoedd Sir Ddinbych 704 23, syn 14% (gofal plant) 2 / 42 lle 9 lleoliad (1 dwyieithog) / 389 lle cofrestredig data ddim ganddynt heb ddarparu'r data'n iawn 23.20% Sir y Fflint 133 16 (12%) 3 lleoliad / methu cadarnhau nifer lle methu cadarnhau nifer methu cadarnhau 40 / 6 cyf Cymraeg 6.80% Sir Gaerfyrddin 218 gofal plant 55 (25%) 5 lleoliad allan o 13 (38%) 66 lle (30%) 9 lleoliad (69%) cynnwys 1 'dwyieithog' ddim yn ofynnol monitro'r data hwn 31% o'r staff cyfan 55.60% Gwynedd 154 plentyn 154 (100%) 5 lleoliad / 213 lle i gyd dim 154 (100%) 57 (100%) 98.40% Merthyr 632 1% 1 lleoliad (10 lle - 5 %) 1 heb gofrestru(12lle) 7 / 163 lle (88%) Sir ddim yn dal y data 26 / 2.5 cyf Cymraeg 9.80% Mynwy 82 4 (4.8%) 1 lleoliad / provised on ad hoc basis 4 settings minimum 28 places 0% 0% 4.60% Sir Penfro 688 o blant dan 4 oed 22 (12.7%) Dim un lleoliad CC penodol 4 / 248 lle 47 (16.6%) 46/ 3 CC (7%) 21.20% 1 Lleoliad C/S 36 lle, 18 (am) 18(pm) Pen-y-bont ar Ogwr 179 o blant gofal plant 26 (14%) cyf Cymraeg 3 lleoliad CC /26 lle / 13% 5 lleoliad / 168 lle / 87% 12/13 53 /42 (79%) trosg 39 i gyd / 11 (28%) CC 9.50% Powys 546 plentyn yn derbyn darp 25 allan o 110 ( 22.7%) 3 /40 lle (30%) 8 / 92 lle (70%) data ddim ganddynt 30 i gyd / 7 CC (23.3%) 19.40% RhCT 370 gofal plant 34 /9% 3 lleoliad allan o 20 (15%) 1 / 20 lleoliad (85%) 20.50% Torfaen 186 gofal plant 9 plentyn (5%) 2 lleoliad / hyd at 16 lle 12 / 226 lle DD / 2 childminder (3 lle pellach) 7 plentyn (5.6%) 57 i gyd / 4 CC (7%) 10.20% 2 ofalwraig plant(4 lle ychwanegol) Wrecsam 194 8 children 4.1% 2 lleoliad / 24 lle 12 / 182 lle 7 plentyn (90%) 77 i gyd / 12 CC (16%) 12.10% Ynys Mn 372 100% 5 lleoliad / 88 lle dim ddim yn casglu'r data 22 i gyd (95%) 1 dysgwr 75.20% *** Data yn edrych ar y flwyddyn 2012/13 Am ragor o wybodaeth cysylltwch Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.net
...
Y DE-ORLLEWIN YN DAL I GOLLI DISGYBLION CYMRAEG
MAE siroedd y de-orllewin yn colli un o bob pum disgybl Cymraeg i addysg Saesneg. Dyna honiad RhAG yn dilyn cyhoeddi adroddiad diweddarar Llywodraeth ar addysg Gymraeg. Yn l y ffigurau, mae Sir Gaerfyrddin yn dal gydar gwannaf yng Nghymru am sicrhau bod disgyblion sydd wedi cael addysg Gymraeg yn mynd ymlaen i fanteisio ar addysg uwchradd Gymraeg. Mae 23% o ddisgyblion - un o bob pedwar yn cael eu colli o addysg Gymraeg i addysg Saesneg. Mae Sir Benfro gydar gwannaf hefyd, gyda 27% yn cael eu colli, er bod rhai or sir hon yn mynd i gael addysg Gymraeg mewn siroedd cyfagos. Y gwannaf yng Nghymru erbyn hyn yw Castell-nedd Port Talbot, syn colli 31% oi disgyblion, er bod rhain mynd i Sir Gaerfyrddin. Medd Lynne Davies, cadeirydd RhAG, Maer golled ieithyddol hon yn digwydd yn yr union ran o Gymru lle mae gofid mawr yn sgil canlyniadau cyfrifiad 2011. Mae angen i Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot fynd atin ddi-oed i gryfhau eu trefn ddilyniant cynradd-uwchradd. Mewn rhai siroedd mae rhai ysgolion unigol yn meddu ar bolisau iaith cwbl wahanol i weddill y sir, ac mae angen ir siroedd ar Llywodraeth ddwyn pwysau i newid hyn. Ychwanegodd, Mae cael trefn syn caniatu i ddisgyblion newid i ail iaith yn twyllor system arholiadau, ac yn tanseilio canlyniadau TGAU ail iaith. Yn waeth na hyn efallai ywr ffaith nad ywr disgyblion eu hunain yn cael datblygu eu sgiliau ieithyddol a dod yn oedolion sgiliau cyfartal yn y ddwy Iaith. Mae gan y Llywodraeth dargedau i wellar dilyniant cynradd-uwchradd, ac rydyn nin gobeithio y bydd yn cynnal trafodaethau gydar siroedd yn ne-orllewin Cymru ar newid eu trefn. diwedd Nodiadau Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg: Adroddiad Blynyddol 2012-13: http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/guidance/wmesreport/?skip=1&lang=cy
...
Ymosodiad mileinig cabinet Caerdydd ar addewid blaenorol y Cyngor
HEDDIW mae RhAG wedi cyhuddo aelodau cabinet Caerdydd o ymosod yn fileinig ar addewid blaenorol y Cyngor mewn perthynas ag Addysg Gymraeg. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd heddiw cafwyd pleidlais i symud 'mlaen gyda'r bwriad o ymgynghorin ffurfiol ym mis Medi ar gynnig i helaethu Pwll Coch yn ysgol dair ffrwd barhaol ac i roi or neilltu unrhyw fwriad i adeiladu ysgol Gynradd Gymraeg Newydd yn Grangetown. Dywedodd llefarydd ar ran y mudiad, Heddiw maer cabinet wedi ymddwyn mewn modd cwbl ddirmygus ac wedi anwybyddu dyheadau a galwadau rhieni ar gymuned leol. Maent wedi cytuno i ymgynghori ar sail papur syn ystadegol ddiffygiol, syn tangyfrifo niferoedd o fewn y sector cyfrwng Cymraeg yn yr ardal ac o ganlyniad yn gosod rhagamcanion amheus iawn o safbwynt twf y dyfodol. Yn l cyfarwyddyd polisi Llywodraeth Cymru, dylair cyngor fod yn ymateb ir galw am addysg Gymraeg yn lleol: maer galw o fewn cymuned Grangetown yn hysbys ac eto anwybyddwyd hynny. Ymddengys ei bod yn dderbyniol i blant sydd am dderbyn Addysg Gymraeg deithio allan ou cymuned i dderbyn y ddarpariaeth honno. Maer anghydraddoldeb y polisi hwnnwn syfrdanol. Mae RhAG yn falch o ddeall fod grŵp Plaid Cymru wedi galwr penderfyniad i mewn syn golygu y bydd Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y Cyngor nawr yn gorfod edrych ar y cynnig. Bydd RhAG yn parhau i gydweithio gyda rhieni, mudiadau ar gymuned yn ehangach wrth ir ymgyrch ddwyshau yn erbyn y penderfyniad cywilyddus hwn. diwedd Nodiadau Am fwy o wybodaeth, cysylltwch Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.net
...
Cyngor Sir Penfro: oedi pellach wrth ddatblygu addysg Gymraeg?
Mae RhAG wedi beirniadu Cyngor Sir Penfro am fethiannau amlwg mewn perthynas blaengynllunio addysg Gymraeg yn yr awdurdod. Heddiw bydd y Cabinet yn trafod argymhelliad i ohirio cynnig gafodd sl bendith ar Ragfyr 3ydd 2012 i sefydlu ysgol gynradd Gymraeg 3-11 oed yn Ninbych y Pysgod i agor ym Medi 2015. Yn hytrach mae'r adroddiad yn argymell gohirio'r cynllun am flwyddyn bellach, gan olygu na fyddai'r ysgol arfaethedig yn agor tan Medi 2016. Mae RhAG yn galw ar y sir i sefydlu dosbarth cychwynnol ym mis Medi 2014, os oes rhaid aros tan fis Medi 2016 tan gael safle parhaol, fel na fydd dwy flynedd o blant yn collir cyfle i gael addysg Gymraeg. Daw beirniadaeth RhAG yn sgil adroddiad diweddaraf ESTYN yn Rhagfyr 2012, oedd yn nodi fod gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol i blant a phobl ifanc yn 'anfoddhaol' ac ategwyd gan Bwyllgor Craffu Plant a Theuluoedd y sir sydd wedi mynegi 'pryderon sylweddol' fod penderfyniadau yn cael eu gwneud a hynny heb unrhyw strategaeth gyffredinol ar gyfer darpariaeth addysg Gymraeg o fewn yr awdurdod. Meddai Heini Gruffudd, Cydlynydd RhAG yn y de orllewin, "Tynnodd ESTYN sylw at nifer o ddiffygion, gan gynnwys anallu'r sir i gwrdd 'r galw am addysg Gymraeg. Cyfeirwyd at y ffaith nad yw'r awdurdod yn mesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg neu am nad oes ganddo ddulliau amgen i gasglur wybodaeth honno, nad yw'n gwybod beth yw gwir lefel yr angen. Roedd yr adroddiad yn argymell fod angen rhoi strategaeth briodol ar waith i nodi a bodloni'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg. "Cytunwn gyda ESTYN fod methiant i feddu ar y wybodaeth honno, yn atal yr awdurdod rhag cynllunion effeithiol i sicrhau cynhwysedd digonol ac fod hynny'n ddiffyg pwysig. Ond er tynnu sylw at y diffyg sylfaenol hwn, nid yw RhAG yn ymwybodol fod y sir wedi mynd ati i fesur y galw eto, a hynny 7 mis yn ddiweddarach. Ni all hyn fod yn dderbyniol, ac mae'n amlwg nad yw'r awdurdod yn mynd ati o ddifrif i ymateb yn rhagweithiol i argymhellion ESTYN nac ychwaith i ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru sydd wedi'i crisialu yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. "Mae'r ffaith fod bwriad yn awr i ohirio ymhellach sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn Ninbych y Pysgod yn cwestiynu effeithiolrwydd yr awdurdod wrth ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ledled y sir. Does dim modd cyfiawnhau'r oedi hwn gan ei fod yn amddifadu rhieni rhag cael darpariaeth leol o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi. Mae pryderon eraill yn lleol gan gynnwys y ffaith fod y daith hiraf i ysgol uwchradd Gymraeg, sef 1awr 10 munud, sydd ugain munud yn fwy na'r daith hiraf i ysgol uwchradd Saesneg, h.y 40 munud yn fwy mewn diwrnod. Ymddengys nad oes cynlluniau i fynd i'r afael 'r anghydraddoldeb hwnnw trwy sefydlu ysgol uwchradd yn ne'r sir. Daeth yn amlwg felly fod angen ymagweddiad cadarn a strategaeth glir o safbwynt cynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sir dros y blynyddoedd nesaf."
...
YSGOL NEWYDD GRANGETOWN
Yn 2006 roedd 106 cais am addysg Gymraeg yn ardaloedd Canton, Pontcanna a Grangetown ac ond 90 lle (Treganna -30; Pwll Coch-60). Methodd rhai plant chael lle mewn addysg Gymraeg a chafodd eraill eu anfon i ysgolion eraill eithaf pell i ffwrdd, Coed-y-gof, Pencae ac eraill. Addawodd y Prif Swyddog Addysg, Chris Jones, i osgoi trychineb fel hyn yn y dyfodol a pherswadiodd y Cyngor i agor 4 dosbarth cychwynnol yn 2007, un ohonynt yn Grangetown sef Tan yr Eos mewn ystafelloedd tu few i Ysgol Ninian Parc. Tyfodd Tan yr Eos ar unwaith ac am y 6 mlynedd ir ysgol fod ar agor mae wedi derbyn rhwng 25 a 30 plentyn y flwyddyn ac yn awr bydd y plant hyn or diwedd yn symud i adeilad newydd Treganna fydd yn derbyn 90 plentyn bob blwyddyn. Erbyn 2010 roedd yn amlwg nad oedd y 120 lle ar gael rhwng Treganna, Pwll Coch a Thanyreos yn ddigonol i gwrdd galw yn y dalgylchoedd a na fyddai adeilad newydd ar gael I dderbyn Treganna-Tanyreos tan 2013. Aeth y sir i ymgynghori rhieni Pwll Coch ar y syniad o ymestyn Pwll Coch am 2/3 blynedd i dderbyn 3 yn lle 2 ffrwd hyd nes y byddai Treganna ar ei safle newydd ac y byddai agor trydedd ysgol un ffrwd ar safle newydd yn Grangetown yn bosibl. Rhoddwyd addewidion i rieni Pwll Coch taw estyniad dros dro fyddai hwn ac y byddai Pwll Coch yn mynd yn l i fod yn ysgol 2 ffrwd. Doedd y rhieni ddim yn hapus ond gyda llawer o rwgnach fe dderbynion nhw yr anhepgorol. Dim ond cabanau dros dro i dderbyn y dosbarthiadau ychwanegol trefnodd y sir heb newid maint y neuadd nar ffreutur sy wedi achosi gwasgfa annerbyniol. Ceisiodd y Sir gynnwys y drydedd ysgol yn Grangetown yn ei rhaglen am 21st Century Schools a fe gynhwysodd y Llywodraeth yr Ysgol newydd yn y rhan gyntaf or cynllun gan addo tua 6M iddi. O 2011 felly bu 150 lle ar gael ar gyfer addysg Gymraeg yn nalgylch Treganna=Pwll Coch a fe dderbyniwyd 136 plentyn. Erbyn 2012 derbyniwyd 147 ac eleni y rhif erbyn hyn yw 154 (gyda thebygrwydd yr aiff y rhif lan eto i dderbyn rhai or 10 plentyn nad oedd wedi cael lle erbyn dechrau Gorffennaf). Mae plant yn dod i ysgol Gymraeg llefydd gwag o gyfeiriadau pell iawn. Yn ystod y dyddiau diwethaf rwyf wedi clywed am blentyn o deulu bur enwog yn byw yn nalgylch Glanmorfa heb le yno sydd wedi derbyn lle ym Mhwll Coch. Er syndod I RhAG a heb rybudd Ir mudiad cyhoeddodd y Sir papur ymgynghorol yn anelu at ymestyn hyd yr amser y byddai trydedd ffrwd ym Mhwll Coch am gyfnod amhenodol ac yn dweud y byddai agor y drydedd ysgol yn cael ei osod yn l ymhellach Ir dyfodol yn sgil problem dod o hyd I safle addas. Ni soniwyd am estyniad nac i neuadd PC neu ir ffreutur serch ychwanegu rhagor o ddosbarthiadau. Bu ymateb y rhieni yn ffyrnig ar lafar a mewn 179 llythyr wrthwynebus. Dim ond 17 oedd dros y cynllun. Ysgrifennodd RhAG at y Cyng Julia Magill yn ceisio sicrwydd nad oedd bwriad tynnur ysgol newydd o gynllun 21st Century Schools ac ym mis Mai fe gafwyd gadarnhad fel y ceisiwyd. Nawr ychydig cyn diwedd tymor ar gyfer gwyliaur haf a pethefnos wedi cyhoeddi canlyniad yr ymgynghori arall ar 4 ysgol arall dyma gyhoeddi gofnod o dan teitl camarweiniol sef o fwriad i weithredu i gwrdd r galw am addysg Gymraeg yn hysbysu bwriad y sir i:- 1 Tynnu nl or cynllun i agor ysgol Gymraeg newydd yn Grangetown yn 2015 neu unrhyw bryd arall, i ddefnyddior safle a ffeindiwyd Ir ysgol Gymraeg ar gyfer agor ysgol newydd Saesneg ac i gywasgu trydedd ffrwd parhaol mewn ar safle Pwll Coch yn Lecwydd i ba le y gall plant Grangetown drafaelu yn lle mynychu ysgol leol fel sydd wedi digwydd ar safle Tanyreos ers 2007. 2 Mae hyn oll ar sail ystadegau hollol wallus yn tangyfrif yn nifer mewn addysg Gymraeg ar hyn o bryd a felly yn rhagdybio galw llawer yn llai yn y dyfodol. Mae hyn yn bwysig nid yn unig o leihau y rhifau Cymraeg ond hefyd o cwyddor rhifau Saesneg am fod modd gwybod y cyfanswm yn weddol sicr. Rwyf wedi cyfrif 14 gwall yn y ddogfen sirol 3 Dyw rhifaur sir ddim yn gyson yn eu hunain. Dywedir yn un fan y bydd prinder o 72 lle cyfrwng Saesneg yn yr holl ardal erbyn 2015, a phrinder 31 lle cyfrwng Cymraeg. Mewn man arall fe ddywedir y bydd prinder cyfrwng Saesneg erbyn 2015 yn Grangetown oni weithredir. Mae awgrym o weithredu fel hyn:- (i) Defnyddio adeilad Tanyreos i dderbyn 30 plentyn. (Iawn) (ii) Newid ffiniau dalgylchoedd i gyfeirio 15 o Grangetown i ysgolion Canton/Glanyrafon lle mae 60 lle gwag. (Iawn) (iii) (Nid ydynt yn dweud bod hyn yn gadael ond 12 plentyn heb le or cyfanswm o 57, a noder fod y rhifau cyfrwng Saesneg wediu chwyddo o 20) 4 Er tegwch Ir sir meant yn awry n derbyn y bydd angen codi adeiladau parhaol ar gyfer y trydedd ffrwd barhaol gyda neuadd fwy a ffreutur ac ati Maer cofnod yn ymdrech i gyfiawnhau amddifadu addysg Gymraeg o ysgol newydd leol ar gyfer Grangetown ac i arallgyfeirio 6M o arian llywodraeth Cymru sydd wediI glustnodi i addysg Gymraeg ers 3 blynedd. Rwyn ofni bod hwn yn deillio o eiddigedd bod addysg Gymraeg yn meddu ar 2 ysgol fodern mewn ardal lle mae addysg Saesneg mewn ysgolion o oes Fictoria i gyd. Nid oes cof bod addysg Gymraeg yn berffaith fodlon derbyn adeiladau Fictorianaidd ond wedi cael eu troi i ffwrdd gyda dirmyg. Mae gwrthwynebwyr addysg Gymraeg wedi hau a nawr yn anfodlon i fedi.Yn bersonol fe fyddwn yn fodlon derbyn meddiant o Ysgol Ninian Park ar gyfer addysg Gymraeg a chaniatau I blant addysg Saesneg gael yr adeilad newydd os bydd hynny yn dileu eiddigedd. Yn Ysgol Ninian Park dechreuodd addysg Gymraeg yng Nghaerdydd yn 1949 a fe fyddai addasrwydd I ddychwelyd In gwreiddiau, ond mae rhaid inni gael ysgol lleol I gwrdd r galw a nid ffrwd arall yn Lecwydd. Michael L N Jones
...
Galw ar Aelodau Cabinet Caerdydd i wneud yr hyn syn iawn
MEWN llythyr anfonwyd heddiw at holl aelodau Cabinet Cyngor Caerdydd, mae RhAG wedi erfyn arnynt i ddiogelu lles a buddiannau addysg Gymraeg yn y brifddinas trwy anrhydeddur addewid i adeiladu Ysgol Gynradd Gymraeg Newydd yn Grangetown. Bydd pleidlais ar bapur fydd yn mynd gerbron y Cabinet yfory (Dydd Llun, Gorffennaf 22ain) syn cynnig tynnu nl yn gyfangwbl or cynllun gwreiddiol i agor ysgol Gymraeg newydd yn Grangetown yn 2015, i ddefnyddior safle a adnabyddwyd ar gyfer yr ysgol Gymraeg er mwyn agor ysgol newydd Saesneg ac i gywasgu trydedd ffrwd barhaol ar safle Ysgol Pwll Coch yn Lecwydd Dyma adwaith ddiweddaraf y cyngor wrth iddynt geisio ymateb ir galw cynyddol am leoedd cynradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Mae RhAG or farn y byddai gwasgu mwy o blant ar safle Ysgol Pwll Coch yn gwbl annheg ar y disgyblion ac yn gam gwag o safbwynt cynllunio Addysg Gymraeg yn yr ardal. Maer mudiad hefyd yn dadlau fod sicrhau ysgol Gymraeg newydd i Grangetown yn hollbwysig o safbwynt cynnig cyfloedd teg i rieni sydd am ddewis Addysg Gymraeg o fewn pellter rhesymol iw cartrefi ac yn pwyso ar y Cyngor i beidio cefnu ar y weledigaeth sylfaenol o ddarparu ysgolion lleol i blant lleol mewn perthynas ag Addysg Gymraeg Maer mudiad yn galw ar y Cabinet i wrthod y cynnig sydd gerbron ac i flaenoriaethu lles a buddiannau plant yr ardal uwchben popeth arall. Daw hyn cyn i rieni a chefnogwyr baratoi i brotestio o flaen Neuadd y Sir brynhawn yfory i leisio cryfder eu gwrthwynebiad. diwedd Nodiadau Am fwy o wybodaeth, cysylltwch Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.net Dymar llythyr yn llawn: Annwyl Gynghorydd Ysgrifennaf atoch fel aelod o Gabinet Cyngor Caerdydd cyn ichi ymgynnull yfory i drafod mater sydd o bwys eithriadol. Ar ran aelodau pwyllgor RhAG Caerdydd erfyniwn arnoch i ddiogelu lles a buddiannau addysg Gymraeg yn ein prifddinas ac i anrhydeddur addewid i adeiladu Ysgol Gynradd Gymraeg Newydd yn Grangetown. Rydym or farn nad ywr cynnig i helaethu Ysgol Pwll Coch a sefydlu trydedd ffrwd barhaol yno yn ddatrysiad derbyniol ir galw cynyddol am leoedd cynradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.Mae gwrthwynebiad y rhieni ir cynnig hwnnwn glir. Amlygwyd hyn yn ystod ymgynghoriad mis Ebrill, lle bur ymateb yn ffyrnig ar lafar ac mewn 179 o lythyron gwrthwynebus gyda 17 yn unig o blaid y cynllun. Byddai gwasgu mwy o blant ar safle Ysgol Pwll Coch yn gwbl annheg ar y disgyblion ac yn gam gwag o safbwynt cynllunio Addysg Gymraeg yn yr ardal. Ym mis Ebrill ysgrifennodd RhAG at y Cyng. Julia Magill yn ceisio sicrwydd nad oedd bwriad i dynnu Ysgol Gymraeg Newydd Grangetown o gynllun Ysgolion 21G y Cyngor. Y mis Mai cafwyd cadarnhad ganddi fod yr ysgol newydd yn parhau i fod yn rhan o gynlluniaur Cyngor. Byddwch hefyd yn ymwybodol fod cyfeiriad at Ysgol Gymraeg Newydd Grangetown yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor, cynllun sydd eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth y Llywodraeth ac fydd ar sail statudol o 2104 ymlaen. Felly maer cynnig fydd ger eich bron yfory yn dro pedol llwyr ar yr ymrwymiad cyhoeddus a gafwyd cyn hyn: cynllun fel y gwyddoch sydd eisoes wedi derbyn sel bendith Llywodraeth Cymru a chyllid cyfalaf wedii glustnodi ers 2011. Dengys patrymau twf diweddar yn y galw am Addysg Gymraeg yn yr ardal, fod angen dybryd am fwy o leoedd. Gwyddom bydd y ddwy ysgol sy'n gwasanaethu ardaloedd Treganna a Grangetown yn orlawn erbyn 2015. Mae cyfanswm y plant sydd wedi gwneud cais am le yn y ddwy ysgol ar gyfer Medi 2013 yn 154, sef dros 5 ffrwd ac yn gynnydd o 7 uwchben cyfanswm y llynedd, nid y cwymp i 136 disgybl, sef yr hyn roedd y Cyngor yn ei ddarogan yn ystod ymgynghoriad mis Ebrill. Maer twf blynyddol yn yr ardal yn gyson oddeutu 10% syn uwch na chyfartaledd y twf ar draws Caerdydd. Maer ddogfen bresennol fellyn dyfynnu hen ffigyrau syn tangyfrif y nifer mewn addysg Gymraeg ar hyn o bryd ac yn rhagdybio galw llawer llai yn y dyfodol. Ni ellir ystyried fod y ddogfen hon yn cynnig sail gadarn a dibynadwy i benderfyniadau mor dyngedfennol. Mae sicrhau Ysgol Gymraeg Newydd i Grangetown yn hollbwysig o safbwynt cynnig cyfloedd teg i rieni sydd am ddewis Addysg Gymraeg o fewn pellter rhesymol iw cartrefi. Pwyswn arnoch i beidio cefnu ar weledigaeth sylfaenol y Cyngor o ddarparu ysgolion lleol i blant lleol ar gyfer teuluoedd syn dymuno dewis Addysg Gymraeg a gofynnwn ichi sicrhau cydraddoldeb i blant Grangetown a rhoir hawl iddynt fynychu ysgol leol fel sydd wedi digwydd ers sefydlu Ysgol Tan-yr-eos ers 2007. Mae polisi cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn gosod nod o gael 30% o blant 7 oed yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2020. Ar hyn o bryd mae ychydig dan 20% o blant Caerdydd yn derbyn addysg Gymraeg. Felly nod y Llywodraeth yw cynnydd o 50% o blant ysgol yn dechrau yn y sector cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd erbyn 2018. Ni fydd modd dod yn agos at wireddu hyn heb gadw at yr addewidion am drydedd ysgol yn ardal Treganna a Grangetown. Mae sicrhaur ysgol hon fel rhan o flaengynllunio strategol y Cyngor yn allweddol. Am y rhesymau uchod felly galwn arnoch i wrthod y cynnig fydd dan eich ystyriaeth yfory ac i wneud yr hyn syn blaenoriaethu lles a buddiannau plant yr ardal uwchben popeth arall. Galwn arnoch i beidio ag arallgyfeirio 6M o arian Llywodraeth Cymru sydd wedii glustnodi i addysg Gymraeg ers 3 blynedd. Galwn arnoch i anrhydeddur cynllun gwreiddiol ac i adeiladu ysgol Gynradd Gymraeg Newydd yn Grangetown. Yn gywir Ceri Owen Ar ran Pwyllgor RhAG Caerdydd
...
Cyngor Caerdydd: torri addewid am Ysgol Gymraeg newydd
MAE RhAG wedi beirniadun hallt fwriad Cyngor Caerdydd i beidio anrhydeddu addewid i adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn ardal Trelluest or ddinas ac i ddefnyddior safle hwnnw ar gyfer adeiladu ysgol cyfrwng Saesneg. Daw hyn fel tro u-bedol llwyr ar gynlluniau gwreiddiol y cyngor syn ffurfio rhan ou Rhaglen Ysgolion 21G; cynllun sydd eisoes wedi derbyn sel bendith Llywodraeth Cymru gyda chyllid cyfalaf wedii glustnodi ers Rhagfyr 2011. Mewn papur fydd yn mynd gerbron y Cabinet ddydd Llun nesaf (Gorffennaf 22ain) ceir yn hytrach gynnig i helaethur ddarpariaeth bresennol - Ysgol Pwll Coch yn Lecwydd - trwy sefydlu trydedd ffrwd barhaol yno fel datrysiad ir galw cynyddol am leoedd cynradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Dywedodd Michael Jones ar ran RhAG Caerdydd, Mae hwn yn gyhoeddiad cwbl syfrdanol ac yn codi cwestiynau sylfaenol am ymrwymiad Cyngor Caerdydd i Addysg Gymraeg. Bu RhAG yn feirniadol or Cyngor nl ym mis Ebrill pan awgrymwyd na fyddair ysgol newydd yn agor yn unol r amserlen wreiddiol, sef 2015, ar cynnig gafwyd i sefydlu trydedd ffrwd dros dro ym Mhwll Coch tan o leiaf 2016. Maen gwbl annealladwy fod y Cyngor nawr nid yn unig am droi cefn ar y cynllun gwreiddiol ond yn bwriadu defnyddior safle ar gyfer adeiladu ysgol cyfrwng Saesneg newydd. Dengys patrymau twf diweddar yn y galw am Addysg Gymraeg yn yr ardal, fod angen dybryd am fwy o leoedd. Gwyddom bydd y ddwy ysgol sy'n gwasanaethu ardaloedd Treganna a Threlluest yn orlawn erbyn 2015. Mae cyfanswm y plant sydd wedi gwneud cais am le yn y ddwy ysgol ar gyfer Medi 2013 yn 154, sef dros 5 ffrwd ac yn gynnydd o 7 uwchben cyfanswm y llynedd, nid y cwymp i 136 disgybl, sef yr hyn roedd y sir yn ddarogan. Maer twf blynyddol yn gyson oddeutu 10%. Er hynny, maer cyngor yn parhau i lynu at yr hen ffigyrau nad ydynt yn adlewyrchu gwir dwf y dyfodol a rhain yn frith trwyr ddogfen. Cymharer hynny gyda sefyllfar sector cyfrwng Saesneg ble mae lleoedd ar gael mae un ysgol o fewn yr ardal gyda 75% o leoedd gwag. Cofier hefyd y bydd y sector cyfrwng Saesneg yn ennill dwy ysgol yn l Fedi nesaf wrth agor adeilad newydd Ysgol Gymraeg Treganna, sef Ninian Park ac Ysgol Iau Radnor. Mae rhesymeg y sir yn gwbl ddi-sail felly ar rhagdybiaeth yn parhau mai addysg cyfrwng Saesneg y bydd rhienin ei ddewis. Y gwir amdani yw mai adroddiad i gynyddu lleoedd addysg cyfrwng Saesneg yw hwn a hynny ar draul addysg Gymraeg yn yr ardal. Ychwanegodd Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG, Maer sir wedi cadarnhaun gyhoeddus ar sawl achlysur iddynt dderbyn caniatd y Gweinidog i agor ysgol newydd ar gyfer Grangetown er mwyn derbyn y twf yn y galw a ddisgwylwyd yn yr ardal. Caiff eu bwriad ei gynnwys hefyd yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y sir, sydd eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth y Llywodraeth ac a fydd o fis Ionawr nesaf ymlaen ar sail statudol. Ategwyd hynny ymhellach mewn llythyr anfonwyd at RhAG ar Ebrill 9fed gan y Cyng. Julia Magill, Deilydd Portffolio Addysg Caerdydd, pan ddywedodd fod yr ysgol newydd yn parhau i fod yn rhan o gynlluniaur Cyngor. Gwelwn yn awr mai geiriau gwag oedd rhain. Maen gwbl amlwg bellach mai polisir Cyngor o safbwynt Addysg Gymraeg yw canolir ddarpariaeth au bod yn cefnu ar y weledigaeth o ddarparu ysgolion lleol i blant lleol ar gyfer teuluoedd syn dymuno dewis Addysg Gymraeg. Mynnwn wybod hefyd sut maer cynnig hwn yn cydfynd ag amcanion a thargedau cenedlaethol y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg? Mae polisir Llywodraeth yn gosod nod o gael 30% o blant 7 oed yn derbyn eu haddysg trrwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2020. Ar hyn o bryd mae ychydig dan 20% o blant Caerdydd yn derbyn addysg Gymraeg. Felly nod y Llywodraeth yw cynnydd o 50% o blant ysgol yn dechrau yn y sector cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd erbyn 2018. Ni fydd Caerdydd yn dod yn agos at wireddu hyn heb gadw at eu addewidion am 3edd ysgol yn ardal Treganna a Threlluest. Galwn felly ar Julia Magill i egluro pam ei bod wedi bradychu Addysg Gymraeg yn yr ardal hon ac ar y Cabinet i wyrdroir penderfyniad cywilyddus hwn ar unwaith. diwedd
...
Sefyllfa addysg Gymraeg yn y De Ddwyrain
Mae Michael Jones, Cyd-lynydd RhAG yn y De Ddwyrain, yn pwyso a mesur sefyllfa addysg Gymraeg yr ardal ar flog Golwg360: www.golwg360.com/blog/cyfranwyr-gwadd
...
Pryder RhAG: Torfaen yn trosglwyddo cyfrifoldeb dros wasanaeth addysg
Mae RhAG wedi mynegi gofid ynglyn phenderfyniad Cyngor Bwrdeistref Torfaen ddoe i drosglwyddo dyletswyddau cynllunio, darparu a chefnogi addysg yn y sir i Wasanaeth Cyflawniad Addysg De Ddwyrain Cymru. Dawr ymateb hwn yn sgil adroddiad beirniadol ESTYN nl ym mis Chwefror. Cyflwynwyd y cynigion gerbron y Cyngor llawn ddoe gydag argymhelliad pellach y dylid diddymu swydd Prif Swyddog Addysg y sir. Meddai Elin Maher, Cadeirydd RhAG Casnewydd, Mae pryderon RhAG yn niferus gan ymwneud yn bennaf r modd datgelwyd y newyddion hyn yn ogystal ag effeithiau tymor byr, canolig a hirdymor y newidiadau ar addysg Gymraeg yn yr ardal. Fel yr awdurdod ble lleolir yr unig ysgol uwchradd Gymraeg syn gwasanaethur rhanbarth, mae cyfrifoldeb ar Dorfaen i ystyried hynny wrth gyflwyno newidiadau mor sylfaenol. Tran cydnabod mai mater i Dorfaen yw tynged eu gwasanaeth addysg, mae ystyriaethau traws-sirol yn perthyn ir sector Cymraeg, a thrwy hynny, mae unrhyw newid yn Nhorfaen yn rhwym o effeithio ar ddisgyblion syn byw yn yr awdurdodau cyfagos. Dymunwn wybod sut yn union bydd yn effeithio ar ansawdd addysg plant a phobl ifanc Torfaen ar siroedd cyfagos, pa systemau monitro sydd yn eu lle a beth fydd yr effeithiau ar gynllunio hir-dymor darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol? Teimlwn hefyd fod hyn oll wedi amlygu methiannnau cyfathrebu sylfaenol gyda rhanddeiliaid allweddol, sef rhieni lleol ac yn bwysicach fyth gydar disgyblion gaiff eu heffeithion uniongyrchol. Pa ystyriaeth sydd wedii roi i anghenion a buddiannau plant a phobl ifanc wrth yrrur penderfyniad hwn yn ei flaen? Mae paradocs annerbyniol yn codi mewn sefyllfa ble gofynnir i rieni di-Gymraeg ymddiried eu plant i sector syn gwbl estron iddynt o ran iaith, ac na ddangosir yr un parch a chwrteisi ir rhieni hynny pan fo newidiadau fel hyn yn yr arfaeth. Dylai fod yn broses ddwy ffordd, dryloyw ble mae rhieni yn derbyn gwybodaeth eglur er mwyn deall beth yn union fydd goblygiadau newidadau or fath ar addysg eu plant. Bu pawb yn y tywyllwch ers cyhoeddi adroddiad beirniadol ESTYN, a pharhau mewn gwirionedd maer ansicrwydd yn sgil y cyhoeddiad hwn, gan nad oes unrhyw fanylion wedii ddatgelu ynglyn glo man y cynnig. At hynny, pryderwn bydd ansicrwydd pellach yn cael effaith negyddol ar ddewisiadau rhieni a thwf addysg Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf. Mae profiad y gorffennol wedi dangos fod y sector cyfrwng Cymraeg yn fregus ac yn agored i gael ei niweidio os nad ywr amodau cywir yn eu lle. Gyda Llywodraeth Cymru yn disgwyl i awdurdodau weithredu eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg mewn modd cydlynus a chydgysylltiedig, maer darnio pellach hwn yn nhirlun addysgol y de ddwyrain yn codi cwestiynau mawr ynglyn blaenoriaethau, deilliannau ac atebolrwydd o safbwynt addysg yn gyffredinol, ac yn benodol o safbwynt blaen gynllunio addysg Gymraeg. Galwn felly ar Wasanaeth Cyflawniad Addysg y De Ddwyrain i gyd-weithio gydar holl randdeiliaid perthnasol gan gynnwys awdurdodau cyfagos, ysgolion, rhieni a disgyblion i gyfathrebu a diogelu buddiannau a dyheadau plant a rhieni dros y misoedd ar blynyddoedd nesaf. diwedd
...
Methiannau Addysgol Torfaen yn parhau
Mae rhiant o Dorfaen wedi tynnu sylw at ei phryderon yn Siambr Cyngor Torfaen yr wythnos hon wedi i ddeiseb gyflwynwyd yn profi fod y galw am Leoedd Ysgol Cynradd Cyfrwng Cymraeg yng Nghwmbrn yn uwch nar ddarpariaeth gael ei anwybyddu. Unwaith eto eleni mae Ysgol Gymraeg Cwmbrn wedi derbyn mwy o geisiadau na nifer y lleoedd gyda rhieni yn cael gwrthod mynediad iw plant, rhai gyda brodyr a chwiorydd eisoes yn mynychu, a hyn serch fod Cyngor Torfaen yn ymwybodol or sefyllfa ers cryn amser. Dywedodd Glyn Davies, Cadeirydd Grŵp Rhieni dros Addysg Gymraeg Torfaen, Mae Cyngor Torfaen yn ceisio anwybyddur sefyllfa ac yn gobeithio y bydd rhieni yn ildio ac yn rhoi fyny. Gallaf eu sicrhau na fydd hynnyn digwydd. Maer galw am addysg Gymraeg o fewn cymuned leol y plentyn yn cynyddu, mae gan bob rhiant hawl i ddewis cyfrwng iaith addysg eu plant ac mae dyletswydd statudol ar yr awdurdod lleol i ddiwallur dewis hwnnw, boed hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neur Saesneg. Dylai Cyngor Torfaen agor ysgol newydd yng Nghwmbrn, maer ateb mor syml hynny. Dywedodd Mrs Moore o St Dials, sydd phlant mewn darpariaeth feithrin cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd ac a fydd yn chwilio am le ym mis Medi 2014, Deuthum yma heddiw fel y byddai unrhyw riant wedii wneud, i ofyn yn blwmp ac yn blaen beth mae Cyngor Torfaen yn bwriadu ei wneud er mwyn sicrhau fod fy mhlentyn i yn cael ei addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn fy nghymuned leol, ac maer ymateb a gefais yn dangos fod y Cyngor yn gwadu eu cyfrifoldeb yn llwyr. Bwriadaf fynd ar mater i sylw Aelodaur Cynulliad ac yn uniongyrchol at y Gweinidog Addysg, Huw Lewis. Maer ymgyrch yn debygol o ddwyshau. diwedd
...
Ymddiswyddiad Gweinidog: Beth nesaf i Addysg Gymraeg?
Yn dilyn ymddiswyddiad disymwth y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews mae RhAG yn galw ar ei olynydd i sicrhau fod Addysg Gymraeg yn parhaun flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae RhAG yn pwyso am gysondeb o ran polisi tuag at Addysg Gymraeg ac fod angen ir Gweinidog newydd gadarnhau ymroddiad i hynny or cychwyn cyntaf. Dywedodd Lynne Davies, Cadeirydd RhAG, Hoffwn ddiolch i Leighton Andrews am ei ymrwymiad i Addysg Gymraeg yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog Addysg ac am wireddu addewid Cytundeb Cymrun Un trwy gyflwynor Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg cyntaf yn hanes Cymru. Ar drothwy cynfod tyngedfennol lle rydym yn aros i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yr ALl droi o fod yn gynlluniau gwirfoddol i fod yn offerynnau statudol, maen hanfodol fod y Gweinidog newydd fydd yn cymryd yr awenau yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedii gyflawni gan sicrhau dilyniant di-dor o ran agwedd a meddylfryd. Mae gwaith mawr eto iw wneud o ran cyflawni targedaur Strategaeth ac maen allweddol fod yr olynydd yn sefydlu gweledigaeth gadarn a chefnogol fydd yn sail gref i gyrraedd hynny. Edrychwn ymlaen i gydweithio gydar unigolyn hwnnw maes o law. diwedd
...
Ysgol Carno - buddugoliaeth i rym rhieni
Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi croesawu'r argymhelliad a fydd yn sicrhau dyfodol Ysgol Carno trwy ffederaleiddio. Mewn adroddiad a aiff gerbron Cabinet Cyngor Powys ar Fai 14, mae'r Cyngohorydd Myfanwy Alexander, sydd yn gyfrifol am addysg, yn argymhell ffederaleiddio ysgolion Carno, Llanbrynamir a Glantwymyn. Dyma yw'r ddewis orau ganddynt yn hytrach na'r un wreiddiol i gau'r ysgol. Meddai Ceri Owen, Swyddog Datblygu Cenedlaethol, "Mae'r Cyng. M. Alexander wedi gwrando ar lais y gymuned leol ac wedi cydnabod y byddai cau Ysgol Carno wedi bod yn drychineb o ran hygyrchedd ac argaeledd addysg gyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Mae'r argymhelliad newydd yn adlewyrchu hyn, ac yn cydnabod cryfder y gwrthwynebiad at y bygythiad gwreiddiol i gau'r ysgol. Mae gan Gyngor Powys gryn dipyn o waith i'w wneud o ran cynllunio strategol er mwyn cynyddu'r cyfleoedd i gael mynediad i addysg gyrfwng Cymraeg. Mae hyn yn gam i'r cyfeiriad iawn, ac gobeithiwn Ceri Owen, RhAG National Development Officer said, "Councillor M. Alexander has listened to the local community and has acknowledged that the closure of Ysgol Carno would not only have been a disaster in terms of accessibility and availability of Welsh-medium provision for the future of the Welsh language in the area. This new recommendation reflects this, and recognises the strength of feeling against the original threat to close the school. Powys Council has some major work to do in terms of strategic planning to increase opportunities to access Welsh-medium education. This is a step in the right direction and we hope it marks a more proactive and positive period in relation to planning to meet the growing demand for Welsh-medium education within the county. " end Notes Papers for Powys Council Cabinet Executive meeting 14 May 2013: http://www.powys.gov.uk/ag_2013-05-14c1_cy.pdf?id=47&L=1 http://www.powys.gov.uk/rep_2013-05-14c1_125a_en.pdf?id=47 For further information please contact Ceri Owen, RhAG Development Officer on 07912175403 or ceri@rhag.net
...
RhAG yn galw am droi ewyllys da yn weithredu
Mae RhAG yn galw ar y Llywodraeth i droi ewyllys da at addysg Gymraeg yn weithredu pendant. Bydd mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg yn galw am hyn mewn tystiolaeth gerbron arbenigwyr ieithyddol fydd yn ymweld Chymru ddydd Llun 29 Ebrill. Bwriad yr ymweliad gan aelodau o Bwyllgor Arbenigwyr ar ran Siartr Ewrop ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol yw casglu tystiolaeth gan rychwant eang o NGOs sy'n ymwneud 'r gwaith o hyrwyddo a diogelu'r iaith Gymraeg. Fel rhan o'u tystiolaeth bydd RhAG yn datgan fod bwlch yn parhau rhwng dyheadau'r Llywodraeth mewn perthynas ag addysg Gymraeg a'r cynnydd angenrheidiol i gyrraedd targedau'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed y bydd 25% o blant 7 oed yng Nghymru yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2015 a hwnnw'n cynnyddu i 30% erbyn 2020. Meddai Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG, "Bydd llawer o'n tystiolaeth yn adleisio'r un materion a godwyd gennym wrth ymddangos gerbron y pwyllgor nl yn 2009. Mae RhAG yn pwyso am yr angen i weithredu ar sail mesur y galw a'r angen am gyfarwyddiadau clir iw gwneud yn haws i Awdurdodau Lleol sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Er fod cynnydd wedi'i wneud mewn perthynas mesur y galw am addysg Gymraeg, nid oes cyfarwyddiadau eglur wedi'i darparu i ALl ar sut i fynd ati i gynyddu'r ddarpariaeth. Mae rhai siroedd wedi bod yn rhagweithiol ond eraill yn parhau i lusgo traed. Gan nad yw gweithredu ar ganfyddiadau arolygon mesur galw yn statudol mae'r cynnydd o ran ehangu'r sector cyfrwng Cymraeg wedi bod yn llawer rhy araf. "Ar hyn o bryd mae'r Strategaeth yn methu o safbwynt hwyluso darparu ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd. Dylai Llywodraeth Cymru osod targedau penodol i ALl er mwyn ehangu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn ein cyhoeddiad Twf Addysg Gymraeg yng Nghymru 2012 - 2020 mae RhAG yn dadlau fod angen 67 dosbarth ychwanegol er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth ble bydd 30% o blant Cymru yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2020. Prin iawn yw'r gobaith o gyrraedd y nod os na fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi cyfarwyddiadau clir er mwyn sicrhau fod ALl yn gweithredu." diwedd Nodiadau 1. Llyfryn Twf Addysg Gymraeg yng Nghymru 2012 - 2020, Michael Jones, 2012. http://www.rhag.net/dogfennau/twfc.pdf 2. Adroddiad diwethaf Pwyllgor Arbenigwyr Siartr Ewrop ar Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol http://www.coe.int/t/dg4/education/minlang/Report/default_en.asp http://www.coe.int/t/dg4/education/minlang/Report/Recommendations/UKCMRec3_en.pdf Am ragor o wybodaeth cysylltwch Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.net
...
Tro u bedol ar gynllunio addysg Gymraeg yn y brifddinas
The national organisation Parents for Welsh medium Education (RhAG) has criticised Cardiff Council for a u-turn on their proposals to make permanent the enlargement of Ysgol Gymraeg Pwll Coch to admit up to 90 pupils into the Reception Year from September 2014. This according to RhAG is in complete contrast to the promise given back in 2011 when a consultation was held to expand provision as a temporary measure only. RhAG doesn't fundamentally disagree with the Council's intention to keep Ysgol Pwll Coch as a three form entry as a temporary 'bridging' measure, but that it should form part of a wider plan to establish a brand new school in Grangetown by 2015. It is very concerning that the Council now appears to be reneging on that promise, in line with the original timetable included in Cardiff Council's 21st Century Schools Plan with projects in the first envelope already ratified and funding assured by Welsh Government. The retention of a permanent third stream at Pwll Coch would inevitably put pressure on resources / space which is bound to affect the school's ability to maintain current high educational standards.This is a completely unacceptable situation for pupils, staff and parents. Said Michael Jones, RhAG South east Wales Coordinator, "The logic and statistics provided by the Council to support the plan is flawed, inconsistent or simply unfounded. According to Council figures, the number of new children in the area are expected to fall next September, which would be for the first time in 10 years, and yet it is claimed that provision needs to be increased from the current 5 streams to 6 streams (150 to 180 children) despite 5 streams being sufficient to accomodate the 136 children the council expected this year. In 2006, Treganna and Pwll Coch schools admitted 90 children when a total of 102 children applied for places. In response to this a starter class was opened at Ninian Park School in 2007, now called Ysgol Tan-yr-eos, which has now grown to a full school and will form the second stream at Ysgol Treganna from September 2013. In 2012 Treganna and Pwll Coch admitted a total of 147 children, an increase of 57 children in 6 years, which is higher than the average for the whole of Cardiff between 2000 and 2011, equating to 6.22%. It must be remembered that Treganna and Pwll Coch have also received the overflow from Ysgol Nant Caerau of 10 pupils per year for the past 2 years. In fact the number already admitted to Treganna and Pwll Coch this year has already reached 154;there are children who have failed to obtain admission to Nant Caerau yet again and these children taken with the usual late applicants will in all probability ensure that the total admissions exceed 160 and reach the usual 10% increase in this area. "It is fairly certain that both schools serving the Canton and Grangetown areas will be oversubscribed by 2015. The Council has confirmed that they've received permission from the Minister to open the new school in Grangetown to cater for the expected growth in demand in the area. However, it is claimed that it has not been possible to find a suitable site and consequently it will not be possible to open the school before 2016. The Council has also expressed uncertainty about the viability of the new school in terms of the demand for WM provision in the area. This is a completely unbelievable statement as RhAG has expressed its concern for more than a year that a one form entry would be insufficient by 2019/20 and pushing for the school to be built on a site which could accomodate a second form entry by 2017/18. It is therefore critical that the new school remains as part of Cardiff's 21st Century Schools programme in line with the original timetable and as Cllr. Julia Magill, Exectuive Member for Education has again promised in a recent letter to RhAG. Said Ceri Owen, RhAG National Development Officer, "If the plan to establish a 3rd stream at Pwll Coch is implemented this will mean that there will be three schools of this size in the Welsh-medium sector in Cardiff. In a response to a written question submitted to the Executive Member for Education, it was denied that that this is a move towards a policy of centralizing provision treating the WM sector in an unequal and disproportionate way compared to the EM sector. RhAG is concerned that Cardiff Council is moving away from its commitment to the vision of 'local schools for local children' with regard to the WM sector. "We must ask how Cardiff Council's proposals to plan WM education across the city can claim to be in line with the national objectives and targets of the Welsh Medium Education Strategy. Welsh Government policy has set a target that 30% of 7 year olds in Wales will be assessed through the medium of Welsh by 2020. Currently fewer than 20% do so in Cardiff. The Government's aim is for Cardiff to see an increase of 50% of school children who begin in the WM sector by 2018. Cardiff won't come close to achieving that without expanding provision in Splott and honouring its promise to establish a 3rd school for the Canton and Grangetown areas. RhAG therefore urges the Labour led Council in Cardiff to change its attitude which at present is completely opposite to the nationalpolicy set by fellow party members within Welsh Government."
...
Llywodraeth Cymru yn gwastraffu 31m ar addysg y tu allan i'r wlad
Mewn erthygl ar wefan Sefydliad Materion Cymreig (IWA), mae Heini Gruffudd yn dadlau y dylen ni roi'r gorau i noddi'r sawl sydd yn dewis astudio y tu allan i Gymru: www.clickonwales.org/2013/03/welsh-governments-31m-brain-drain-subsidy/
...
RhAG yn beirniadu Cyngor Powys am danseilio addysg Gymraeg
The national organisation Parents for Welsh Medium Education (RhAG) has criticised Powys Council for using wholly incorrect and inaccurate information in its consultation on proposals to close Ysgol Carno. This would ultimately would be open for challenge by judicial review. The organisation will write to the Council on behalf of parents campaigning against closure urging them to rethink their plans and start afresh. The proposals, which the Council have agreed to take forward are based on January 2012 data and do not reflect the recent 84% growth in pupil numbers and the consequent decrease in surplus places and cost per head of education. Under the proposals the 44 pupils currently on roll would be dispersed to neighbouring schools. The only one which can offer a comparable WM education, Ysgol Llanbrynmair located 7 miles away, is physically unable to accept all the children. The other options are a dual stream provision and English medium provision. RhAG considers that the proposals to close one of the top three schools in the Machynlleth/Llanidloes catchment areas based on Estyn Inspection reports will be damaging to the existing provision and willl preven the growth of Welsh medium education in the north of the county. It will also undermine the requirements of the Welsh Government's Welsh Medium Education Strategy which, once legislation expected to be passed in April, [1] will place a statutory duty on all Local Authorities to grow and increase WM provision with a specific emphasis on 'increasing access for early years and primary provision within a child's community'[2]. Said Mr Michael Jones, RhAG's Legal Advisor, "It is unjustifiable that a report based on information which is completely out of date has been submitted and the recommendations adopted based upon such information. There are a number of significant and fundamental issues which need to be addressed, since the fact that due process appears not to have been followed in the conclusion to close Ysgol Carno. The APB and Dyfi Valley Workstreams' explicit recommendation was federation rather than closure, but it seems that local democratic processes have been disregarded." Said Mr Jones, "The Cabinet Member with responsibility for the Education Portfolio is also contradicting herself when she refers to the Condition of Ysgol Carno's buildings.The Cabinet report states that Ysgol Carno received the worst condition grade, which is untrue, as Welsh Government itself graded this a B (Satisfactory) which is the same grade given to other schools in the area. It is also neither useful or constructive when the Cabinet Member is publicly quoted as labelling Ysgol Carno's condition as 'disgraceful' without ever having visited the school, fuelling concern and worry in an already emotionally charged situation." He went on to say, "These proposals also don't fully consider the consequence closure would have on the public purse. The Council's own figures state that the transport bill would be approx 57,000 but only if transport were limited to one location. The reality is that closure could lead to parents opting for alternative provision which could drastically snowball the transport bill." Ceri Owen, RhAG National Development Officer added, " The key consideration should be that the alternative offered to parents should be of equal or better standard. This will certainly not be the case here, as these proposals will adversely affect parental choice and equality of opportunity. Parents who send their children to Ysgol Carno have made a conscious decision to choose WM education for their children, and if the school was closed, the stark reality is that this could no longer be an option for everyone. What is also concerning is that no impact assessment has been carried out in terms of the effect this closure would have on the Welsh Language or on the wider community.There is no question that if implemented, this policy would jeopardise the development of Welsh-medium provision in this area, and stifle the recent and projected future growth." Said Ms Owen, "Does Powys Council consider it appropriate to safeguard the Welsh language in one community at the expense of other surrounding communities? This flies in the face of national legislation and policy relating to the Welsh Language. RhAG calls upon the Cabinet Member with responsibility for education in Powys to answer this and to qualify how these proposals are considered to be in alignment with Welsh Government's vision of furthering the growth of Welsh-medium education and responding in a planned way to demand." end Notes For further information please contact Ceri Owen, RhAG Development Officer on 07912175403 or ceri@rhag.net [1] School Standards and Organisation (Wales) Bill http://wales.gov.uk/legislation/programme/assemblybills/schoolstandards/?lang=en [2] Welsh-medium Education Strategy, Welsh Assembly Government, Information document no: 083/2010, p.13 http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/guidance/welshmededstrat/?lang=en
...
Local parents present petition calling for more Welsh-medium provision
Local Torfaen parents and members of RhAG Torfaen (Parents for Welsh medium Education) group will present a petition to Councillors at Torfaen's next full Council meeting (Tuesday 11th December) calling for additional Welsh-medium primary provision to be established within the Authority. At a recent event organised by Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy (Welsh language Initiative) for parents whose children will be attending reception classes in September 2013 (and with children not currently attending WM provision), more than 40 parents from the Cwmbrn catchment area and more than 20 from the Panteg catchment area signed a petition calling on Torfaen Council to provide their child with a place at a Welsh-medium school within their catchment areas. The last few years have seen a substantial expansion in the number of Welsh-medium nursery and early years provision (maintained and non-maintained) which has had a tremendous impact on numbers. All schools are close to or at over capacity including Ysgol Panteg, the Authority's third WM primary opened in 2010, which is expected to be oversubscribed by September 2013. Ysgol Panteg was turned into a two-form entry school last September, to catch the overflow from the Authority's other two WM schools, and is expected to reach current capacity of 150 pupils much earlier than anticipated. The situation came to a head at the beginning of this year, with a number of parents refused first choice reception place for their children at Welsh-medium schools in Torfaen for this current academic year; a number of them with siblings already attending those schools. Said Glyn Davies, RhAG Torfaen chair, "It is unavoidable that further schools must be opened to meet demand. Findings from the last survey to measure demand carried out by Torfaen Council confirmed that 39% of parents would like their children to receive their education through the medium of Welsh.This is reinforced by recent trends and future projections . Action must now be taken to accommodate this growth in line with the emphasis within the Welsh-medium Education Strategy for planning proactively to meet future growth in demand.[1] " "As part of the Authoritys 21st century Schools programme, proposals have been outlined for the opening of a brand new-build on the AVESTA site. However it is becoming apparent that this funding won't transpire until the tail end of the programme's first phase. RhAG is also concerned that the proposal doesn't offer a solution which takes into account the needs of families across the whole of the Authority. We feel that it must be one element of a wider strategic plan to develop Welsh-medium education across the Authority - not the only one. Parents are naturally concerned that the future planning of Welsh-medium provision in Torfaen is currently being pinned on a school, which as of yet does not exist, and where all three Welsh-medium schools will be oversubscribed within the next year." Mr Davies went on to say, "RhAG calls on the Authority to adopt a strategy where Welsh-medium schools serve local communities and are situated within a reasonable reach of every family. In the majority of cases children wishing to access English-medium education can do so within their communities and can expect to seamlessly progress from nursery to primary education within the same provision. RhAG seeks equal parity for Welsh-medium provision, and that parents are given a fair choice as they decide on which language medium to educate their children. Currently parents choosing Welsh-medium education for their children are being placed at an unfair disadvantage." end Notes [1] Welsh Assembly Government, Welsh-medium Education Strategy, Document No: 083/2010, April 2010, p.13
...
RhAG yn dathlu ond y gwaith heb ei orffen!
Ar y 3ydd o Hydref cynhaliwyd achlysur arbennig iawn yn adeilad Y Pierhead yn y Bae. Roedd RhAG, sef y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg, yn dathlu 60 mlynedd o ymgyrchu ac maer hyn a gyflawnwyd yn y cyfnod hwnnw yn sicr yn destun dathlu. Dyna oedd neges Lynne Davies o Sir Fynwy, Cadeirydd RhAG, yn ei hanerchiad. Or fesen derwen a dyf, meddai. Llond dwrn o ysgolion Cymraeg oedd gyda ni 60 mlynedd yn l ond bellach mae canghennaur dderwen yn ymestyn dros Gymru gyfan. Ond er y cynydd, rhybuddiodd, mae gwaith mawr eto iw gyflawni cyn bor galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei ddiwallu. Dywedodd bod RhAG wedi llwyddo oherwydd ei fod yn barod i gydweithio gyda chyrff eraill yn y maes, yn cynnwys y cynghorau lleol a gwleidyddion ar lefel genedlaethol. Yn wir, roedd rhaglen y dydd yn adlewyrchu hynny gydar Gweinidog Addysg ei hun, Mr Leighton Andrews, ac AC o bob un or pleidiau yn y Cynulliad yn annerch y gynulleidfa yn eu tro a phob un yn talu teyrnged i waith RhAG, gan ddatgan eu hymroddiad hwythau i sicrhau chwarae teg i addysg Gymraeg yn y dyfodol. Y ffordd i wneud hyn, wrth gwrs, yw cefnogir Bil Safonau a Threfniadau Ysgolion syn mynd drwy'r Cynulliad ar hyn o bryd trefniant a fydd yn rhoi grym statudol i'r angen i Awdurdodau Addysg Lleol fesur y galw am addysg Gymraeg o fewn eu ffiniau ac, yr un mor bwysig, gweithredu ar y canfyddiadau. Braf oedd gweld cynrychiolaeth o amrywiol ysgolion yn diddanu, yn cynnwys Cr Telynau Ysgol Gymraeg Pwll Coch, Caerdydd, Cr Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Harry a Charlie Lovell o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, a Chr Ysgol Gyfun Cymer Rhondda. Comisiynwyd cerdd gan Fardd Plant Cymru, Eurig Salisbury, yn arbennig ar gyfer yr achlysur, ac fei darllenwyd yn deimladwy gan yr actor Richard Harrington, yntau yn gynnyrch ysgolion Cymraeg y Cymoedd, ai blant yn derbyn addysg Gymraeg yn y Brifddinas. Themar gerdd yw teyrnged i ddyfalbarhad a dycnwch y rhieni a lwyddodd i drosglwyddor iaith iw plant, a hynny yn wyneb pob math o rwystr yn cynnwys y pennaf oll beth syn cŵl ym meddwl plant!
...
Cerdd arbennig i benblwydd RhAG
Cafodd cerdd ei chyfansoddi yn arbennig i benblwydd RhAG yn 60 oed gan Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru. Cafodd ei darllen gan yr actor Richard Harrington.
...
Or fesen, derwen a dyf RhAG yn dathlu pen-blwydd yn 60 oed
Yr wythnos nesaf bydd plant a rhienin llenwi Adeilad Pierhead, Caerdydd i ddathlu 60 mlwyddiant sefydlu Rhieni dros Addysg Gymraeg. Bydd RhAG yn cynnal y dathliad ddydd Mercher 3 Hydref. Caiff llyfryn ei gyhoeddi i nodir achlysur, a bydd plant sawl ysgol yn perfformio. Bydd yr arlwy yn cynnwys eitemau cerddorol gan ddisgyblion Ysgolion Pwll Coch; Glantaf, Bryn Tawe a'r Cymer gyda Caryl Parry Jones yn arwain. Caiff ffilm unigryw sy'n gywaith o waith nifer or ysgolion ei dangos, a bydd darlleniad gan yr actor adnabyddus Richard Harrington o gerdd a gomisiywyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru, yn ogystal lansio atodiad i'r gyfrol Gorau Arf: Hanes Sefydlu Ysgol Cymraeg 1939-2000 syn crynhoi datblygiadau yn y maes ers 2000. Mae'r mudiad yn falch o gael gweithio gyda rhieni, ysgolion, amrywiol fudiadau cenedlaethol, cynghorau lleol, ACau a Gweinidogion i sicrhau fod y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn cael ei ddiwallu. Mae RhAG yn awyddus i ddiolch i bawb am y gefnogaeth mae'n ei mwynhau, ac ir perwyl hwnnw bydd y mudiad yn croesawu cyfeillion a gwesteion arbennig i ddathlu yn Adeilad y Pierhead, ym Mae Caerdydd am 12.30 y.p. Dywedodd Morgan Hopkins un o'r cyd-drefnwyr ac aelod o Bwyllgor Cenedlaethol RhAG: "Mae'n gyffrous iawn ein bod yn medru dathlu'r garreg filltir hanesyddol hon yn hanes RhAG trwy gynnal digwyddiad mor unigryw. Rydym yn falch fod yr achlysur wedi'i gyd-noddi'n drawsbleidiol a thrwy hynny gadarnhau fod addysg Gymraeg bellach wedi ennill consensws gwleidyddol cenedlaethol. Hyderwn bydd yr achlysur ar y naill law yn fodd o edrych nl ar gyfraniad y mudiad dros y blynyddoedd yn y gwaith o hybu twf addysg Gymraeg tra hefyd yn dathlu llwyddiant ysgubol yr ysgolion Cymraeg, ac ar y llall yn gyfle pwysig i droin golygon i'r dyfodol tuag at gyfnod newydd a chyffrous yn ei ddatblygiad. Rydym yn edrych mlaen at gydweithio pellach er mwyn sicrhau fod pob rhiant sy'n dymuno yn medru cael mynediad hygyrch at addysg Gymraeg i'w plant a hynny o fewn pellter rhesymol i'w cartref." Mae RhAG yn gorff grymus sydd yn pwyso am ddarpariaeth addysgol trwy gyfrwng y Gymraeg ledled y wlad. Mae addysg Gymraeg ymysg yr ymdrechion mwyaf llwyddiannus ym mhroses adfer yr iaith yng Nghymru ac mae dyfodol y Gymraeg bellach yn dibynnu ar ei llwyddiant. Gan ein bod gwta draean or ffordd tuag at sicrhau system deg o addysg Gymraeg ymhob rhan or wlad, gellir dadlau bod ganddi dipyn go lew iw gyfrannu ir broses o hyd. Noddir y digwyddiad yn drawsbleidiol gan Angela Burns AC; Simon Thomas AC; Keith Davies AC ac Aled Roberts AC a fydd oll yn dweud gair byr, yn ychwanegol at araith gan Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Diwedd Nodiadau Am ragor o wybodaeth cysylltwch Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.net
...
Dim modd cyrraedd nod y Llywodraeth o gael 25% o blant 7 oed yn derbyn addysg Gymraeg erbyn 2015
...
ADDYSG GYMRAEG- DWY FLYNEDD O WEITHREDU STRATEGAETH 2009
...
Methiannau Awdurdodau Lleol i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg
...
Y TWF YN PARHAU - OND EFALLAI YN ARAFU ELENI
...
Cangen RhAG wedi'i ail sefydlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr
...
RhAG yn galw am safonau clir i ddatblygu addysg Gymraeg
Mae RhAG yn croesawu datganiad y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, bod addysg Gymraeg yn rhan allweddol o weledigaeth y Llywodraeth am yr iaith Gymraeg. Wrth gyflwyno, Iaith fyw: iaith byw, dywed Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, bod y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg iw darllen ar y cyd r strategaeth iaith. Meddai Lynne Davies, cadeirydd RhAG, Mae RhAG yn llawenhau bod y Llywodraeth yn gweld bod addysg Gymraeg yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg. Y cam nesaf yw bod y safonau a gaiff eu gosod gan y Comisiynydd Iaith yn sicrhau bod cynnydd addysg Gymraeg yn parhau. Mae RhAG am weld safonau pendant ar ymateb ir galw am addysg Gymraeg mewn ardaloedd Seisnigedig. Ar hyn o bryd mae rhyw 40% o rieni ar draws ardaloedd Seisnigedig de Cymru ar gogledd-ddwyrain yn dymuno rhoi addysg Gymraeg iw plant. Ond maer ddarpariaeth o gwmpas 10%. Medd Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG, "Bydd cael safonau pendant ar ddarparu addysg Gymraeg syn cyfateb ir galwn sbarduno awdurdodau addysg i sefydlu mwy o ysgolion Cymraeg. Mae rhaid ir awdurdodau addysg gyflwynor cynlluniau addysg Gymraeg i ADAS (adran addysg a sgiliau y Llywodraeth) yn awr, ond bydd cael safonau cadarn yn fodd o orfodi awdurdodau syn llusgou traed i weithredu. " Mae Cynghorau Abertawe, Bro Morgannwg, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf ymysg rhai syn cynyddu nifer yr ysgolion cynradd Cymraeg ar hyn o bryd. Ar y llaw arall, mae cynnydd wedi bod yn araf ym Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Medd Ceri Owen, "Maer rhagolygon am gynnydd addysg Gymraeg yn obeithiol, ac maen dda bod y Llywodraeth am sicrhau hyn. " diwedd Am fwy o fanylion cysylltwch Ceri Owen, Swyddog Datblygu Cenedlaethol RhAG ar 07912175403.
...
Cyfarfod Arbennig or Cyngor
...
Diwrnod Arwyddocaol i Addysg Cyfrwng Cymraeg
Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi croesawu cyhoeddiad hir-ddisgwyliedig y Gweinidog Addysg (ddoe) mewn perthynas buddsoddiad cyfalaf i addysg cyfrwng Cymraeg. Dywedodd Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG, "Hoffwn longyfarch y Gweinidog Addysg ynghyd Llywodraeth Cymru am osod eu gweledigaeth ar gyfer twf addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r cyhoeddiad yn cadarnhau fod sawl prosiect ledled Cymru wedi derbyn addewid am gyllid a fydd yn caniatu i awdurdodau addysg fwrw 'mlaen yn awr gyda'r gwaith o ddiwallu'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg. Yn y mwyafrif o achosion, bydd y cyllid yn cynnig sefydlogrwydd a'r amodau angenrheidiol i'r sector ffynnu." "Tra'n cymeradwyo arweiniad strategol clir y llywodraeth o safbwynt cynllunio addysg Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf, rhaid cydnabod mai dros gyfnod estynedig o amser y caiff y cyllid ei ddyrannu a hynny'n groes i'r cynllun gwreiddiol. Pwysleisiwn felly fod angen cadarnhau ar unwaith pa brosiectau fydd yn cael blaenoriaeth o fewn y rhaglen a phryd yn union y bydd yr arian yn cael ei ryddhau i'r awdurdodau lleol. Heb amserlen a fframwaith bendant i gyflawni hynny, mae'n debygol y gall arwain at sefyllfa o oedi ac ansicrwydd fydd yn niweidiol i dwf addysg Gymraeg ac mewn rhai achosion yn atal rhieni rhag sicrhau mynediad at addysg Gymraeg i'w plant. Elfen allweddol arall yw fod angen sicrwydd o du'r awdurdodau lleol y byddant hwythau'n medru canfod yr arian cyfatebol sy'n angenrheidiol i wireddu'r cynlluniau dan sylw." "Nid oes amheuaeth fod y buddsoddiad arfaethedig yn cymryd camau breision i'r cyfeiriad cywir, ond o safbwynt rhieni, yr hyn sy'n gwbl greiddiol yw cael manylion pendant ynglyn sut a phryd yn union y bydd yr arian yn diogelu eu dymuniad i addysgu eu plant drwy gyfrwng y Gymraeg." diwedd Am fwy o wybodaeth cysylltwch Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 0791217540
...
Responses to the New Welsh medium education Strategy - Erthygl gan Michael Jones a gyhoeddwyd yn y Western Mail
Two years ago the then Minister of Education in Wales launched her new strategy for the development of Welsh medium education targeting help in achieving WAGs aim to increase Welsh speakers by 5% by 2011 against the figure in the 2001 Census. This necessarily involved raising the number of WM places. Monitoring the response of local education authorities was to be transferred from the Welsh Language Board which had it statutorily. Local authorities were urged to respond positively to a departmental circular issued by the Ministers predecessor, asking them to hold surveys to ascertain any unmet need for Welsh medium education and to make proposals to fulfil such need. The Minister warned that if LEAs ignored her strategy then she would take statutory powers, as her successor Leighton Andrews has reiterated. After two years, what is the response in South Wales to the new strategy? Mixed: of the 15 authorities, six have done well; five badly and the four indifferently. The good authorities are Newport, Torfaen, Caerphilly, Cardiff, the Vale of Glamorgan and Cardiganshire. Newport carried out a survey in response to the original circular, found a substantial unmet need and agreed to open a second school in September 2009. Its immediate popularity demanded a second stream which was provided so that in 2010 60 children were admitted instead of 30. A second survey was undertaken among parents of children entering school in 2011/14, which showed a need for a third school to be opened this September. Torfaen and the Vale of Glamorgan both carried out surveys, detected unmet need and have acted promptly to open new schools. Since Caerphilly became an education authority in 1996 it has a record of opening additional schools and filling them, 3 new schools over 14 years, as well as extending others. Cardiff (and South Glamorgan before it) has pursued a policy of working towards having one WM school in every ward of the city. Thus since 2000 it has opened 6 new primary schools and will open a third secondary school in 2012. Cardiganshire has a scheme in hand to increase the Welsh element at its bilingual secondary schools (Cardigan, Lampeter, Tregaron, Aberaeron). Its plan to combine primary schools in the Llandysul area to have 3-19 Welsh medium provision on one campus is innovative, creating a firm foundation for the future of WM education locally. It just manages to join the good class. Merthyr Tydfil, with no new school opened since 1976, heads the list of defaulters, proclaiming its intention not to waste money on a survey of unmet need. Rhondda Cynon Taf with no new school opened since 1990 (by Mid Glamorgan its predecessor), did conduct and publish two surveys of unmet need in 2007 without doing anything to respond to the need for two additional streams in spite of past promises. Neath Port Talbot responded early to the first circular by commissioning a survey, but the outcome of the survey has not been published. A second and a third survey were commissioned, showing that demand is far greater than current provision but there has been no speedy or any response. Sadly Carmarthenshire must join the same group in the light of its refusal to expand designated Welsh medium primary provision and its persistence in arguing that its category A schools are also Welsh medium schools which is certainly not the case. Thus currently upwards of 15 children are being refused entry to Ysgol Gymraeg Rhydaman. There is no Welsh medium primary provision available in vast parts of the county. Pembrokeshire promised a Welsh medium school in the Tenby area, after merging Welsh medium schools in the north of the county. This further unkept promise places this authority among the defaulters, Swansea, after an appalling history between 1960 and 1989, saw an improvement under West Glamorgan which has partly continued since 1996 when Swansea again became independent. Three new primary schools have been opened and a second secondary school. Surveys of unmet need have been undertaken and the results published, one of which has led to a proposed new school in Morriston, rather bizarrely to be of 0.5 FE, But when an English medium school became redundant at Llanmorlais in Gower (a rural area with no Welsh school ) Swansea sold the site rather than open a Welsh medium school in spite of the wishes of 40 parents. Ministerial approval has authorised the extension of two Welsh schools Tirdeunaw and Pontybrenin but to a degree insufficient to provide space to accommodate children already admitted. In giving his approval the Minister comments on the inadequacy of Swanseas proposals. Mediocre is the best verdict on Swanseas response to the new strategy. Bridgend has not opened a new Welsh primary since 1988 but it did open a secondary in 2008. It recognises the need for a further school in the Llynfi valley which it has not yet provided.. Blaenau Gwent and Monmouthshire have now carried out a survey. Both have improved the buildings of their Welsh Schools, but new schools have not been provided in Tredegar, Monmouth or Usk . Leighton Andrews should write to all but 6 of these authorities reminding them to hold regular surveys of need and to act on the results. His letter to Swansea suggests that he is on the way to doing this.
...
Dyfodol trydedd ysgol uwchradd Gymraeg Caerdydd yn ddiogel
Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi croesawu'r ffaith y bydd cynlluniau Cyngor Caerdydd i agor trydedd ysgol gyfun Gymraeg y brifddinas ym Medi 2012 yn parhau yn unol 'r amserlen wreiddiol o leiaf, os nid ar y safle a addawyd. Yn groes i'r cynllun gwreiddiol, bydd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn cael ei sefydlu ar safle Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf am un flwyddyn o fis Medi 2012 ymlaen, gyda'r bwriad i'w symud i safle presennol Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Teilo ym Medi 2013. Bydd disgyblion ysgolion Bro Eirwg a Berllan Deg yn bwydo'r ysgol am y ddwy flynedd gyntaf ac o 2014 bydd plant yn dod o Ysgol Pen-y-pil ac o 2016 o Ysgol Penygroes yn ychwanegol. Dywedodd Nona Gruffudd-Evans, Cadeirydd RhAG Caerdydd, "Tra'n cydnabod fod y sefyllfa ymhell o fod yn ddelfrydol, cred RhAG fod y penderfyniad yn caniatau'r dechrau gorau posib i Bro Edern dan yr amgylchiadau, ac fod yn rhaid canolbwyntio'n awr ar sicrhau proses drosglwyddo sydd mor esmwyth phosib i ddisgyblion yr ysgol newydd. Ymhellach i hynny, rydym yn cydnabod cefnogaeth sylweddol Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, ac yn arbennig pennaeth yr ysgol honno, a'u rhan allweddol yn y broses o sicrhau'r datrysiad dan sylw." Ychwanegodd Mrs Gruffudd-Evans, "Pwysleisiwn ei bod yn gwbl hanfodol bod y Sir bellach wedi addo mai trefniant dros dro am flwyddyn yn unig fydd hyn, ac y bydd Cyngor Caerdydd yn gwireddu eu hymrwymiad i drosglwyddo Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern i'w chartref parhaol ym Medi 2013. Rydym hefyd yn galw ar y Cyngor i gadw at eu addewidion o sicrhau cyllid digonol ar gyfer trefniadau staffio ac adnoddau pwrpasol ar gyfer lletya'r ysgol newydd yn ei chartref dros dro yng Nglantaf. Addysg a lles y disgyblion yw'r flaenoriaeth uchaf ac mae'n rhaid gwneud yn siwr na fydd y trefniant yma'n andwyol i fuddiannau disgyblion y naill ysgol neu'r llall." Nododd Michael Jones, Cydlynydd de ddwyrain Cymru ar ran RhAG, "Dylai bwrw 'mlaen gyda'r gwaith o benodi pennaeth, er mwyn llywio'r broses o ymsefydlu hunaniaeth a threfniadaeth annibynnol yr ysgol newydd erbyn Medi 2012 fod yn gam gweithredu ar fyrder gan y Sir. Yn naturiol mae gan ddarpar-rieni lawer iawn o gwestiynau a phryderon a bydd penodi pennaeth yn fodd i dawelu nifer o'r gofidiau hynny. Mae'n bryder gan RhAG mai'r teimlad cyffredinol ymysg rhieni yw un o anniddigrwydd a'u bod yn teimlo wedi'u dieithrio'n llwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf. Hyd yma, prin iawn fu'r wybodaeth am fanylion ymarferol trefniadaeth yr ysgol, ac i ddarpar-rieni ysgol newydd sbon mae'r wybodaeth hynny'n gwbl hanfodol, yn enwedig felly o ystyried eu bod ynghanol y broses ddewis llwybr addysg uwchradd eu plant ar hyn o bryd." "Bydd RhAG mewn trafodaethau gydar Sir yn ystod y misoedd nesaf er mwyn sicrhau mai buddiannau rhieni a disgyblion sydd wrth galon y trefniadau. Rhaid sicrhau, o hyn ymlaen, fod y broses o ffurfio Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn un agored a chynhwysol, er mwyn caniatau i rieni chwarae rl ganolog yn nyfodol addysg eu plant, ac i sicrhau fod yr ysgol yn derbyn yr amodau tecaf wrth sefydlu'i hun." diwedd
...
Rhieni'n disgwyl yn bryderus am benderfyniad Cyngor Caerffili ar ddyfodol addysg cyfrwng Cymraeg
"Mae rhieni RhAG yn aros yn bryderus am benderfyniad Cyngor Bwrdeisdref Sirol Caerffili ar ddyfodol addysg Gymraeg yn y Sir. Bydd penderfyniadau a wneir gan gynghorwyr ddydd Iau (heddiw) yn cael effaith uniongyrchol ar hawl rhieni i addysgu eu plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn y bwrdeisdref. Mae yna angen ar fyrder i gynyddu llefydd uwchradd cyfrwng Cymraeg ym masn Caerffili, er mwyn diwallu'r galw cynyddol o du rhieni ac er mwyn lliniaru'r pwysau ar Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y Sir ar hyn o bryd. Yn naturiol mae rhieni'n gofidio at y posibilrwydd o lefydd annigonol, ac wedi'i siomi unwaith yn barod, pan y bu'n rhaid i'r Sir roi'r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer safle St Ilan i'r neilltu oherwydd diffyg cyllid. Mae'n gwbl annheg i gadw rhieni a phlant yn y fath limbo. Byddai methiant i sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar safle St Ilan hefyd yn mynd yn groes i egwyddor graidd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru sy'n anelu i sicrhau fod awdurdodau lleol yn ymateb mewn ffordd wedi'i chynllunio ar gyfer y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg. Mewn adeg o gynni economaidd, oes modd cyfiawnhau peidio a gwneud defnydd o adeilad gwag, sy'n segur ers blynyddoedd, er mwyn darparu gwasanaeth craidd i drigolion Caerffili? Mae sicrhau fod darpariaeth yn ei le erbyn 2013 felly yn fater o argyfwng a ddylai gael ystyriaeth gwbl flaenllaw." diwedd Nodiadau 1. Cynnig gwreiddiol Cyngor Bwrdeisdref Caerffili oedd sefydlu darpariaeth ar gyfer plant 11-14 oed (Bl.7,8 a 9) ar safle St Ilan ynghanol tref Caerffili. Y bwriad oedd y byddai'r ysgol yn agor ym Medi 2012 ond oherwydd gostyngiad o ran cyfraniad ariannol y Llywodraeth bu'n rhaid gohirio'r syniad. 2. Mae twf anhygoel yn y galw am addysg Gymraeg ar hyd a lled bwrdeisdref Caerffili yn tanlinellu pwysigrwydd angenrheidiol rhoi'r cynllun ar waith ar unwaith. Mae CBS Caerffili bellach yn gorfod darparu ar gyfer derbyn oddeutu 400 o ddisgyblion yn ysgolion cyfrwng Cymraeg y sir yn flynyddol a'r rhagolygon yn awgrymun gryf y bydd hyn yn parhau i'r dyfodol. Canlyniad hyn yw y bydd dros 3,300 o blant yn ysgolion cynradd Cymraeg Caerffili ymhen wyth mlynedd - oddeutu mil yn fwy na'r niferoedd presennol. Pe byddai'r patrwm hwn yn parhau dros y cyfnod uwchradd o 7 mlynedd byddai yno bron i 2,900 o blant - ddwywaith y nifer sydd yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn awr. Yn naturiol dim ond cynyddu'r gwasgedd ar gynhwysedd presennol Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn Fleur de Lys a wna'r twf presennol. Erbyn Medi 2012 bydd 21 disgybl yn ormod yn yr ysgol, hynny'n cynyddu i 83 ym Medi 2013 a'r ffigwr yn codi i 700 erbyn 2016.
...
RhAG yn galw am chwarae teg i addysg Gymraeg wrth ddyrannu cyllid cyfalaf
Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i dynnu sylw at anghenion datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg o fewn rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Daw hynny'n sgil y ffaith fod awdurdodau lleol bellach wedi diwygio blaenoriaethau eu ceisiadau gwreiddiol am gyllid cyfalaf ac wedi ail gyflwynor ceisiadau hynny i sylw swyddogion y llywodraeth. Prif amcan y rhaglen dan sylw yw sicrhau fod ysgolion Cymrun addas at ddibenion yr 21ain ganrif er mwyn arwain at well deilliannau addysgol ar defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau. Mae'r rhaglen hefyd yn rhoi pwyslais blaenllaw ar leihau llefydd gweigion mewn ysgolion sy'n cael ei ystyried yn faen prawf canolog o safbwynt y broses llunio ar broses werthuso. Dywedodd llefarydd ar ran y mudiad, "Tran deall yr angen cyffredinol i fynd ir afael lleihau llefydd gwag, maen rhaid tynnu sylw at y ffaith nad ywr gofyniad hwn yn uniongyrchol berthnasol i sefyllfar ysgolion cyfrwng Cymraeg. Drwyddi draw, maen amlwg bod angen arian ychwanegol ar ysgolion Cymraeg syn gorlenwi, er mwyn ehangur ysgolion hynny neu i fynd ati i adeiladu ysgolion newydd." "Or herwydd credwn na all llefydd gwag mewn ysgolion eraill fod yn faen prawf o safbwynt twf addysg Gymraeg. Pryderwn y caiff ei gam briodoli mewn achosion ble mae angen ymateb yn rhagweithiol ir galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, a lle mae sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymrun hanfodol er mwyn caniatu i awdurdodau lleol ddiwallur galw hwnnw. Pryderwn felly fod siawns ir rhaglen osod y sector cyfrwng Cymraeg dan anfantais or cychwyn cyntaf os mai lleihau llefydd gwag ywr prif faen prawf tran sgorio ceisiadau." "Tran cydnabod fod llai o gyllid ar gael a chyfrifoldebau o ganlyniad i sianelur arian hwnnwn ofalus, pwysleisiwn y bydd penderfyniadau a wneir o safbwynt dosbarthu cyllid y rhaglen yn cael effaith uniongyrchol ar ddymuniad rhieni i addysgu eu plant drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sawl rhan o Gymru. Mae goblygiadau hefyd wrth gwrs o ran cyflawni egwyddorion craidd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y llywodraeth. Heb gefnogaeth ariannol bydd yn anodd iawn, neu hyd yn oed yn amhosib mewn ambell achos, i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd statudol ac i wireddu amcanion y Strategaeth, Yn wir, mae rhai awdurdodau wedi cyrraedd pwynt argyfwng ble mae cael sicrwydd o gyllid cyfatebol gan y llywodraeth yn angenrheidiol er mwyn eu caniatu i ddarparu llefydd cyfrwng Cymraeg digonol yn y dyfodol agos. Ein pryder pennaf felly yw y gallai sefyllfa amlygui hun ble bydd un o bolisau Llywodraeth Cymru yn tanseilio amcanion un arall." Mae'r mudiad wedi gofyn am eglurhad ar statws addysg cyfrwng Cymraeg o safbwynt meini prawf dyrannu cyllid ir awdurdodau unigol o fewn y rhaglen, pa feini prawf penodol sydd mewn lle ar gyfer ehangu addysg Gymraeg ynghyd natur y drafodaeth rhwng Uned Datblygur Iaith Gymraeg o fewn y llywodraeth ar Uned syn arwain ar y Rhaglen Ysgolion 21G wrth bwyso a mesur y cynigion. "Credwn fod hynnyn allweddol, nid yn unig er mwyn cydgordio amcanion yr adrannau hynny, ond er mwyn gwireddu dyheadau ehangach Llywodraeth Cymru mewn perthynas chynyddur cyfleoedd i dderbyn addysg Gymraeg."
...
RhAG Caerffili yn y Senedd, Bae Caerdydd
Ben Jones, Cadeirydd RhAG Caerffili a dirprwyaeth o rieni'r Sir yn y Senedd ym Mae Caerdydd yn cyflwyno deiseb i sylw William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Mae'r ddeiseb yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog y Gweinidog Addysg a Sgiliau a Llywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i gais Cyngor Caerffili am gyllid cyfalaf er mwyn sicrhau darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg digonol yn yr awdurdod erbyn 2013.
...
Neges bwysig: Rhieni Ysgolion Cymraeg, Bro Allta, Penalltau, Trelyn, Bro Sannan, Gilfach Fargod, Cwm Derwen, y Lawnt a Chwm Gwyddon.
...
Agor ysgol yn Nhreforys
Daeth llond neuadd ynghyd i ddathlu agor Ysgol Gymraeg newydd Treforys, fore Mawrth, Tachwedd 8. Canodd 26 o blant yr ysgol ganeuon Cymraeg, ac agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Ioan Richards, Arglwydd Faer Abertawe. Rhoddwyd llyfr i bob un o blant yr ysgol gan Rhieni dros Addysg Gymraeg. Cychwynnwyd yr ymgyrch i gael ysgol Gymraeg i Dreforys 64 mlynedd yn l, gydar Parch Trebor Lloyd Evans yn arwain. Yn y cyfamser gwelwyd Ysgol Ln-las yn blodeuo, ac er bod ysgolion Gellionnen a Thirdeunaw wediu sefydlu i dynnur pwysau oddi ar Ln-las, dal i dyfu a wnaeth. I ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg, cychwynnwyd Ysgol Tan y Lan ym mis Medi eleni. Bydd 12 o blant eton ymuno r ysgol cyn yr haf, ac mae 15 o enwaun barod i ddod ir ysgol fis Medi nesaf. Clywodd y Sir gan Lywodraeth y Cynulliad bod caniatd wedi dod i gychwyn Ysgol y Cwm, rhwng Bonymaen a St Tomas, fis Medi 2012.
...
Neges bwysig - Cyfarfod RhAG Caerffili - 15.11.11
Hysbysiad pwysig oddi wrth RhAG Cynhelir cyfarfod RhAG am 6yh nos Fawrth 15fed Tachwedd yn Ysgol Gymraeg Caerffili i drafod cynlluniau'r awdurdod ynglyn ag addysg Gymraeg. Bydd y Cynghorydd Phil Bevan, Aelod y Cabinet ar gyfer Addysg, yno i fanylu ar y cynlluniau ac i ateb cwestiynau. Cyfarfod pwysig hw hwn gan ein bod ni'n trafod dyfodol addysgiol eich plentyn felly dyn ni'n eich annog chi i fod yn bresennol.
...
Ateb dros dro yng Nghaerffili - llythyr at rieni
Anfonwyd y llythyr canlynol at rieni disgyblion addysg Gymraeg ar ddechrau'r tymor gan RhAG Caerffili: Annwyl Rieni, Croeso i dymor a blwyddyn ysgol newydd. Derbyniodd rhieni cylch Caerffili lythyr gan y Cyngor yn dweud y bydd lle yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ar gyfer plant sydd yn mynd ymlaen i addysg uwchradd ym Medi 2012. Bydd rhai yn gweld hwn fel newyddion da ond maen fater syn achosi tipyn o bryder i ni yn RhAG. Y rheswm pennaf dros ein hanniddigrwydd yw mai rhyw ateb dros dro yw hwn. Mae hon yn ddarpariaeth ar gyfer plant sydd ym Mlwyddyn 6 ar hyn o bryd ond mae angen ystyried y plant sydd ym Mlynyddoedd 5 ar rhai syn iau fyth. Hefyd, mae gorlenwi ysgolion, wrth reswm, yn golygu nad yw cyfleusterau yn ddigonol i ateb nifer y disgyblion. Rydym yn hen gyfarwydd r sefyllfa hyn yn ein Hysgolion Cymraeg Cynradd u terrapins di-ben-draw. Dydy hyn ddim yn rhy ddrwg am un flwyddyn, ond beth syn mynd i ddigwydd wedi hynny? Cyhoeddodd y Cynulliad na fydd mwy o arian ar gyfer y cynllun Ysgolion C21ain tan 2014. Ond bydd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn orlawn eto yn 2013! Rhif Safonol yr ysgol yw 1448 ac mae 1435 yno eisoes. Nid yn unig mae mwy o bobol yn dewis addysg Gymraeg ar gyfer eu plant ond mae mwy on disgyblion yn aros ymlaen i fynd ir Chweched Dosbarth (109 sydd ym Mlwyddyn 13 ond mae 157 wedi dychwelyd i Flwyddyn 12 eleni). Yn y cyfamser, mae adeiladau hen ysgol Sant Ilan wedi bod yn wag bellach ers rhyw bum mlynedd. Faint mwy bydd y rhain yn dirywio cyn y daw arian i fynd ir afael r sefyllfa? Does dim cyfarfod o RhAG wedii gynnal y tymor yma, hyd yn hyn, am ein bod yn aros am fwy o wybodaeth am sut y maer cyngor yn mynd i adweithio ir sefyllfa. Bu swyddogion RhAG yn cyd-drafod ac mewn cysylltiad r cyngor ers cyhoeddiad y Cynulliad ym mis Gorffennaf. Ond anodd iawn oedd hyn gyda phobl yn mynd i ffwrdd ar wyliau. Y darlun sydd yn ymddangos nawr yw y bydd yn rhaid gosod cynigion or newydd gerbron y Cynulliad er mwyn gwneud cais am arian. Ar cam nesaf yw aros ir Cynulliad gyhoeddi canllawiau ar gyfer y cynigion a dylair rhain ddod i law ddiwedd mis Medi. Daeth yn bur amlwg na fydd arian ar gael i gynllun uchelgeisiol y cyngor i sefydlu tair ysgol loeren ar gyfer plant 11 - 14 i fwydo Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Ein bwriad, felly, yw galw cyfarfod o rieni pan fydd gennym wybodaeth fwy pendant. Does fawr o bwynt cynnal cyfarfod tan fydd rhywbeth pendant gennym iw drafod. Ond, y pryder mawr yw bod y cloc yn dal i dician ar gobaith am ateb hir dymor, parhaol, mor bell i ffwrdd ag y bu erioed. Gellir cadw mewn cysylltiad materion drwy fynd ar wefan RhAG, www.rhag,net Hefyd, bydd o ddiddordeb i chi fod Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg yn y Cynulliad yn dod i annerch Cynhadledd Flynyddol RhAG yn Abertawe, ddydd Sadwrn 15fed o Hydref. Bydd rhai ohonom yn sicr yn mynd yno. Oes gan unrhyw un arall ddiddordeb? Mae manylion ar y wefan ac mae croeso i chi gysylltu ch swyddogion lleol. Ben Jones, RhAG Caerffili
...
Rhieni Powys yn gofyn i Gynghorwyr roi addysg Gymraeg ar yr agenda
Mae RhAG De Powys mewn cydweithrediad Mudiad Addysg Gymraeg Gogledd Ddwyrain Powys wedi cynhyrchu llyfryn arbennig sy'n amlinellu manteision addysg cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc a chymunedau Powys. Mae'r llyfryn wedi'i ddosbarthu i sylw pob un o Aelodau Etholedig Powys cyn iddynt ymgynnull mewn cyfarfod llawn arbennig o'r Cyngor ddydd Llun 3 Hydref. Galwyd y cyfarfod er mwyn trafod Rhaglen Moderneiddio Addysg Uwchradd ac l-16 y Sir. Cynhyrchwyd y llyfryn mewn ymateb i'r penderfyniadau anodd sy'n wynebu'r Awdurdod o safbwynt ad-drefnu addysg y Sir ac er mwyn galluogi Cynghorwyr, pan ddawr amser i drafod addysg cyfrwng Cymraeg, i wneud penderfyniad gwybodus ar fater fydd yn effeithion uniongyrchol ar y bobl ifanc hynny sydd wedi dewis derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Yng ngwyneb yr anghydraddoldebau presennol syn bodoli o safbwynt addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, maer Ymgynghoriad Moderneiddio Addysg Uwchradd ac l -16 yn cynnig cyfle unigryw i adolygur ddarpariaeth bresennol, yn enwedig gan mai un o brif amcanion y rhaglen moderneiddio yw sicrhau fod cyfleoedd dysgu o safon uchel yn gyfartal hygyrch i bob dysgwr ym Mhowys (trwy gyfrwng y Saesneg ar Gymraeg). Bydd rhieni hefyd yn rhannu copau o'r llyfryn tu allan i Neuadd y Sir fore Llun. diwedd Am fwy o wybodaeth cysylltwch Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 07912175403. Nodiadau 1. Sefydlwyd MAGGDdP yn 1982 gan rieni oedd eisiau gweld gwell darpariaeth o addysg cyfrwng Gymraeg yn yr ardal. Y nod oedd ysgolion penodedig. Wedi penderfyniad yr Awdurdod i ddilyn polisi o ffrydiau cyfochrog yn 1989 daeth MAGGDdP yn rhan o RhAG 2. Mae dwy gangen RhAG yn rhan o RhAG De Powys, sef un yn ardal Aberhonddu/Pontsenni ar llall yn Llanfair-ym-Muallt ar Cylch. Un o brif amcanion y canghennau yw gweld sefydlu ysgol uwchradd benodedig yn yr ardal.
...
Rhieni Powys yn groch o blaid addysg uwchradd penodedig cyfrwng Cymraeg
Mae arolygon diweddar a gynhaliwyd gan Fudiad Addysg Gymraeg Gogledd Ddwyrain Powys (MAGGDdP) a changhennau Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) De Powys wedi arddangos undod barn ymhlith cannoedd o rienir Sir sydd am sicrhau addysg gyflawn cyfrwng Cymraeg iw plant. Mewn dwy arolwg annibynnol a gynhaliwyd yn ystod mis Mai cafwyd casgliadau trawiadol syn amlygu methiant sylfaenol y polisi presennol o gynnig addysg uwchradd mewn ffrydiau Cymraeg a Saesneg cyfochrog. Diffygion y mae Cyngor Sir Powys wedii cydnabod eu hunain mewn dogfen ymgynghorol diweddar ar foderneiddio ysgolion uwchradd y Sir. Dangosodd yr arolygon fod mwyafrif arolwg y gogledd ddwyrain, sef 55.7% eisiau ysgol uwchradd benodedig Cymraeg yng Ngogledd Ddwyrain Powys. Or gweddill, roedd 21.5% eisiau mwy o wybodaeth ac yn barod i ystyried ysgol benodedig. Dim ond 22.8% oedd am gadwr polisi presennol o ddwy ffrwd gyfochrog. Yn ner Sir roedd 81% o blaid gweld sefydlu ysgol uwchradd benodedig cyfrwng Cymraeg, 13% yn dymuno derbyn mwy o wybodaeth a 6% yn unig yn erbyn. Un nodwedd arwyddocaol yw cefnogaeth y di-Gymraeg dros sefydlu ysgolion uwchradd Cymraeg, syn cynrychioli dros 60% o ymatebion y ddwy arolwg. Dengys fod yr ewyllys da hwn tuag at y Gymraeg yn gyson gyda phatrymau cyffelyb ledled Cymru. Dywedodd Rhisiart Owen ar ran MAGGDdP: Yn y lle cyntaf hoffem ddiolch i deuluoedd Powys am gyfranogi yn yr arolygon diweddar. Prif amcan dosbarthur holiadur oedd cynnig rhyddid mynegiant i rieni a hynny mewn modd cwbl gyfrinachol. Credwn fod yr ymarfer wedi bod yn un gwerthfawr ac o ystyried niferoedd a natur yr ymatebion maen amlwg fod rhieni wedi gwerthfawrogir cyfle. Maer canfyddiadaun dangos yn glir ac yn ddi-amwys fod rhieni o blaid gweld sefydlu ysgolion uwchradd penodedig Cymraeg ym Mhowys. Mae hyder a ffydd ganddynt y byddai ysgolion or fath nid yn unig yn llwyddo, ond yn ffynnu ir dyfodol. Yn hynny o beth, adlewyrchu dyheadau rhieni lleol Powys mae canfyddiadaur arolygon dan sylw. Amlygwyd trwyr ymatebion fod rhieni yn awyddus ir awdurdod ddefnyddior adolygiad moderneiddio fel cyfle i sicrhau cydraddoldeb a thegwch i ddarpariaeth addysg Gymraeg ym Mhowys. Cyfeirwyd hefyd at ddeuoliaeth ryfedd y sefyllfa bresennol ble maen bosib derbyn addysg gynradd yn gyfangwbl trwy gyfrwng y Gymraeg ond nad oes dilyniant ieithyddol i ddarpariaeth gyfatebol yn yr uwchradd. Er mwyn sicrhau hynny rhaid teithio i siroedd cyfagos - penderfyniad anodd y mae nifer cynyddol o rieni wedi gorfod ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Ychwanegodd Lynne Griffin, Cadeirydd RhAG Aberhonddu a Phontsenni: Mae polisi presennol Powys yn anfanteisio cyfran sylweddol ou dysgwyr a hynnyn groes ir mwyafrif o siroedd eraill yng Nghymru. Maen hen bryd unionir sefyllfa yma er mwyn rhoi cyfleoedd teg a chydradd i holl blant a phobl ifanc y Sir. Sylweddolwn fod penderfyniadau anodd i'w gwneud gan Gyngor Sir Powys dros y misoedd nesaf. Bydd gofyn am ewyllys gwirioneddol i wneud dewisiadau a fydd yn gwireddur weledigaeth a nodir yn nogfen moderneiddio uwchradd Powys ynghyd thargedau strategol y Cynulliad o ehangu cyfleoedd i dderbyn addysg Gymraeg. Pwysleisiwn fod cyfle euraidd yma i wneud newid hanesyddol er gwell, a fydd yn caniatu i blant a phobl ifanc Powys dderbyn addysg gyflawn Gymraeg yn eu cymunedau lleol.
...
Datblygiadau diweddar yng Nghaerffili - llythyr gan RhAG
Annwyl Gyfaill, Ysgrifennwyd y canlynol mewn ymateb i lythyr a dderbyniwyd gan riant yn mynegi consyrn am y nodyn a yrrwyd allan gan RhAG am gyfarfod Mawrth 31ain. Gallai fod y cynnwys o ddiddordeb i eraill. Mater ir awdurdod lleol, wrth gwrs, ywr cyfnod o ymgynghori. Ac nid mater i RhAG. Credaf mai achos yr oedi ywr ffaith bod yr awdurdod yn disgwyl am ganlyniad amryw geisiadau a wnaed am gymorth gan y llywodraeth ar gyfer y prosiect. Rydym ni yn RhAG yn cynnal cyfarfodydd pob tymor ac maer rhain ar agor i rieni, a darpar rieni, plant mewn Ysgolion Cymraeg. Mynychodd llawer iawn o bobl rhain yn ddiweddar am fod rhieni yn pryderi am ddarpariaeth addysg Gymraeg yn y sir wedi 2011. Maen ddrwg gen i os oedd rhain anhapus natur y llythyr. Ond roedd hin angenrheidiol bod rhieni yn gyfarwydd r sefyllfa syn bodoli ac sydd, yn fras, fel a ganlyn, Er ein bod yn gwybod ers 2002, pan agorwyd adeiladau newydd Ysgol Cwm Rhymni, y byddain llawn erbyn tuar adeg hon, doedd yna ddim cynigion o gwbl i fynd ir afael r mater cyn 2008. Rydym ni yn RhAG wedi gwasgu ar yr awdurdod i ddefnyddio adeiladau gwag Sant Ilan, ond y maen dramgwydd mwyaf, fel pob amser, oedd arian. Llynedd gyrrodd swyddogion yr awdurdod gais am 30m ir Cynulliad. Roedd hwn yn cynnwys y syniad o Ysgol Ganol ar gyfer disgyblion oed 7 - 14. Aeth rhieni yn grac iawn pan glywon nhw am hwn. Ond am nad oedd y cais am arian yn llwyddiannus ni aethpwyd ymlaen r cynllun. Felly, roedd yn rhaid ariannu unrhyw gynllun amgen o arian y gallair cyngor loffi or hyn oedd ganddynt eisoes. Drwy wneud hyn daethant o hyd i ddigon o arian ar gyfer cynllun llai uchelgeisiol. Bu teimlad ar led mai dod yn ysgol newydd ddwyieithog 11 - 19 fyddai Sant Ilan ond mewn ymateb ir ffordd y mae addysg uwchradd wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf aed ati i lunio cynllun amgen. Rydw in bersonol yn argyhoeddedig bod hwn yn well cynllun nar dewis o fynd am ysgol 11 - 19. Ac rwyn mynegir farn hon nid yn unig fel Cadeirydd RhAG Sir Caerffili ond fel tad-cu. Byddwn ni, fel teulu, yn cael ei effeithio yn union yr un fath chi: bydd gyda ni, hefyd, dri phlentyn mewn tair ysgol wahanol. Fodd bynnag, rwyn dal i gredu bod hwn yn gynllun da - ac rydw in dweud hyn fel rhywun syn cynrychiolir ysgolion, y teuluoedd ac nid fel un syn rhan o awdurdod addysg. Maer ffaith bod Blynyddoedd 7,8 a 9 yn mynd i fod ar safle Sant Ilan yn well nau bod yn rhan o ddechrau ysgol gyfun ar wahn. Teimlaf y bydd rhieni yn hapusach bod y trefniadau yn Sant Ilan yn dod o dan reolaeth Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Hefyd, pan fydd y disgyblion hyn yn cyrraedd Blwyddyn 10 byddant yn ei chael hin anodd iawn i gynnig ystod o tua 30 o gyrsiau fel syn ofynnol yn y cwricwlwm 14 - 19. Byddai hyn yn golygu cyfuno ag ysgolion eraill ac yn golygu y byddair plant yn treulio llawer iawn o amser yn teithio o un safle ir llall. Y ffactor arall, wrth gwrs, yw nad ywr adnoddau gan yr AALl i adeiladu ysgol gyfun 11 - 19. Ynghyd swyddogion eraill yn RhAG, wy wedi mynychu cyfres o weithgorau ar ddyfodol addysgu yn y sir, gan edrych ar hyn syn bosib ar hyn syn ddymunol. Ni allwn ddod o hyd i unrhyw ateb amgen ir sefyllfa syn ein hwynebu. Dechreuais frwydro ar ran y rheini pan glywais y son cyntaf am yr ad-drefnu arfaethedig mis Mai diwethaf, felly gallwch weld nad peth mympwyol ywn adwaith i. Cefnogaf y cynllun newydd yma fel cyn bennaeth, rhiant a rhiant-cu yn ogystal ag ar ran swyddogion etholedig RhAG. Mae nifer o gwestiynau eto iw hateb a gobeithio y caiff y rhain eu hateb yn y cyfarfod nos Iau. Edrychaf ymlaen at gyfarfod bywiog iawn! Yn gywir, Ben Jones Cadeirydd RhAG Caerffili
...
Addysg gyflawn Gymraeg Sir Gr - loteri yn l cod post
Mae'r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn galw ar Gyngor Sir Gr i fynd i'r afael ar unwaith phroblem argyfyngus diffyg llefydd yn ysgolion cynradd penodedig Cymraeg y sir. Mae nifer o deuluoedd sy'n byw yng ngyffiniau Ysgol Gymraeg Rhydaman ac Ysgol Teilo Sant wedi cael ar ddeall nad yw eu plant wedi derbyn lle ar gyfer mis Medi nesaf. Rhif mynediad swyddogol Ysgol Gymraeg Rhydaman yw 31 disgybl ac mae sawl teulu wedi cael eu siomi na fydd modd i'r ysgol dderbyn eu plant. Cysylltodd sawl rhiant gyda RhAG yn ystod y misoedd diwethaf yn gofidio na fyddai llefydd digonol ar gyfer eu plant Fedi nesaf. Yn wir, gohebodd RhAG gyda'r awdurdod nl yn Ebrill 2010 yn tynnu sylw at hyn. Roedd arwyddion clir bryd hynny fod pwysau'n datblygu ar gynhwysedd Ysgol Gymraeg Rhydaman ir dyfodol. Dywedodd Ceri Owen, Swyddog Datblygu Cenedlaethol RhAG : "Y ffaith amdani yw fod nifer cynyddol o blant Sir Gr yn methu a chael mynediad i addysg gynradd gyflawn Gymraeg. Sut gellir cyfiawnhau rhoi darpariaeth ieithyddol gynhwysfawr i rai plant ac yna ar yr un gwynt amddifadu eraill o'r un gymuned rhag yr un cyfleoedd? Mae dyletswydd ar y Cyngor Sir i ymateb i ddyheadau rhieni, ac os yw rhieni yn dynodi blaenoriaeth dros addysg gyflawn Cymraeg yna mae'n ofyniad arnynt i fodloni hynny. Ar hyn o bryd mae cael mynediad i addysg gynradd cyflawn Gymraeg yn Sir Gr loteri yn seiliedig ar god post ac yn sefyllfa gwbl anerbynniol." Aeth Miss Owen ymlaen i ddweud: "Mae'n amlwg nad yw diffiniadau ieithyddol yr Awdurdod yn cyfateb i gategorau Llywodraeth y Cynulliad yn y maes, ble nodir mair diffiniad o ysgol Gymraeg yw ble dysgir pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr unig ysgol yn nalgylch Rhydaman syn darparur cwricwlwm llawn trwy gyfrwng y Gymraeg yw Ysgol Gymraeg Rhydaman. Yn syml iawn, nid oes modd cymharur ddarpariaeth ieithyddol a gynigir mewn Ysgol Benodedig Gymraeg ag mewn Ysgolion Trosiannol neu Ysgolion Dwy Ffrwd. O dderbyn hynny felly mae cynnig darpariaeth nad ywn cyfateb ir addysg a gynigir yn Ysgol Gymraeg Rhydaman yn gynnig anghydradd ac yn gwahaniaethu disgyblion a theuluoedd ar sail daearyddol." Ymddengys hefyd fod dryswch o ran dalgylchoedd yr ysgolion hyn gyda rhai teuluoedd sy'n byw rai milltiroedd yn unig o'r ysgol heb lwyddo i gael lle yn ogystal theuluoedd sy'n byw y tu allan i'r dalgychoedd a ystyriwyd ynghynt yn rhai swyddogol. Meddai Miss Owen "Maer sefyllfa dan sylw'n tanlinellu pwysigrwydd yr angen i gynllunio llefydd digonol yn yr ardal er mwyn cydweddu r amcanion cenedlaethol a osodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn eu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Yr egwyddor sylfaenol yma yw fod cynnydd aruthrol yn y galw o du rhieni am addysg gyflawn Gymraeg ac amharodrwydd ymddangosiadol o du'r Cyngor Sir i flaengynllunio'n strategol i ddiwallu hynny. Mae'n gwbl amlwg fod rhaid mynd i'r afael hyn ar fyrder gan fabwysiadau datrysiadau tymor byr a hir-dymor i'r sefyllfa. Does dim amheuaeth mai parhau i dyfu fydd y galw, ac heb lefydd digonol, parhau i gael eu siomi a'u trin yn anghydradd y bydd rhieni Sir Gr sydd am addysg gyflawn Gymraeg i'w plant. Mae cynnig darpariaeth sydd wedi'i lastwreiddion ieithyddol yn annerbyniol."
...
Rhieni Wrecsam yn lleisio cefnogaeth o blaid ysgol Gymraeg newydd i Wersyllt
Mewn cyfarfod cyhoeddus diweddar a gynhaliwyd yn Ysgol Plas Coch, Wrecsam cafwyd cefnogaeth unfrydol ymysg rhieni lleol o blaid cynllun arfaethedig i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sbon yn Delamere Avenue, Gwersyllt. Roedd rhieni'n unedig yn eu dyheadau i weld datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd yn Wrecsam ac yn gwbl gytun y dylid cefnogi ymroddiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i sefydlu ysgol newydd sbon. Amlygwyd y ffaith fod galw cynyddol erbyn hyn am addysg cyfrwng Cymraeg yn ngogledd y Sir a hynny'n cael ei adlewyrchu yn y ffaith fod niferoedd cynyddol o grwpiau Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin yn ffynnu yn yr ardal. Pwysleiswyd fod Ysgol Plas Coch, sef yr ysgol sy'n darparu addysg cyfrwng Cymraeg i'r dalgylch ar hyn o bryd, yn methu a diwallu'r galw cynyddol hwnnw ymysg rhieni lleol sy'n dewis addysg Gymraeg ar gyfer eu plant, ac o ganlyniad wedi gorfod gosod cabanau fel datrysiad byr dymor i ddygymod 'r twf o ran niferoedd. Ategwyd mai'r unig ateb hir dymor yw i sefydlu darpariaeth newydd yn yr ardal a fydd yn fodd o liniaru'r gwasgedd presennol arni fel ysgol. Byddai sicrhau darpariaeth newydd, a hwnnw'n ddarpariaeth hygyrch a lleol, yn fodd o ddiwallu'r galw cynyddol ymysg rhieni gogledd y Sir am addysg cyfrwng Cymraeg. Pasiwyd cynnig o blaid sefydlu cangen Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn yr ardal i sianelu cefnogaeth o blaid yr ysgol newydd arfaethedig ynghyd datblygiadau'r dyfodol mewn perthynas ag addysg Gymraeg ledled Wrecsam. Meddai Jeremy Salisbury, Cadeirydd newydd cangen RhAG Wrecsam, "Rwyf yn falch iawn o gael ymwneud gwaith RhAG yn lleol ac i gydweithio fel cangen gyda'r Awdurdod Addysg Lleol i sicrhau fod rhieni'n medru dewis addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant ac fod y ddarpariaeth hwnnw'n cwrdd 'r safonau uchel yr ydym oll yn eu dymuno eu gweld." Cynhelir cyfarfod swyddogol cyntaf y gangen newydd yn y flwyddyn newydd a hynny cyn i Bwyllgor Cynllunio y Sir ymgynnull i drafod cais caniatad cynllunio'r ysgol newydd arfaethedig. Am fwy o fanylion ynglyn 'r trefniadau cysyllter Jeremy Salisbury ar 07540169242 / jeremy.salisbury@talktalk.net. Croeso mawr i bawb.
...
Bwletin Cangen RhAG Caerffili - newyddion diweddaraf (Ionawr 2011)
Daeth rhyw hanner cant o rieni, athrawon a charedigion addysg Gymraeg at ei gilydd yn neuadd Ysgol Bro Allta, Ystrad Mynach, nos Lun 24ain o Ionawr. Daeth cynrychiolaeth gref iawn o blith rhieni Ysgolion Cymraeg tref Caerffili am fod y rhieni hyn yn awyddus i wybod mwy am gynigion yr Awdurdod Lleol ar gyfer eu plant. Cyhoeddodd Awdurdod Addysg Caerffili gynigion yn ystod yr haf ynglyn sut yr oeddent am ddelio gydar cynnydd aruthrol sydd yn bodoli am addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir. Disgwyliwyd 420 o blant i ddechrau ym Meithrinfeydd ein Hysgolion Cymraeg fis Medi. Rydym wedi cyrraedd y nifer hwn drwy dyfiant cyson dros nifer o flynyddoedd, ac nid ffenomenon y flwyddyn hon yn unig yw hyn. Mae hyn yn golygu y bydd y nifer o blant yn ein Hysgolion Cynradd Cymraeg, felly, yn cyrraedd 3,360 ymhen 8 mlynedd. A dyw hyn ddim yn cymryd i ystyriaeth y tyfiant o 8% syn digwydd yn ychwanegol i hyn! Maer rhif hwn tua 1,000 yn fwy nar nifer sydd yn yr ysgolion hynny ar hyn o bryd. Mae hyn yn 1,000 yn fwy o blant nag sydd yno ar hyn o bryd! Er mwyn diwallur galw roedd y sir am greu Ysgolion Canol. Byddai hyn yn golygu plant Cyfnod Allweddol 2 yn symud ymlaen ir ysgolion hyn yn saith mlwydd oed ac ymuno yno phlant Blynyddoedd 7, 8 a 9 h.y. ysgolion i blant 7 - 14 oed. Wrth sefydlu tair or ysgolion hyn drwyr sir byddent yn rhyddhau lle yn yr ysgolion cynradd drwy droir rheiny yn Ysgolion Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3 - 7. Byddai hefyd yn mynd ir afael r broblem sydd yn codi wrth i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni gyrraedd ei llawn dwf o 1,480. Gosodwyd cais ger bron y Cynulliad Cenedlaethol am gymorth i ariannur cynllun hwn a fyddain costio tua 30m iw sefydlu yn ardal tref Caerffili yn y lle cyntaf. (Roedd hyn i gynnwys darpariaeth ar gyfer yr ysgol leol hefyd.) Profodd yr argymhellion hyn yn amhoblogaidd gan rieni oedd yn teimlo nad oeddent am weld plant mor ifanc 7 yn yr un ysgol phlant 14 oed. Hefyd, roedd hyn yn golygu y byddai rhai plant yn gorfod teithio yn iau nag y mae galw arnynt wneud ar hyn o bryd. Wrth ir gobaith o gael ariannur prosiect hwn bellhau ac mewn ymateb i anfodlonrwydd rhieni newidiodd yr awdurdod y cynllun. Nawr maent am addasu adeiladau Ysgol Gyfun Sant Ilan fel bod Ysgol Gymraeg Caerffili yn mynd i mewn i floc y Gwyndy wedi i hwnnw gael ei foderneiddio. Bydd plant Ysgol Gymraeg Caerffili, Ysgol y Castell ac Ysgol Ifor Bach wedyn yn mynd i adeilad y Phoenix ar safle Sant Ilan ar gyfer eu haddysg ym Mlynyddoedd 7,8 a 9 cyn trosglwyddo i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ar gyfer y cwricwlwm 14 - 19. Yng nghyfarfod y 24ain o Ionawr mynegodd y rhieni eu pryder am amryw resymau. Teimlai nifer y byddai eu plant dan anfantais o drosglwyddo ir Ysgol Gyfun gan ymuno u cyfoedion a fyddai, erbyn hynny, wedi bod ar y campws ers tair blynedd. Ofnai eraill y byddai ymgais yr Ysgol Gyfun i gynnwys y plant hyn yng ngweithgareddau safle Gellihaf yn golygu mwy a mwy o deithio i blant ac athrawon. Teimlai eraill bod pethaun symud yn l ir ffordd y bu flynyddoedd yn l pan oedd yr Ysgol Gyfun ar ddau safle. Roedd rhieni eisiau gwybod i ba raddau y byddai eu plant yn rhan o weithgareddau gydau cyfoedion yng Nghwm Rhymni ac i ba raddau y cynhelid y gweithgareddau hynny ar wahn. Teimlid bod plant yn aml yn dewis pynciau oherwydd eu hadnabyddiaeth o athrawon ond na fyddent yn gallu gwneud hynny dan y gyfundrefn arfaethedig. Wrth fynegi ofnau, gwelai pawb yr anhawster a wynebair awdurdod wrth geisio datrys y sefyllfa syn codi drwy ffyniant yr iaith yn ein sir. Gofynnwyd pan na ellid defnyddio safle Sant Ilan, efallai, fel Bloc Chweched Dosbarth neu ar gyfer Blynyddoedd 7 ac 8 or sir gyfan. Holwyd am drefniadau trafnidiaeth ac oriaur amryw ysgolion er mwyn i rieni allu trefnu mynd phlant au codi or ysgol. Llwyddodd y swyddogion a Mr Owain ap Dafydd, Pennaeth Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, i ateb nifer or cwestiynau a thawelu rhai or ofnau. Ond gwelwyd y byddai galaw ar i athrawon a swyddogion y sir orfod gweithio ar sawl agwedd cyn gwireddur cynllun. Edrychwn ymlaen at gwrdd r Sir, yn falch o weld bod rhywbeth yn cael ei wneud or diwedd ar gyfer y gorlenwi yn ein hysgolion. Hefyd, bod gobaith am ddefnyddio safler Gwyndy ar gyfer Addysg Uwchradd cyfrwng Cymraeg yn nhref Caerffili. Etholwyd y swyddogion canlynol i wasanaethu RhAG yn Sir Caerffili. Cadeirydd - Ben Jones Is Gadeirydd - Owain ap Dafydd Ysgrifennydd - Lowri Jones Ysgrifennydd Cofnodion - David Phillips Trysorydd - Tony Wilding Trysorydd Cynorthwyol - Eleri Llwyd Dafydd
...
RhAG yn gosod her i Lywodraeth nesaf y Cynulliad
Heddiw cyhoeddodd y mudiad cenedlaethol Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) eu maniffesto gogyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011. Yn y ddogfen mae'r mudiad yn galw am Fesur Addysg Gymraeg newydd a fydd yn diogelu hawliau rhieni i roi addysg Gymraeg i'w plant. Mae RhAG hefyd am weld Llywodraeth nesaf Cynulliad Cymru'n ymyrryd pan nad yw awdurdod lleol yn cyflawni gofynion y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a lanswyd gan y Gweinidog Addysg ym mis Ebrill eleni. Mae'r maniffesto hefyd yn tynnu sylw at anawsterau sy'n parhau i lesteirio a llyffetheirio twf a datblygiad addysg Gymraeg ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys problemau o ran mesur y galw a gweithredu ar y canfyddiadau, diffyg blaengynllunio digonol, problemau dilyniant ieithyddol, cludiant, hyrwyddo manteision addysg Gymraeg a chefnogaeth i rieni sy'n dewis rhoi addysg Gymraeg i'w plant. Mewn cyfnod o gynni economaidd gyda gofynion ariannol enfawr ar lywodraeth ganol a lleol, mae'r maniffesto'n annog edrych yn greadigol ar ffyrdd o gyflymu twf addysg Gymraeg trwy ystyried model y 'dosbarth cychwynnol' sy'n ddull y mae Caerdydd wedi'i weithredu'n llwyddiannus ers sawl blwyddyn bellach. Meddai Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG, "Mae'r maniffesto'n ymgorfforiad o'n profiadau ni fel mudiad ac yn cwmpasu'r problemau hynny sy'n parhau i fygu twf addysg Gymraeg mewn rhannau helaeth o Gymru. Yn naturiol rydym yn croesawu dyfodiad y Strategaeth newydd sydd wedi arddangos llywodraeth ganol am y tro cyntaf yn cymryd yr awenau yn y gwaith o gynllunion strategol i ymateb ir galw cynyddol am Addysg Gymraeg. Yn sgil hynny rydym am osod her nid yn unig i lywodraeth nesaf y Cynulliad, ond yn ogystal i'r awdurdodau lleol, sicrhau eu bod yn cadw at eu addewidion ac yn cydymffurfio o ran eu dyletswyddau i rieni Cymru parthed dewis iaith addysg eu plant." "Mae tystiolaeth eisioes yn awgrymu nad yw awdurdodau lleol syn mynd ati i gynllunio addysg Gymraeg yn rhoir sylw priodol ir Strategaeth hon. Un pryder yw nad oes gofynion statudol ynghlwm wrthi. Gall hyn olygu y cyfyd sefyllfa lle bydd strategaeth yn bodoli ond nad oes gan Lywodraeth y Cynulliad y gallu i sicrhau ei gweithredun llawn ac y bydd awdurdodau lleol o ganlyniad yn parhau i beidio cyflawni." "Bu'r wythnos diwethaf yn garreg filltir hanesyddol o safbwynt yr iaith Gymraeg gydag aelodau ein Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio o blaid rhoi statws swyddogol iddi o fewn y Mesur Iaith newydd. Gyda dyfodiad y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg eleni ynghyd a'r Strategaeth Iaith arfaethedig maen glir i ni fod angen ir holl elfennau hyn fynd law yn llaw. Ni ellir cyflawni dyheadaur Strategaeth Iaith mewn sawl maes oni bai bod y Strategaeth Addysg yn effeithiol wrth gynyddu niferoedd siaradwyr a sgiliau ieithyddol y gweithlu. Mae RhAG felly am weld cryfhau'r cydgordio rhwng yr elfennau hyn. Cydnabyddir bellach mai Addysg Gymraeg yw'r prif offeryn sydd wedi troi'r trai yn nifer y siaradwyr Cymraeg ac maen glir fod dyfodol yr iaith Gymraeg yn ddibynnol ar sicrhaur amodau gorau i addysg Gymraeg ffynnu a datblygu. Lle mae dyhead a galw o du rhieni yn gyrrur twf mewn addysg Gymraeg, mae rhaid i Awdurdodau Lleol dan arweiniad clir Llywodraeth y Cynulliad ymateb trwy ddiwallur galw hwnnwn briodol."
...
Diffyg gweledigaeth Awdurdod Lleol i ddatblygu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg
Mae cangen leol Castell-nedd Port Talbot y mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi anfon llythyr brys at sylw Cynghorwyr a Swyddogion Addysg ynghylch datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn y Sir. Yn y llythyr mae'r gangen yn tynnu sylw penodol at eu pryder ynghylch cynigion diweddar i ad-drefnu addysg yn y sir. Ymysg y cynigion hynny mae'r bwriad i ystyried agor ail ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ardal ddeheuol y sir, datblygiad sydd iw groesawu, gan y bydd or diwedd yn cynnig addysg cyfrwng Cymraeg yn lleol ir niferoedd mawr o ddisgyblion syn byw yn yr ardal honno. Fodd bynnag, mae diffyg sylfaenol yn y cynigion diweddaraf hyn i ddiwallur galw mawr am addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector cynradd. Mae Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Cynulliad wedi nodi bod angen i Gastell-nedd Port Talbot gynyddu ei darpariaeth gynradd o 30% erbyn 2015, cynnydd syn cyfateb i oddeutu 600 o leoedd ychwanegol, er mwyn diwallur galw a nodwyd eisoes. Dywedodd Eirian Youngman, Cadeirydd RhAG Castell-nedd Port Talbot: "Nodwyd gan y sir yn dilyn eu harolwg mewnol eu hunain bod y galw gan rieni am addysg cyfrwng Cymraeg dros 40%, a bod nifer or ysgolion yn ner sir yn llawn eisoes yn wir, mewn tair ysgol, maer galw am leoedd bron yn ddwbl y niferoedd derbyn swyddogol, ar lle sydd ar gael ar hyn o bryd. Ond er gwaethaf y dystiolaeth gref hon, nid oes unrhyw gynlluniau wediu rhoi gerbron i fynd ir afael r galw hwn, a chreu mwy o leoedd ysgol cyfrwng Cymraeg yn y sector cynradd yn ardal ddeheuol Castell-nedd Port Talbot. Teimla RhAG yn gryf y dylair ysgolion cynradd newydd cyfrwng Cymraeg y mae mawr alw amdanynt gael eu lleoli yn ardaloedd Resolfen a Llandarsi/Sgiwen, lle maer galw ar ei uchaf." "Er mwyn sicrhau arian ar gyfer ysgolion cynradd newydd, maen hollbwysig fod cais y sir ir Cynulliad am arian cyfalaf, sydd iw chyflwyno ir Cynulliad erbyn canol mis Rhagfyr, yn cynnwys cynigion ar gyfer darpariaeth gynradd newydd. Yn wir, mae'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn nodi'n glir y dylai Awdurdodau Lleol ystyried y galw yn y dyfodol am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a'r gallu i fanteisio arni, wrth gynllunio i newid y ddarpariaeth ysgol, ac wrth wneud cynigion ar gyfer y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain. Mae siroedd eraill megis Caerdydd, eisoes yn cynnwys addysg Gymraeg fel rhan ou cynlluniau wrth gyflwyno ceisiadau am arian. "Yr ydym yn galw ar gynghorwyr a swyddogion y cyngor i sicrhau bod y cais am arian cyfalaf yn cynnwys cynigion i ehangu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot, er mwyn ateb y galw gan rieni a sicrhrau cyfle cyfartal i bob plentyn dderbyn ei addysg drwy ei ddewis gyfrwng yn ei gymuned leol."
...
RhAG yn croesawu cyhoeddiad Cyngor Caerdydd ynglyn a Threganna
Mae RhAG Caerdydd wedi croesawu cyhoeddiad a gafwyd yr wythnos hon gan Gyngor Caerdydd sy'n amlinellu eu bwriad i adeiladu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sbon. Cafodd dyfodol addysg Gymraeg yng ngorllewin y ddinas hwb sylweddol yr wythnos yma gyda chyhoeddiad diweddaraf y Cyngor o'u cynlluniau i ddiwallu'r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn ardal Treganna. Yn dilyn cyfnod hirfaith o ymgyrchu di-flino cafodd rhieni Ysgol Gymraeg Treganna ac Ysgol Tan-y-Eos wybod am fwriadau'r Cyngor i adeiladu ysgol newydd ar dir ger heol Sanatorium ar gost o oddeutu 9miliwn. Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Nona Gruffudd Evans Cadeirydd RhAG Caerdydd, "Mae'r newyddion hir-ddisgwyliedig hwn yn sicr i'w groesawu ac mae'r ffaith fod pethau o'r diwedd yn symud ymlaen yn gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir. Wrth gwrs rhaid tymheru'r cyffro hwnnw gyda ychydig o bwyll gan fod llwyddiant y cynllun mor ddibynnol ar gyllid o du llywodraeth y Cynulliad. Hyderwn felly y bydd y llywodraeth yn medru ymateb yn ffafriol i'r unig gynnig realistig bellach ar gael i ddatrys twf addysg Gymraeg yn Nhreganna." "Rhaid cael sicrwydd yn awr gan Lywodraeth Cynulliad Cymru y byddant yn cadw at eu hymrwymiad i gydweithio gyda Chyngor Caerdydd i ganfod datrysiad ac y bydd hynny'n arwain at sicrhau'r cyllid sy'n angenrheidiol i gael y maen i'r wal gyda'r prosiect. Mae sefyllfa Treganna yn un rhan amlwg o'r galw cynyddol am addysg Gymraeg ledled Caerdydd, yn enwedig felly yng ngorllewin y ddinas, a bydd symud i ddatrys hyn ar fyrder yn caniatau i'r cyngor weithio tuag at fynd i'r afael a sefyllfaoedd eraill sydd hefyd angen sylw dybryd. Ni allwn bwysleisio'n ormodol felly fod yn rhaid wrth gydweithio agos ac ewyllys gref o du'r llywodraeth er mwyn gwireddu'r cynllun." Aeth ymlaen i ddweud, "Mae'r cyhoeddiad hefyd yn arwyddocaol gan ei fod yn rhoi arwydd o sicrwydd a sefydlogrwydd nid yn unig i rieni presennol yr ysgolion ond hefyd i rieni'r dyfodol. Wedi blynyddoedd o ansicrwydd mae hyn yn gwbl anghenrheidiol i roi hyder i'r nifer cynyddol o rieni yn yr ardal sydd am roi addysg Gymraeg i'w plant. Mae pwysigrwydd cyhoeddiad yr wythnos yma felly yn cynrychioli datblygiad gyda sgil-effeithiau pellgyrhaeddol tu hwnt." Ond rhybuddiodd Mrs Gruffudd Evans, "Rhaid cydnabod na fydd hwn yn ddatrysiad a fydd yn ei le dros nos, ac o'r herwydd hynny rhaid rhoi cynllun interim ar waith i leddfu'r amodau annerbyniol presennol yn ystod y cyfnod fydd yn arwain at agor yr ysgol newydd arfaethedig yn 2013. Gyda hynny mewn golwg felly, bydd RhAG yn parhau i gydweithio gyda rhieni, Cyngor Caerdydd a swyddogion y llywodraeth i sicrhau y bydd datganiad yr wythnos yma yn dod yn realiti gwirioneddol a hynny'n unol a'r amserlen sydd wedi'i amlinellu."
...